Skip to content

Ymweld â Glan Faenol

Coetir Glan Faenol
Glan Faenol | © National Trust images/James Dobson

Mae gan y coetir 49 hectar (120 erw) hwn ar lan y Fenai olygfeydd godidog draw i Dŷ a Gardd fawreddog Plas Newydd. Mae'r planhigfeydd conwydd yn cael eu yn cael eu disodli gydag coed collddaill naturiol, ac mae eu hisdyfiant cyfoethog o flodau yn lliwgar trwy’r flwyddyn. O'r llwyfan arsylwi a'r guddfan adar gallwch weld amrywiaeth eang o adar y môr ac, o bryd i'w gilydd, morloi.

Cuddfan adar yng Nglan Faenol
Cuddfan adar yng Nglan Faenol | © National Trust images/James Dobson

Archwilio'r coetir yng Nglan Faenol

Darganfyddwch ysblander tymhorol ar y llwybrau niferus sy'n mynd â chi trwy goetiroedd amrywiol ac i fyny'n agos at y Fenai.

Close up of a red squirrel enjoying some food in a forest
Gwiwer goch | © National Trust Images/Gary Bailey

Bioamrywiaeth yn y planhigfeydd

Fe sylwch fod gwaith cadwraeth ar y gweill yng Nglan Faenol. Mae conwydd a oedd yn dioddef o bydredd sylfaen yn cael eu disodli'n raddol gan rywogaethau cymysg o wahanol uchderau ac oedrannau, a fydd yn cynnig bioamrywiaeth a chyfleoedd sylweddol uwch i fywyd gwyllt na phlanhigfa gonifferaidd ungnwd.

Gwylio bywyd gwyllt

Mentrwch i’r guddfan adar i gael cip ar adar y blaendraeth a’r coetir wrth iddyn nhw fwrw iddi â’u bywyd dyddiol. Efallai y byddwch hyd yn oed yn ffodus i weld y wiwer goch neu morloi yn torheulo ar lannau Afon Menai.

Adeiladau hanesyddol yng Nglan Faenol

Roedd coetir Glan Faenol ar un adeg yn rhan o stad y Faenol, sy'n dyddio'n ôl i gyfnod y Tuduriaid. Gallwch weld olion adeiladau o'r breswylfa gyfoethog hon o hyd.

Two visitors exploring the garden in spring at Quarry Bank, Cheshire

Ymuno

Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.

Darganfod mwy

Golygfa ar draws Afon Menai i Blas Newydd o Lan Faenol, Ynys Môn, Cymru.
Llwybr
Llwybr

Taith bywyd gwyllt a choetir Glan Faenol 

Archwiliwch goetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol gyda golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1.5 (km: 2.4)
Golygfa o bont Britannia o Goed Môr
Erthygl
Erthygl

Darganfod Coed Môr 

Darganfyddwch goetir heddychlon Coed Môr ar lan y Fenai. Cerddwch o dan Bont Britannia ar lwybrau sy’n gwau i mewn ac allan o’r canopi ac ymwelwch â’r guddfan adar i weld mulfrain ac adar hirgoes.