Skip to content

Ymweld â Rhaeadr Henrhyd a Choedwig Graig Llech

Dyfroedd Rhaeadr Henrhyd, Powys, yn tasgu i lawr wyneb y graig i’r pwll oddi tano. Mae canghennau mawr yn y blaendir.
Rhaeadr Henrhyd, Powys | © National Trust Images/John Millar

Mae Rhaeadr Henrhyd, rhaeadr uchaf De Cymru, yn swatio ar ymyl orllewinol Bannau Brycheiniog. Mae’n rhyfeddod naturiol ac yn plymio 90 troedfedd (27m) i mewn i geunant coediog. Ewch am dro drwy Goedwig Graig Llech, sy’n ei hamgylchynu ac yn hafan heddychlon i blanhigion a bywyd gwyllt.

Pethau i’w gweld yn Rhaeadr Henrhyd a Choedwig Graig Llech 

Cerdded

Gall yr ardal fod yn wlyb a mwdlyd iawn, yn arbennig ar ôl cawod o law, ond dyma’r adeg orau i weld y rhaeadr. Gallwch ddewis cerdded tuag at y rhaeadr, sydd wedi’i lleoli ger y maes parcio, neu gallwch grwydro ymhellach i Goedwig Graig Llech a mwynhau llwybr cylchol drwy ddyffryn Nant Llech. Cadwch lygad ar agor am yr hen felin ddŵr, Melin Llech, ar hyd y ffordd.

Bywyd Gwyllt

Ar eich taith ar hyd llwybr y dyffryn, gallech weld cnocellod y coed, dringwyr bach, teloriaid a drywod. Mae bronwennod y dŵr a siglennod yn aml i’w gweld yn hela am bryfed ar hyd glannau’r afon. Mae brithyllod i’w gweld yn aml yn ceisio llamu i fyny’r rhaeadrau isaf hefyd.

Pelydrau’r haul yn disgleirio drwy Raeadr Henrhyd, Bannau Brycheiniog, Powys, Cymru   
Pelydrau’r haul yn disgleirio drwy Raeadr Henrhyd, Powys, Cymru | © National Trust Images / John Millar

Planhigion

Mae’r ceunant llaith, coediog a’r llethrau creigiog serth yn hafan i blanhigion sy’n hoff o gysgod a lleithder. Cadwch lygad ar agor am fwsoglau, llysiau’r afu a chennau. Yn sgil eu presenoldeb nhw mae’r ardal wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Daeareg

Mae’r rhaeadr wedi ffurfio ar ffawt daearegol ar Nant Llech ac mae wedi cilio i fyny’r cwm cymaint â 165 troedfedd (50m) ers yr Oes Iâ ddiwethaf. Craig Ffarwel yw’r enw lleol ar yr haen galed o dywodfaen sy’n ffurfio min y rhaeadr. Byddai glowyr yn cloddio i lawr at yr haen hon ym mhyllau glo cymoedd De Cymru ac yn bloeddio ‘ffarwel’ gan mai prin oedd y gobaith o ddarganfod glo oddi tani.

Darganfyddiad hanesyddol 

Yng nghanol y 1800au, gwnaed arolwg o’r ardal gan William Logan, daearegwr rhyngwladol enwog. Tra ei fod yn cynnal yr arolwg, gyda’r bwriad o lunio map daearegol manwl o feysydd glo De Cymru, darganfyddodd ddwy goeden wedi ffosileiddio ar waelod y rhaeadr. Rhoddodd William y ffosiliau anarferol hyn i Amgueddfa Abertawe, lle gallwch eu gweld hyd heddiw.

Map lichen patches creating a mosaic pattern on a coastal rock face, Lundy Island, Devon
Golwg graff ar gwilt y mynydd | © National Trust Images / Nick Upton

Set ffilm fodern yn Rhaeadr Henrhyd

Cafodd y ffilm Hollywood boblogaidd The Dark Knight Rises ei ffilmio yma. Y rhaeadr oedd lleoliad cuddfan y prif gymeriad, Batman. Y prif actor yn y ffilm oedd Christian Bale, a fyddai’n diflannu y tu ôl i’r rhaeadr i fynd i’r Batcave.

Gallwch chi wneud yr un peth a cherdded y tu ôl i len o ddŵr gwyn yn ystod eich ymweliad. Cewch ryfeddu at adlewyrchiadau disglair a chlywed grym natur o’r tu ôl i’r rhaeadr ei hun.

Golygfa o Ben y Fan tuag at Gorn Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, De Cymru.

Darganfyddwch fwy ym Mannau Brycheiniog

Dysgwch sut i gyrraedd Bannau Brycheiniog, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun tirlun yn edrych ar draws copaon gwyrddion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Powys.
Erthygl
Erthygl

Crwydro Pen y Fan a Chorn Du 

Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.

Golygfa’n edrych dros y bryniau at gopa gwyn Pen y Fan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cymru, gydag awyr las a bandyn isel o gymylau yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Tommy Jones a Bannau Brycheiniog 

Hanes trist bachgen bach 5 oed a aeth ar goll ar fynyddoedd Bannau Brycheiniog yn haf 1900. Mae’r stori drist wedi’i pasio o un genhedlaeth i’r llall a chyffwrdd calon llawer o bobl. Mae cofeb wedi’i chodi fel symbol o ddarganfod a cholled.