
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Magnificent medieval fortress of the Welsh Marches | Castell canoloesol odidog Y Mers
Chirk Castle, Chirk, Wrexham, LL14 5AF
Asset | Opening time |
---|---|
Castle | Castell | 11:00 - 16:00 |
Garden | Gardd | 10:00 - 16:00 |
Tower | Tŵr | 10:00 - 16:00 |
Shop | Siop | 10:00 - 16:00 |
Café | Caffi | 10:00 - 16:00 |
Home Farm Kiosk | Ciosg | 10:00 - 16:00 |
The parkland remains open to the public when the castle is closed. Home Farm Kiosk opening times may vary. We close when high winds are forecast, please check for any emergency notices before travelling. The Chirk Castle estate will be closed from November 21-24 due to work on our exit driveway. For safety reasons, there will also be no pedestrian access to the site during this time. | Mae’r parcdir yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd pan mae’r castell ar gau. Gall oriau agor Ciosg Home Farm amrywio. Rydym yn cau pan ragwelir gwyntoedd cryf, felly gwiriwch am unrhyw hysbysiadau argyfwng cyn teithio. Bydd ystâd Castell y Waun yn cau rhwng 21-24 Tachwedd er mwyn cynnal gwaith ar ein rhodfa wrth adael y safle. Er diogelwch, ni fydd mynediad ar gael ar droed i’r safle yn ystod y cyfnod hwn.
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £16.50 | £15.00 |
Child | £8.30 | £7.50 |
Family | £41.30 | £37.50 |
Family 1 adult | £24.80 | £22.50 |
Group Adult | £14.25 | |
Group Child | £7.10 |
Second hand bookshop at Home Farm by car park.
Guided morning tours when volunteers are available
Cafe located in castle courtyard.
Seasonal kiosk at Home Farm, open on busy days.
Plants available from main shop
Dogs allowed on the estate, but not in the formal gardens, kitchen garden, Pleasure Ground Wood or inside the castle rooms.
Shop at Home Farm by ticket office
One electric vehicle charging point available
Toilets, including accessible toilets, at Home Farm and in the castle courtyard.
Yn anffodus, nid oes mynediad i gadeiriau olwyn na mynediad heb risiau i du mewn y castell. Rydym ni’n croesawu pob ci cymorth cofrestredig. Mae'r bws gwennol yn helpu ymwelwyr i fyny i'r castell ac yn rhedeg trwy gydol y dydd. Mae hwn yn wasanaeth sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac efallai na fydd ar gael bob dydd, gwiriwch cyn ymweld.
Accessible route in the garden
We have one electric Tramper which is capable of exploring the gardens and estate. To reserve this please contact us.
Accessible toilets are available at Home Farm (RH-transfer) and in the castle courtyard (LH-transfer).
A Braille guide to the property is available from the castle entrance, please ask you or one of your party would like to use this.
Virtual tour on an iPad available at entrance to furnished rooms
Induction loops in the ticket office, shop and cafe, and for guided tours.
Chirk Castle is 7 miles south of Wrexham, 8 miles north of Oswestry and 5 miles from Llangollen. It is clearly signposted from the A5 and A483. From the A5 proceed 1 mile to Chirk village, the entrance to the estate is 2 miles west of Chirk village. Please note: When you arrive by car at the white iron Davies gates please continue to your right. The entrance to the estate is 1.4 miles further on. Mae Castell y Waun 7 milltir i'r de o Wrecsam, 8 milltir i'r gogledd o Groesoswallt a 5 milltir o Langollen. Mae arwyddion clir iddo o'r A5 a'r A483. O'r A5 ewch 1 milltir i bentref y Waun, mae'r fynedfa i'r ystâd 2 filltir i'r gorllewin o bentref y Waun. Sylwch: Pan fyddwch chi'n cyrraedd mewn car at giatiau gwyn haearn Davies, parhewch i'r dde. Mae mynedfa'r stad 1.4 milltir ymhellach ymlaen.
Parcio: The car park is at Home Farm. Please enter via the ticket office - the entrance to the castle is 200 yards (via steep hill). Mae'r maes parcio yn Home Farm. Ewch i mewn drwy'r swyddfa docynnau - mae'r fynedfa i'r castell 200 llath (i fyny allt serth).
Sat Nav: When you get to Chirk please follow signs instead of your SatNav as this can take you the wrong way. Pan fyddwch chi'n cyrraedd y Waun dilynwch yr arwyddion yn lle'ch sat nav oherwydd gall fynd â chi'r ffordd anghywir.
