Skip to content

Ymweld â Chemaes i Lanbadrig

Porth Padrig
Gaeaf ym Mhorth Padrig | © National Trust images/John Miller Photography

O gloch llanw a ddyluniwyd gan Marcus Vergette, i weddillion odyn galch sy’n awgrymu hanes diwydiannol Ynys Môn, mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae ganddo ddigon i’w gynnig i gerddwyr. Wrth i chi gyrraedd traeth Llanbadrig, stopiwch i edmygu’r Ladi Wen chwedlonol, neu’r Fonesig Wen, corn cwartsit godidog.

Heron sat on a tree branch in Southern Woods at Quarry Bank Mill, Cheshire
Crëyr glas | © National Trust Images/Derek Hatton

Cerdded yng Nghemaes

Pentref pysgota traddodiadol ar arfordir gogleddol Ynys Môn yw Cemaes gyda'r afon Wygr yn llifo o fynydd Parys gerllaw i'r bae. Wrth i chi gerdded ar hyd llwybr Arfordir Cymru tuag at Lanbadrig fe'ch cyfarchir â golygfeydd dymunol dros Fôr Iwerddon. Ar ddiwrnodau clir gallwch weld Ynys Manaw, bryniau Ardal y Llynnoedd a mynyddoedd Morne, Iwerddon yn y pellter. Ar y ffordd i Lanbadrig fe sylwch ar gaeau gwair traddodiadol sy’n blodeuo blodau gwylltion yn ystod misoedd yr haf, llamidyddion yn dod i fyny am aer ac adar arfordirol fel y crëyr glas, gwylan goesddu, drycin y graig a’r wylog. 

Y Ladi Wen

Unwaith y byddwch wedi cyrraedd traeth Porth Padrig, sylwch ar ffurfiant trawiadol y graig ym mhen pellaf y bae cilgant. Mae’r ffurfiant cwartsit naturiol hwn yn cael ei adnabod yn lleol fel y ‘Ladi Wen’. Mae'r enw'n deillio o ysbryd menyw wedi'i gwisgo mewn gwyn mewn Mytholeg Geltaidd, a fyddai'n ymddangos i blant drwg i’w rhybuddio am ymddygiad gwael. Dim ond un o nifer o nodweddion daearegol gwych ar Ynys Môn yw’r Ladi Wen, sy’n rhan o Gyfadeilad Mona – yr unedau craig hynaf a welir yng Nghymru. 

Y Ladi Wen ym Mhorth Padrig
Y Ladi Wen ym Mhorth Padrig | © National Trust images/Joe Cornish

Hanes Lleol

Mae traeth a phentref Llanbadrig wedi'i enwi ar ôl Sant Padrig o Iwerddon. Cafodd ei ysigo ar Ynys Padrig ychydig oddi ar yr arfordir. Ar ôl dod iddo ddod o hyd i ffordd i dir sych, darganfyddodd ogof i gysgodi. Heddiw gelwir yn Ogof Padrig ble mae ffynnon hefyd wedi enwi ar ei ôl. Er mwyn dangos ei ddiolchgarwch i Dduw am oroesi'r llongddrylliad, adeiladodd Padrig eglwys ar y coglwyni uwchben yr ogof. Ystyrir yr eglwys fel yr hynaf yng Nghymru.  

 

Oherwydd adnewyddiad yr adeilad yn 1884 ar ôl i'r trydydd Arglwydd Stanley o Alderly roddi arian i'r eglwys i adlewyrchu ei dröedigaeth i'r ffydd Islam, mae’r lleoliad yma yn wahanol i eglwysi arall yng Nghymru. Mae tu fewn yr eglwys yn hynod o drawiadol gyda chyferbyniad dramatig rhwng y waliau cerrig traddodiadol a'r teils a'r eiconograffeg Arabaidd. 

Two adults with a young child, all smiling together and admiring the festive window art in Newton House at Dinefwr, Carmarthenshire

Ymuno

Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Coetir Glan Faenol
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Glan Faenol 

Mwynhewch olygfeydd o Blas Newydd ar draws rhuthr llanw’r Fenai.

Gaeaf ym Mhorth Dafarth
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Phorth Dafarch 

Mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru yn boblogaidd oherwydd ei hanes cyfoethog, bae tywodlyd, ogofâu a ffurfiannau creigiau hynafol. Mae’r clogwyni’n gartref i’r frân goesgoch niferus sydd i’w gweld a’u clywed yn yr ardal.