Skip to content
Newyddion

Hanes Castell y Waun wedi’i ddiogelu i bawb, am byth

Y Salŵn yng Nghastell y Waun, gan gynnwys dwy soffa a chadeiriau â chefn hirgrwn iddynt gan Ince a Mayhew.
Y Salŵn yng Nghastell y Waun, gan gynnwys dwy soffa a chadeiriau â chefn hirgrwn iddynt gan Ince a Mayhew. | © National Trust Images/Paul Highnam

Rydym wedi prynu casgliadau sy'n eiddo i'r teulu Myddelton ac sy’n cwmpasu dros bedwar can mlynedd o'u hamser yng Nghastell y Waun. Mae tua thri chant o eitemau o bwys hanesyddol wedi cael eu trosglwyddo i'n gofal ni, ble byddant yn cael eu cadw am byth i bawb eu mwynhau.

Roedd llawer o'r eitemau wedi bod ar fenthyg i ni ers i’r castell ddod i’n gofal yn 1981. Dros fwy na phedwar degawd, rydym wedi bod wrthi'n casglu gwahanol wrthrychau, gweithiau celf a llyfrau sy'n gysylltiedig â hanes Y Waun a hynny drwy eu prynu o arwerthiannau, trwy roddion, Derbyn yn Lle Treth (‘Acceptance in Lieu’) a thrwy werthiant preifat.

Gyda'r pryniant diweddaraf hwn, rydym bellach wedi caffael rhai eitemau yn y casgliad sydd o’r arwyddocâd mwyaf o safbwynt hanesyddol.

Cysylltiad teuluol di-dor

Cwblhawyd Castell Y Waun, ym mhen uchaf dyffryn Ceiriog, tua 1310 ac roedd yn un o nifer o gaerau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr a adeiladwyd i gynnal concwestau Edward I. Fe'i prynwyd yn 1595 gan Syr Thomas Myddelton, anturiaethwr masnachol o Sir Ddinbych yn wreiddiol, ac fe drawsnewidiodd o’r gaer yn gartref teuluol.

Trwy'r canrifoedd dilynol, bu gan deulu Myddelton gysylltiad di-dor â'r castell, ac adlewyrchir eu hanesion yn y cyfoeth o gasgliadau sydd ar ôl.

Trysorau ac eitemau unigryw sydd wedi goroesi

Mae'r trysorau a brynwyd yn y cytundeb diweddar hwn yn cynnwys nifer o bortreadau o aelodau'r teulu Myddelton drwy’r canrifoedd gan arlunwyr megis Michael Dahl, Syr Godfrey Kneller a Syr Peter Lely. Mae’n cynnwys hefyd dirluniau unigryw o ddechrau'r 18fed ganrif gan John Wootton a Peter Tillemans yn darlunio'r Waun ac a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y castell.

Paentiad olew o Syr Thomas II Myddelton (1586-1666), Ysgol Seisnig, oddeutu 1670.
Paentiad olew o Syr Thomas II Myddelton (1586-1666), Ysgol Seisnig, oddeutu 1670. | © National Trust Images/Paul Highnam

Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys dodrefn gan Ince & Mayhew, gwneuthurwyr dodrefn a chlustogwyr ffasiynol yn y 18fed ganrif, ynghyd â dau ddrych gwydr pier ysblennydd. Yn rhestr stoc y Waun ar gyfer 1795, amcangyfrifwyd bod y gwydr pier a’r byrddau werth chwarter cynnwys y castell cyfan.

Mae’r eitemau unigryw sydd wedi goroesi yn cynnwys bwrdd neuadd gweision o'r 17eg ganrif a wnaed o un darn di-dor o dderw, dros 5 metr (17 troedfedd) o hyd. Dyma lle byddai hyd at 40 o staff yn ymgynnull i fwyta eu prydau. Mae yna hefyd het ledr ddu o'r 17eg ganrif, a brynwyd 'ar gyfer y Barwnig' Thomas Myddelton (ŵyr Thomas yr ail). Mae'n debyg mai dyma un o'r pedair het newydd a nodwyd yng nghyfrifon y castell yn 1668.

Karen George, rheolwr casgliadau yng Nghastell y Waun gyda het ledr brin o’r 17eg ganrif
Karen George, rheolwr casgliadau yng Nghastell y Waun gyda het ledr brin o’r 17eg ganrif | © National Trust Images / Paul Highnam

Cipolwg prin ar hanes y castell

Mae casgliad mawr o ddogfennau’n ymwneud â’r ystâd, dyddiedig mor gynnar â 1250, hefyd wedi trosglwyddo i'n gofal. Mae'r dogfennau archif gwerthfawr hyn yn rhoi cipolwg prin ar hanes y castell dros y canrifoedd.

Ymhlith y dwsinau o lawysgrifau, mae papurau brenhinol gan saith o frenhinoedd/freninesau gwahanol, gan ddechrau gydag Elizabeth I, yn ogystal â dogfen sy'n dangos y darluniad cyntaf y gwyddys amdano o Gastell y Waun yn 1563.