There are permitted footpaths from Chirk village year-round and from Offa's Dyke Path (April to October only). Entrance and exit drives provide walking access, both are a similar distance - approx. 1½ miles to Home Farm ticket office. Please follow signs to go to the Ticket Office before walking up to the castle and gardens. Mae llwybrau troed o bentref y Waun ar agor trwy’r flwyddyn ac o Lwybr Clawdd Offa (Ebrill i Hydref yn unig). Mae’r fynedfa ac allanfa yn darparu mynediad cerdded, mae'r ddau’n bellter tebyg - tua 1½ milltir i swyddfa docynnau Home Farm. Dilynwch yr arwyddion i fynd i’r Swyddfa Docynnau cyn cerdded i fyny at y castell a’r gerddi.
Chirk Station is on the Shrewsbury to Chester line. From Chirk train station it is ¼ mile to the gates of the estate, and 1½ miles in total to the castle. See directions on foot for more details. Mae Gorsaf y Waun ar linell Amwythig i Gaer. O orsaf dren y Waun mae'n ¼ milltir i gatiau'r ystâd, ac 1½ milltir i gyd i'r castell. Gweler y cyfarwyddiadau ar droed am ragor o fanylion.
The Arriva 2/A bus route from Wrexham to Oswestry will drop off in Chirk Village near the train station. Mae llwybr bws Arriva 2/A o Wrecsam i Groesoswallt yn stopio ym Mhentref y Waun ger yr orsaf drenau.
Chirk Castle is situated close to the Llangollen Canal, near Chirk Aqueduct. Limited mooring is available near to Chirk Tunnel, from there walk towards Chirk village. It is approx. 1 mile to the estate gates, and 2 ½ miles in total to the ticket office and castle entrance. Mae Castell y Waun yn agos at Gamlas Llangollen, ger Traphont Ddŵr y Waun. Mae angorfa cyfyngedig ar gael ger Twnnel y Waun, ac oddi yno cerddwch tuag at bentref y Waun. Mae'n tua. 1 filltir i gatiau'r stad, a 2 ½ milltir i gyd i'r swyddfa docynnau a mynedfa'r castell.
Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.
Archwiliwch hanes canoloesol a mwy na hynny, gydag ymweliadau grŵp ac ymweliadau ysgol â Chastell y Waun yng Nghymru.
Un o gestyll y Gororau o’r 13eg ganrif, a ddaeth yn gartref i’r teulu Myddelton o 1595 am dros 400 mlynedd.
5.5 erw o erddi clodwiw, gan gynnwys lawntiau wedi’u trin, coed yw wedi’u tocio a golygfeydd godidog dros wastadeddau Swydd Gaerlleon a Swydd Amwythig.
480 erw o barcdir gweithiol a chynefin natur pwysig, gyda choed hynafol, dolydd blodau gwyllt a rhan o Glawdd Offa.
Fferm fodel o’r 18fed ganrif, gyda stabl a sgubor dyrnu sydd bellach yn gartref i Dderbynfa’r Ymwelwyr, siop a chyfleusterau i ymwelwyr.
Wedi’i leoli yng ngheginau hanesyddol y castell, mae’r caffi’n cynnig diodydd poeth ac oer, byrbrydau a phrydau ysgafn.
Wedi’i lleoli yn Fferm y Plas, mae’r siop yn gwerthu rhoddion, planhigion a bwyd. Mae yna hefyd siop lyfrau ail-law.
Mae yna ardal chwarae fechan gydag offer chwarae pren ac ardal Chwarae Gwyllt o ddeunyddiau chwarae naturiol.
Mae digonedd o hwyl i’w gael yng Nghastell y Waun, lle gall eich rhai bach redeg, chwarae a dysgu drwy gydol y flwyddyn.
Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.
Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.
Taith gerdded gylchol hawdd ymhlith y coed a’r caeau agored o gwmpas Castell y Waun yn Wrecsam, Cymru.
Taith gylchol 3 milltir o Gastell y Waun, yn cynnwys rhan fechan o Glawdd Offa a mynd heibio safle Brwydr Crogen.
Mae’r daith gerdded gymedrol 1.2 milltir hon yn mynd â chi i ardal a elwir yn Hen Golff, gyda golygfa gofiadwy o Gastell y Waun ar hanner ffordd.
Mae’r daith filltir rwydd yma trwy barcdir a ddyluniwyd yn y 18fed ganrif yng Nghastell y Waun yn cynnig golygfeydd cofiadwy tua gwastadeddau Swydd Gaer ac Amwythig.
Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.
At the top of Offa’s Dyke this 1930s villa is in a great spot for exploring nearby Chirk Castle.
Explore the grounds of a 700 year-old castle when you stay in this traditional Welsh cottage.
Close to Chirk Castle with walking trails all around, this pretty stone cottage has an enclosed garden.
This gorgeous half-timbered cottage in the stunning Powis Castle gardens has gorgeous Edwardian interiors.
Enjoy the gift of giving when you meet Father Christmas by leaving a donation for Oswestry and Borders Foodbank
Listen to some festive favourites played on hand bells as you wander through Chirk Castle on selected dates this Christmas
Get into the Christmas spirit and make some magical memories as you join Father Christmas for a festive supper in our tearoom.
