Skip to content

Creu gweirgloddiau yn Eryri

Gweirglodd o flodau gwyllt yng Nghymru yn cynnwys amrywiaeth o flodau lliwgar
Gweirglodd o flodau gwyllt | © National Trust Images/Derek Hatton

Diflannodd 97 y cant rhyfeddol o weirgloddiau’r Deyrnas Unedig ers yr 1930au. Mae wardeiniaid yn Eryri’n gweithio’n galed i greu ac adfer y glaswelltir llawn blodau yma fydd yn dod â budd i amrywiaeth o fywyd gwyllt o loÿnnod byw i adar prin.

Yr hadau i gychwyn

Mae bron i ddwsin o weirgloddiau wedi eu creu neu eu hadfer ers 2011, ac mae’r gwaith wedi dechrau gyda ffermwyr lleol, yr RSPB a Plantlife i gynyddu’r nifer yn ddramatig yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Er mwyn helpu i gynnal tarddiad a chymeriad gweirgloddiau lleol mae’n bwysig dod o hyd i gymysgedd o hadau lleol. Fel rhan o brosiect Gweirgloddiau’r Coroni Plantlife, mae un o’r gweirgloddiau ger Penmachno wedi cael ei chydnabod yn weirglodd aeddfed all roi hadau i helpu i sefydlu rhai newydd.

Mae’r weirglodd yma’n orlawn o flodau gwyllt gan gynnwys tamaid y cythraul, planhigyn bwyd y glöyn byw prin, brith y gors. Casglwyd hadau oddi yma gan wardeiniaid a’u chwalu mewn caeau yn nyffrynnoedd Beddgelert a Nant Ffrancon.

Glöyn byw britheg y gors wryw gydag adenydd patrwm brown, oren a hufen.
Glöyn byw britheg y gors wryw | © National Trust Images/Matthew Oates

Gwledd i adar prin

Nant Ffrancon yw un o gadarnleoedd y Deyrnas Unedig ar gyfer aderyn prin o’r enw llinos y mynydd. Mae’r adar bach brown yma yn rhan o deulu’r pincod, sy’n magu yn yr ucheldir ond yn gwledda yn y gweirgloddiau. Ymhlith eu hoff fwyd mae hadau dant y llew, suran y cŵn, ysgall a pheradyl yr hydref.

Mae’r gweirgloddiau newydd a gyflwynwyd i’r dyffryn yn llawn o hoff fwyd llinos y mynydd, gan helpu i sicrhau bod ganddynt ddigon o fwyd i’w cadw trwy’r cyfnod magu prysur.

Meithrin gweirgloddiau

Mae angen rheolaeth ofalus ar y gweirgloddiau newydd yma, gan gynnwys crafu, torri, a phori yn y gaeaf cyn ac ar ôl hau hadau er mwyn rhoi cyfle da iddyn nhw egino a thyfu. Mae ar rai safleoedd angen hau hadau sawl tro, ond mae gweirgloddiau yn naturiol yn gynefinoedd sydd wedi datblygu dros flynyddoedd o reolaeth.

Yn ychwanegol at greu gweirgloddiau, mae blodau gwyllt wedi cael eu hau o gwmpas swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’u bythynnod gwyliau. Mae’r ynysoedd bach yma o flodau gwyllt yn helpu i gau’r bylchau rhwng gweirgloddiau ac mae’n rhywbeth y gall unrhyw un sydd â gardd ei wneud i gynnig hafan i loÿnnod byw, gwenyn ac adar.

Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.

Darganfyddwch fwy am Garneddau a Glyderau

Dysgwch sut i gyrraedd Carneddau a Glyderau, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.
Erthygl
Erthygl

Cerdded a dringo ar Dryfan 

Beth sy’n gwneud Tryfan mor arbennig? Dysgwch am hanes y copa garw a’r heriau y mae’n eu rhoi i ddringwyr a mynyddwyr sy’n ceisio ei goncro.

Pedwar cerddwr yn dringo bryn creigiog ger Pen yr Ole Wen, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd. Mae llawer o gerrig anferth ar y bryn ac mae copa i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Hanes a chwedlau Cwm Idwal 

Dysgwch am orffennol Cwm Idwal, y ffordd y darganfu Darwin sut y crëwyd Cwm Idwal a chwedl tywysog o’r 12fed ganrif a’i fab oedd yn dal y tir