Skip to content

Ymweld â Phorth Dafarch

Gaeaf ym Mhorth Dafarth
Gaeaf ym Mhorth Dafarch | © Alex Jones

Mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru yn boblogaidd oherwydd ei hanes cyfoethog, bae tywodlyd, ogofâu a ffurfiannau creigiau hynafol. Mae’r clogwyni’n gartref i’r frân goesgoch niferus sydd i’w gweld a’u clywed yn yr ardal.

Daeareg Porth Dafarch

Mae'n anodd methu’r ffurfiannau creigiau rhyfeddol a hynafol o amgylch yr arfordir garw hwn.

Mae’r ymchwil i ddaeareg Môn a Chymru wedi cael effaith hanesyddol sylweddol ar wyddoniawetrh daeareg.

Mae llawer o greigiau Môn wedi mynd trwy broses a elwir yn fetamorffedd, sy'n cynnwys cael eu gwresogi, eu claddu'n ddwfn, a'u haddasu. Aeth y creigiau o blygiadau a strata a welwch o amgylch arfordir Porth Dafarch trwy fetamorffiaeth tua 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

A grey seal bobbing in the sea at Godrevy
Morloi llwyd | © National Trust Images/Nick Upton

Bywyd gwyllt

Gwrandewch am alwad y frân goesgoch a chael eich swyno gan eu plymio acrobatig hyd yr arfordir. Y frân goesgoch yw'r aelod lleiaf cyffredin o deulu'r frân, sy'n hawdd ei hadnabod gan ei phig a'i choesau coch.

Mae brain coesgoch fel arfer yn byw ar hyd silffoedd arfordirol uchel oherwydd maent yn ffafrio nythu mewn ogofâu môr, strwythurau segur, neu holltau yn y clogwyni. Yma yn y DU dim ond ar y glannau creigiog gorllewinol pellaf y maent yn byw ac maent yn dibynnu ar reoli pori i gynnig digon o dir i chwilota am fwyd.

Mae Porth Dafarch hefyd yn lleoliad gwych ar gyfer gweld bywyd morol. Os ydych chi’n amyneddgar efallai y cewch chi gip ar lamhidydd yn dod i fyny am anadl a gweld morloi yn torheulo ar y creigiau neu’n siglo yn y tonnau.

Hwyl yn y dŵr

I’r rhai sy’n ymddiddori ym mywyd môr, mae Porth Dafarch yn cynnig cyfleoedd gwych i snorcelio ac i archwilio'r pyllau creigiog ac mae’n gyrchfan boblogaidd i gaiacwyr oherwydd y creigiau a’r ogofâu niferus sydd yma ac acw ar hyd arfordir yr ardal.

Several people in tandem kayaks are paddling in the water at Mullion Cove, Cornwall.
Kayaking the caves | © National Trust Images/Ben Selway

Llongddrylliad Y Missouri

Yn gorwedd ym mae Porth Dafarch mae llongddrylliad mwyaf Ynys Môn. Roedd y Missouri, llong 3,000-tunnell yn hwylio o Boston yn yr Unol Daleithiau i Lerpwl, yn cario cargo o wartheg, cotwm ac olew palmwydd.

Gwyntoedd trwm ac eira a yrrodd y llong ar y lan ym Mhorth Dafarch. Gwnaed ymdrechion gan bad achub Caergybi i nadu'r Missouri rhag dryllio ond yn anffodus nid oedd hyn yn bosib. Fodd bynnag, goroesodd y criw ar y llong i gyd. Yn ddiweddarach, arbedwyd llawer o'r cargo, ond yn anffodus bu farw 345 o wartheg allan o'r 395 oedd ar fwrdd y llong.

Heddiw mae Porth Dafarach yn lleoliad poblogaidd i ddeifwyr archwilio’r llongddrylliad enwog, ynghyd â’r llu o fywyd morol.

Cytiau’r Gwyddelod

Yn y cae y tu ôl i'r traeth a'r maes parcio ceir anheddiad hynafol, sef Cytiau'r Gwyddelod,sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod cynhanesyddol. Gall y term hwn fod yn dwyllodrus, gan nad oes perthynas hanesyddol rhyngddynt a'r Gwyddelod. Mae llwythau Gwyddelig wedi preswylio o bryd i'w gilydd yng ngorllewin Cymru yn y gorffennol, sy'n esbonio'r enw a roddir i'r adfeilion archeolegol hyn.

Oherwydd ei photensial i wella ein dealltwriaeth o anheddu a chladdu cynhanesyddol, mae'r heneb yn arwyddocaol ar lefel genedlaethol. Mae'n bosibl rhagweld y bydd y strwythurau eu hunain yn cadw data archeolegol yn ymwneud â dulliau adeiladu.

Exploring the Potager Garden in late summer at Trerice, Cornwall

Ymuno

Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Coetir Glan Faenol
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Glan Faenol 

Mwynhewch olygfeydd o Blas Newydd ar draws rhuthr llanw’r Fenai.

Golygfa o bont Britannia o Goed Môr
Erthygl
Erthygl

Darganfod Coed Môr 

Darganfyddwch goetir heddychlon Coed Môr ar lan y Fenai. Cerddwch o dan Bont Britannia ar lwybrau sy’n gwau i mewn ac allan o’r canopi ac ymwelwch â’r guddfan adar i weld mulfrain ac adar hirgoes.