Mae amrywiaeth o bapurau hefyd yn ymwneud â Rhyfel Cartref Lloegr, gan gynnwys nodiadau, llythyrau a phoster sy'n enwi Syr Thomas Myddelton yr ail yn 'fradwr'. Cefnogodd Syr Thomas y Senedd ar ddechrau'r Rhyfel ond yna trosglwyddodd ei deyrngarwch i Siarl II er mwyn adfer y frenhiniaeth.

Cyhoeddiad gan y Senedd, ddydd Mercher 10 Awst, 1659, yn ceisio ‘bradwyr’ gan gynnwys Syr Thomas Myddelton yr ail
Cyhoeddiad gan y Senedd, ddydd Mercher 10 Awst, 1659, yn ceisio ‘bradwyr’ gan gynnwys Syr Thomas Myddelton yr ail | © National Trust Images/Paul Highnam

Dywedodd Karen George, Rheolwr y Tŷ a’r Casgliadau, Castell y Waun: "Mae'r gwrthrychau hyn yn adlewyrchu hanes gwleidyddol, masnachol a chymdeithasol cenedlaethau o'r teulu hwn, ond hefyd teuluoedd ac unigolion eraill sy'n gysylltiedig â'r castell. Mae eu diddordebau artistig, cerddorol a llenyddol yn glir i'w gweld ynghyd â’r modd y comisiynwyd yr enwau mwyaf yn y maes pensaernïaeth ac addurno i ddylunio a diweddaru'r castell. Mae'r cytundeb pryniant hwn yn cadarnhau gwaddol teulu Myddelton wrth i ni barhau i adrodd y straeon hyn.

"Er bod llawer o'r eitemau o’r casgliadau yr ydym wedi'u prynu eisoes yn cael eu harddangos yn y castell, mae’r ffaith ein bod yn berchen arnynt yn awr yn golygu y gallwn ymchwilio'n llawn i'r gwrthrychau a'r archifau, a gwneud gwaith cadwraeth a dadansoddi technegol, a bydd hyn oll yn caniatáu i ni gynnig dulliau newydd i bobl fwynhau’r profiad ohonynt yn eu hamgylchedd hanesyddol. Byddwn yn gallu dysgu mwy am eu cyd-destun, eu pwysigrwydd a'u gwerth yn hanes Cymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a byddwn yn gallu rhannu'r straeon hyn ar-lein a chydag ymwelwyr sy'n dod i weld y castell yn bersonol."

Cyfnod newydd i Gastell y Waun

Fel rhan o'r cytundeb prynu, mae'r teulu Myddelton yn symud allan o’r ardaloedd preifat hynny sy'n weddill yn y castell, yn ogystal â'r Adain Ddwyreiniol sydd ond wedi bod ar gael yn ysbeidiol ar gyfer mynediad cyhoeddus. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn ystyried y ffordd orau o ddefnyddio ac arddangos y gofodau hyn a bydd yn rhannu ei chynlluniau yn y misoedd nesaf.

Dywedodd Mr Guy Myddelton: "Mae Castell y Waun wedi bod ym mherchenogaeth a than reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 1981, ac nid yw bellach yn addas i fod yn breswylfan breifat i deulu. Rwy'n falch ein bod wedi gallu dod i gytundeb gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n sicrhau gwaddol y teulu Myddelton yn Y Waun, a bod gweddill casgliad y Waun ar gael er mwyn i genedlaethau'r dyfodol gael gweld yr eitemau yn y cyd-destun mwyaf priodol."

Mae prynu eitemau o werth uchel yn y casgliad wedi bod yn bosibl drwy gynllun Gwerthu Cytundeb Preifat sy'n caniatáu i berchnogion preifat werthu eitemau i sefydliadau cenedlaethol heb fynd drwy ocsiwn ac am bris sy’n fanteisiol i’r ddwy ochr.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cornel ogledd orllewinol Castell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell y Waun 

Ni chynlluniwyd Castell y Waun fel cartref teuluol erioed. Roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Golwg y tu mewn i Gabinet y Waun, a wnaed o eboni â phatrymau o gragen crwban wedi eu gosod ynddo, y tu mewn iddo mae mowntiau arian gyda phaentiadau olew ar gopr a wnaeth tua 1640-50, a welir yng Nghastell y Waun.
Erthygl
Erthygl

Casgliad Castell y Waun 

Wrth fyw mewn castell am 400 mlynedd mae teulu’n crynhoi casgliad amrywiol o gelfyddyd, dodrefn ac eitemau difyr. Dyma rai o’r trysorau yng nghasgliad Castell y Waun.

Tu allan y castell gyda gerddi’r hydref yn y blaendir
Lle
Lle

Castell Y Waun a’r Ardd 

Castell canoloesol odidog Y Mers

Y Waun, Wrecsam

Yn rhannol agored heddiw