Mae Castell y Waun yn symbol nodweddiadol o bŵer, a dechreuwyd ei adeiladu oddeutu 1295, yn ystod teyrnasiad y gorchfygol Edward I, er mwyn tawelu tywysogion olaf Cymru.
Fe’i codwyd ar garreg frig uwchben y pwynt lle mae afon Dyfrdwy ac afon Ceiriog yn uno, ac roedd y castell a’i gysgodlun urddasol yn arwydd cythryblus o fwriad y Saeson yn y tiroedd dadleuol hyn.
Prynwyd Castell y Waun ym 1595 gan Syr Thomas Myddelton, groser, masnachwr siwgr a herwlongwr, ac fe’i hetifeddwyd trwy linach teulu Myddelton. Gyda’i hanes yn olrhain yn ôl dros 700 o flynyddoedd, ac fel castell olaf o’i gyfnod lle ceir preswylwyr ynddo hyd heddiw, mae Castell y Waun yn nodedig am foethusrwydd y tu mewn i’r adeilad ynghyd â’r casgliad hardd ac eclectig sydd ynddo.
Y tu mewn i’r Castell ceir Oriel Hir sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif, arddangosfa fawreddog o dair Ystafell Wladol sy’n dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif gyda dodrefn moethus, paentiadau a thapestrïau, neuadd unigryw y gweision, ac ystafell Gerdd y Capel wedi’i dodrefnu er mwyn arddangos cysylltiadau bonheddig Castell y Waun yn y 1920au a’r 1930au.
Mae’r gerddi arobryn yn gorchuddio 5.5 erw o lawntiau wedi’u trin, coed yw wedi’u tocio, borderi blodau, gerddi rhosod, prysglwyni a chreigerddi hardd, yn ogystal â’r maes pleser coediog – perffaith ar gyfer mynd am dro. Cofiwch ymweld â’r teras sy’n edrych dros y waliau ‘ha-ha’ yng ngwaelod yr ardd sy’n deillio o'r 18fed ganrif, gyda golygfeydd ysblennydd o wastatir Caer a Swydd Amwythig.
Mae gan Gastell y Waun dros 480 acer o barcdir ystâd ar gael i chi ei archwilio, gyda gwartheg, defaid, coed hynafol, dolau blodau gwyllt a rhan hardd wedi’i gwarchod o Glawdd Offa. Mae’r ystâd wedi’i lleoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac wedi’i dynodi hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, fel cynefin pwysig ar gyfer infertebratau prin, ystlumod, ffyngau a blodau gwyllt.
Ni chynlluniwyd Castell y Waun fel cartref teuluol erioed. Roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.
Wrth fyw mewn castell am 400 mlynedd mae teulu’n crynhoi casgliad amrywiol o gelfyddyd, dodrefn ac eitemau difyr. Dyma rai o’r trysorau yng nghasgliad Castell y Waun.
Ymunwch â’n tîm gwych o wirfoddolwyr yng Nghastell y Waun yng Nghymru.
Mae Castell y Waun yn falch iawn o fod wedi derbyn grant gan Cadwyn Clwyd i greu Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun gan weithio mewn partneriaeth â grwpiau lleol i gyfrannu at ei dyluniad a'i chreu.
Mae 0.65 hectar o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghastell y Waun wedi ei wella ar gyfer pobl a byd natur wrth i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gydweithio ag ystod o sefydliadau ac elusennau lleol i greu Dôl Ofalgar newydd, lle gall pobl gysylltu â byd natur, gan wella eu hiechyd a llesiant.
Bydd portread trawiadol o’r Fonesig Margaret Myddelton a phortread o Robert Myddelton-Biddulph, a gadwyd yng Nghastell y Waun yn y gorffennol, yn cael eu harddangos am y tro cyntaf. Rhoddwyd y portreadau hyn yn anrheg gan y ddiweddar Fonesig Aird, merch y Fonesig Margaret Myddelton.
Rydym wedi prynu casgliadau sy'n eiddo i'r teulu Myddelton ac sy’n cwmpasu dros bedwar can mlynedd o'u hamser yng Nghastell y Waun. Mae tua thri chant o eitemau o bwys hanesyddol wedi cael eu trosglwyddo i'n gofal ni, ble byddant yn cael eu cadw am byth i bawb eu mwynhau.
Tair cenhedlaeth o’r teulu Williams yn dod ynghyd i blannu coeden ifanc prin yng Nghastell y Waun, coeden ifanc wedi’i thrawsblannu o’r Dderwen wreiddiol Pontfadog a safodd yn ystod gorchfygiad Owain Gwynedd o’r Saeson, ac ymddangosodd yn y Guinness Book of Records fel ‘y goeden letaf ym Mhrydain’.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.