Skip to content

Hanes Castell y Waun

Cornel ogledd orllewinol Castell y Waun, Wrecsam
Cornel ogledd orllewinol Castell y Waun, Wrecsam | © National Trust Images/Andrew Butler

Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr. O’i adeiladu yn amddiffynfa i fod yn gartref teuluol y teulu Myddelton, dewch i ddysgu hanes Castell y Waun.

Adeiladwyd i amddiffyn

Yn 1282 pan orchfygodd y Brenin o Loegr, Edward I, dywysog Cymru, Llywelyn ap Gruffydd (a elwir yn Llywelyn y Llyw Olaf hefyd, ac ŵyr i Llywelyn Fawr), sefydlodd Arglwyddiaeth y Mers dan yr enw Chirklands.

Rhoddwyd y tiroedd yma i Roger Mortimer i gydnabod ei wasanaeth yn rhyfeloedd y Brenin Edward yn erbyn y Cymry a’r Albanwyr ac adeiladodd Gastell y Waun yn hwyr yn y 13eg ganrif.

Amddiffynfeydd cadarn

Dewiswyd lleoliad y castell yn ofalus iawn er mwyn gwneud y mwyaf o’i safle amddiffynnol, ar ddarn o graig ym mhen Dyffryn Ceiriog gan reoli Dyffryn Dyfrdwy gerllaw a’r fasnach dros y ffin.

Roedd yn gastell mor bwysig fel bod y Brenin Edward I wedi ymweld yn bersonol tra’r oedd yn cael ei adeiladu.

Ffefryn gan y teulu brenhinol

Mae’n debyg mai’r pensaer oedd yn goruchwylio’r gwaith oedd Meistr James o St. George, pensaer o Savoy yr oedd Edward I yn hoff iawn ohono, ac y dywedir iddo weithio ar lawer o gestyll eraill, gan gynnwys Caernarfon, Biwmares a Harlech. Yn ogystal ag awgrymu’r prif adeiladydd, efallai bod y Brenin hefyd wedi benthyca arian i Roger i dalu am adeiladu’r castell.

Symbol o dra-arglwyddiaeth

Mae’n debygol iawn y byddai’r castell wedi ei wyngalchu fel y byddai’n amlwg iawn yn y dirwedd ddi-goed, yn arbennig wrth edrych o Gymru. Â’i dyrrau yn cynnig lleoliad i gadw golwg strategol ar fryniau a dyffrynnoedd Cymru, roedd y castell yn symbol o rym a chryfder Lloegr, gan dra-arglwyddiaethu ar y tir o’i gwmpas.

Adeilad amddiffynnol

Mae ffynnon y cwrt yn 28.5 metr o ddyfnder ond dim ond 300mm o ddŵr sydd yn ei gwaelod, ac felly dim ond garsiwn o tua 20-30 o ddynion y gallai’r castell eu cynnal. Ond, nid oedd y diffyg pobl yn broblem oherwydd y dulliau amddiffyn clyfar.

'Parth lladd'

Roedd gan y castell y dulliau amddiffyn mwyaf diweddar yn ei gyfnod. Roedd tyrrau crwn ‘drwm’ yn rhoi maes saethu eang i saethyddion oedd yn creu ‘parth lladd’ lle’r oedd maes y saethau yn gorgyffwrdd. Mae’r tyrrau’n lletach tua’u gwaelodion, a gyda’u waliau 5 metr o drwch, roeddent wedi eu dylunio yn fwriadol i ledu tuag allan - gan ei gwneud yn anodd i dyrrau gwarchae a hwrddbeiriannau gael eu gosod yn agos atynt.

Rhybudd i ymosodwyr

Yn wreiddiol roedd pedwar tŵr, un ymhob cornel a llenfur, gyda hanner tyrrau yng nghanol pob ochr. Roedd ganddynt gynteddau i’w cysylltu ar y lloriau uchaf yn unig, oedd yn golygu y byddai’n rhaid i ymosodwyr ymladd a chymryd pob tŵr yn unigol.

Ond, gyda mannau i osod baricedau a thyllau llofruddio (llawer ohonynt wedi eu cuddio’n gyfrwys) oedd yn galluogi’r dynion y tu mewn i ollwng cerrig neu saethau i lawr ar yr ymosodwyr syn, byddai’r frwydr i gyrraedd pen y tyrrau wedi bod yn anodd ac angheuol.

Golygfa o ddwy siambr â bwa yn Nhŵr Adam yng Nghastell y Waun gyda ffenestr sgwâr fyliyniog a hollt saethau ganoloesol gynharach
Tŵr Adam yng Nghastell y Waun yng Nghymru | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Newid dwylo

Bu Roger Mortimer yn gwasanaethu Edward I, ac yna Edward II a’i gwnaeth yn Brif Ustus Cymru gyfan. Ond yn y pendraw, aeth ei uchelgais yn drech nag o, ac wrth gefnogi ei nai, Roger Mortimer arall, aeth i ymladd yn erbyn y Brenin. Fe’i taflwyd i Dŵr Llundain, a bu farw yno yn 1326.

Newidiodd Castell y Waun ddwylo yn gyson wedyn rhwng rhai o ddynion pwysicaf yr oes gan gynnwys Ieirll Arundel, y Cardinal Henry Beaufort, Dugiaid Gwlad yr Haf, Richard, Dug Caerloyw (y Brenin Richard III wedyn), a Syr William Stanley.

