Skip to content

Hanes Tommy Jones a Bannau Brycheiniog

Golygfa’n edrych dros y bryniau at gopa gwyn Pen y Fan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cymru, gydag awyr las a bandyn isel o gymylau yn y cefndir.
Pen y Fan o’r A40, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog | © National Trust Images/Chris Lacey

Darganfyddwch hanes trist Tommy Jones, bachgen bach pump oed a aeth ar goll ym mynyddoedd Bannau Brycheiniog. Ers y 1900au mae’r stori wedi’i phasio o un genhedlaeth i’r llall a chyffwrdd calon llawer o bobl.

Stori drist Tommy Jones  

Ar 4 Awst 1900, penderfynodd glöwr o’r Maerdy, Cwm Rhondda Fach, fynd â’i fab pump oed, Tommy, i ymweld â’i famgu a’i dadcu, a oedd yn ffermio gerllaw Aberhonddu. Fe aethon nhw ar y trên gyda’r bwriad o gerdded y 4 milltir (6.4km) olaf i Gwmllwch, y ffermdy yn y dyffryn islaw Pen y Fan.

Taith hir i ymweld â theulu

Erbyn 8pm roedden nhw wedi cyrraedd y Login, lle’r oedd milwyr yn aros tra’n hyfforddi yn y maes tanio ymhellach i fyny’r dyffryn yng Nghwm Gwdi. Roedd y tad a’r mab wedi stopio i ddal eu gwynt pan ddaethant wyneb yn wyneb â thadcu Tommy a’i gefnder William, a oedd yn 13 mlwydd oed.

Gofynnwyd wrth William fynd yn ôl i’r fferm i ddweud wrth ei famgu bod Tommy a’i dad ar eu ffordd. Penderfynodd Tommy fynd gyda’i gefnder a rhedodd i fyny’r cwm gydag ef.

Penderfyniad trist 

Pan oedd y ddau fachgen hanner ffordd, dechreuodd Tommy ofidio ac roedd eisiau mynd yn ôl at ei dad yn y Login. Mae’n bosib mai’r tywyllwch oedd wedi codi ofn arno. Felly gwahanodd y 2 fachgen. Aeth William i roi’r neges i’w famgu a dychwelodd i’r Login, ond doedd dim golwg o Tommy.

Golygfa ar draws y dyffryn o Ben y Fan, Bannau Brycheiniog, Cymru 
Golygfa o Ben y Fan, Bannau Brycheiniog, Cymru  | © National Trust Images / Joe Cornish

Ar goll ar y Bannau

Dechreuodd ei dad a thadcu chwilio amdano ar unwaith, a daeth milwyr o’r gwersyll i’w helpu. Rhoddwyd y gorau i chwilio am hanner nos, ac ailddechreuodd yr ymdrechion am 3pm y diwrnod wedyn. Bu pobl yn chwilio am Tommy am wythnosau. Bob dydd, roedd grwpiau o heddweision, milwyr, ffermwyr a gwirfoddolwyr eraill yn chwilio’r ardal â chrib fân, heb unrhyw lwc

Y freuddwyd

Ar ôl darllen am yr holl chwilio, mae’n debyg i’r llecyn lle daethpwyd o hyd i Tommy ymddangos ym mreuddwydion dynes a oedd yn byw ychydig i’r gogledd o Aberhonddu. Cafodd y wraig ambell i ddiwrnod aflonydd cyn perswadio ei gŵr i helpu i chwilio am Tommy.

Ddydd Sul 2 Medi, gwnaethant fenthyg merlen a thrap i deithio’n nes at y Bannau, nad oedden nhw wedi’u dringo erioed o’r blaen.

Er cof amdano

Ni allai neb esbonio sut llwyddodd y bachgen bach 5 oed gyrraedd yr uchelfannau lle cafodd ei gorff ei ddarganfod. Roedd wedi dringo 1,300tr (396m) o adeilad y Login. Cynhaliwyd cwêst i farwolaeth Tommy yn fuan wedyn.

Penderfynwyd ei fod wedi marw o flinder ac oerfel (hypothermia). Rhoddodd yr holl reithwyr yn y cwêst eu ffioedd i gronfa goffa ar ôl clywed sut buodd Tommy farw. Mae’r union fan lle daethpwyd o hyd i gorff Tommy wedi’i farcio ag obelisg carreg ithfaen mawr arysgrifedig, a ariannwyd drwy’r rhoddion coffa.

'This obelisk marks the spot where the body of Tommy Jones aged 5 was found. He lost his way between Cwm Llwch Farm and the Login on the night of August 4, 1900. After an anxious search of 29 days his remains were discovered Sept [2nd]. Erected by voluntary subscriptions. W Powell Price Mayor of Brecon 1901'

- Arysgrifiad ar gofeb Tommy Jones

Tîm Achub Mynydd ar y Bannau   

Pasiodd 60 mlynedd a mwy cyn i’r Tîm Achub Mynydd cyntaf gael ei sefydlu ym Mannau Brycheiniog. Mae’n wasanaeth gwirfoddol gwerthfawr sy’n dal i fynd yn yr ardal hyd heddiw.

Ffynhonnell: Crynodeb o daflen Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ‘Victim of the Beacons’.

Cerddwyr ar lethr serth ar lwybr pedol Cwm Llwch, Bannau Brycheiniog, Powys, gyda bryniau a choetir yn y pellter.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun tirlun yn edrych ar draws copaon gwyrddion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Powys.
Erthygl
Erthygl

Crwydro Pen y Fan a Chorn Du 

Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.

Dyfroedd Rhaeadr Henrhyd, Powys, yn tasgu i lawr wyneb y graig i’r pwll oddi tano. Mae canghennau mawr yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Rhaeadr Henrhyd a Choedwig Graig Llech 

Darganfyddwch Raeadr Henrhyd a gwyliwch y dŵr yn plymio i geunant coediog Nant Llech. Mae Coedwig Graig Llech yn hafan i fwsogl a chen. Mae’r llecyn gwyrdd naturiol hwn yn boblogaidd gyda gwylwyr adar hefyd oherwydd ei amrywiaeth eang o adar y coed.