Fel arfer byddai’n cael ei roi iddyn nhw i gydnabod eu gwasanaeth ac yna ei gymryd oddi arnynt mewn cywilydd.

Llinell amser hanes Castell y Waun yn y 16fed a’r 19eg ganrif

Syr Thomas Myddelton I

Cartref i’r teulu Myddelton 

Ganed Syr Thomas Myddelton I yn 1550, yn fab i lywodraethwr Castell Dinbych. Gan mai prin oedd ei obaith o etifeddu swydd ei dad, gadawodd i wneud ei ffortiwn yn Llundain, ac fe wnaeth hynny’n llwyddiannus iawn. 

Roedd ffynonellau ei gyfoeth yn amrywiol ac yn cynnwys herwlongwriaeth, masnachu siwgr a buddsoddi mewn Cwmnïau Masnachol oedd yn ceisio manteisio ar gyfleoedd masnach byd-eang.Roedd Myddelton yn un o fuddsoddwyr cyntaf Cwmni Dwyrain yr India ‘The East India Company’ ym 1599. 

Newidiadau i’r castell 

Yn 1595 roedd Syr Thomas I wedi prynu Castell y Waun gan John, Ail Iarll Bletso, am £5,000 gyda’r bwriad o’i droi yn gartref teuluol. Mewn gwirionedd fe dreuliodd fwy o’i amser yn ei gartref yn Essex, ond gwariodd symiau anferth o arian ar y castell, gan adeiladu Adain y Gogledd a’i Hystafelloedd Swyddogol.

Yn 1612, trosglwyddwyd y castell i’w fab Syr Thomas Myddelton II, cadfridog yn y Rhyfel Cartref, yn gyntaf ar ochr y Senedd, ac yna, yn ddiweddarach, ar ôl cael ei ddadrithio gan unbennaeth filwrol Cromwell, fel Brenhinwr yn cefnogi Charles II. 

Castell y Waun yn yr 20fed ganrif

Yn 1910, gwirionodd Thomas Scott-Ellis, 8fed Arglwydd Howard de Walden ar Gastell y Waun, a threfnodd brydles gyda theulu Myddelton, a barhaodd hyd 1946.

Gwella’r Castell

Cyn dod i fyw i Gastell y Waun yn 1911, aeth Thomas, a elwid yn Tommy, ati i drwsio’r castell a gosod mwy o wifrau trydan ac ystafelloedd ymolchi.

Ail-enwodd y Capel yn Ystafell Gerdd, a gosododd lwybr wedi ei godi trwyddo fel y gallai’r gwahoddedigion fynd i’w hystafelloedd heb orfod mynd allan.

Roedd gwraig Tommy, Marguerita yn drefnydd partïon o fri ac yn gantores soprano, a daeth Castell y Waun yn gyrchfan gyson i’r teulu brenhinol, gwleidyddion a’r glitterati.

Delwedd o’r Ystafell Arlunio yng Nghastell y Waun yn dangos bwrdd ysgrifennu addurnedig, mantell y simnai, siandelier a soffa binc golau
Yr Ystafell Arlunio yng Nghastell y Waun yng Nghymru | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Noddwr y celfyddydau

Roedd yn noddwr gweithredol i’r celfyddydau yn cynorthwyo a chefnogi Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru a’r Eisteddfod a dysgodd Gymraeg yn rhugl.

Comisiynodd Tommy waith gan lawer o brif arlunwyr yr 20fed ganrif, mae’r rhain yn cynnwys portreadau gan Augustus John a John Lavery, tirluniau gan Wilson Steer, a phenddelw efydd gan Rodin. Bydd y casgliad hwn yn rhoi cip diddorol iawn i chi o’r dyn y mae rhai yn ei alw yn ‘noddwr mawr olaf Cymru’.

Etifeddiaeth arhosol

Yn 1946 gadawodd Tommy Gastell y Waun ac ymddeol i’w ystadau yn yr Alban, a bu farw’r flwyddyn honno. Er gwaethaf y ffaith mai am gyfnod byr iawn o’i hanes hir y bu'r Arglwydd Howard de Walden yn byw yng Nghastell y Waun, mae adleisiau ohono ymhobman.

Golwg y tu mewn i Gabinet y Waun, a wnaed o eboni â phatrymau o gragen crwban wedi eu gosod ynddo, y tu mewn iddo mae mowntiau arian gyda phaentiadau olew ar gopr a wnaeth tua 1640-50, a welir yng Nghastell y Waun.

Casgliadau Castell y Waun

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Nghastell y Waun ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Neuadd Cromwell yng Nghastell y Waun, yn dangos y lle tân, bwrdd a chadair.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell y Waun 

Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Golygfa o’r castell yn y gwanwyn yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yng Nghastell y Waun 

Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.

Golwg y tu mewn i Gabinet y Waun, a wnaed o eboni â phatrymau o gragen crwban wedi eu gosod ynddo, y tu mewn iddo mae mowntiau arian gyda phaentiadau olew ar gopr a wnaeth tua 1640-50, a welir yng Nghastell y Waun.
Erthygl
Erthygl

Casgliad Castell y Waun 

Wrth fyw mewn castell am 400 mlynedd mae teulu’n crynhoi casgliad amrywiol o gelfyddyd, dodrefn ac eitemau difyr. Dyma rai o’r trysorau yng nghasgliad Castell y Waun.

Ymwelwyr yn mynd â’u ci am dro yn y parcdir yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld ag ystâd Castell y Waun 

Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.