Cyhoeddi enillwyr Our Dream Farm fel tenantiaid newydd fferm 600 acer Ymddiriedolaeth Genedlaethol Eryri.

Mae tenantiaid newydd un o ffermydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng nghalon Eryri wedi eu cyhoeddi wedi iddynt ennill ail gyfres Channel 4 National Trust: Our Dream Farm gyda Matt Baker.
Llwyddodd Ioan Jones a Sara Jenkins, y ddau ohonynt yn 28, i sicrhau tenantiaeth 15 mlynedd ar gyfer fferm fynydd 613 acer (248 hectar) ar odre mynydd uchaf Cymru, Yr Wyddfa yn y rhaglen derfynol dydd Sadwrn (Mai 3).
Roedd y gyfres deledu wyth rhan yn dilyn saith ymgeisydd gobeithiol gydag angerdd dros ffermio cynaliadwy wnaeth gyflwyno cynlluniau busnes, trafod eu gweledigaeth ar gyfer y fferm a phrofi bywyd ar ystâd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru drwy gymryd rhan mewn tasgau a phrofiadau ffermio go iawn. Roedd yr heriau’n cynnwys trin da byw, mynd i ocsiwn, gwerthu cynnyrch mewn marchnad ym Mhortmeirion, croesawu ymwelwyr i fythynnod gwyliau’r fferm a mwy.
Cawsant eu harsylwi dros gyfnod ffilmio o dair wythnos gan Giles Hunt, Cyfarwyddwr Tir ac Ystadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Eryri, Trystan Edwards, wnaeth ddewis yr ymgeisydd llwyddiannus gyda’i gilydd.
Tenantiaeth Llyndy Isaf oedd y wobr, fferm sy’n gyfoethog o ran natur ac sy’n cynnwys caeau tir isel, coetiroedd a thir pori mynyddig ynghyd â ffermdy pedair ystafell wely ar lan Llyn Dinas. Mae anecs dwy ystafell wely a dau bothi ar gyfer croesawu twristiaid hefyd yn rhan o’r denantiaeth.
Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus fu’n rhan o’r broses ddethol gystadleuol, sef Ioan a’i bartner Sara, ill dau yn dod o gefndir ffermio yng Nghymru ac fe wnaethant wneud cais ar y cyd. Cafodd Ioan ei fagu ar fferm ddefaid a bîff ym Moduan, Gwynedd, ym Mhen Llŷn, tra cafodd Sara ei magu ar fferm deulu yn Nhal-y-bont, Ceredigion.
Meddai Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Cafodd Ioan a Sara eu rhoi ar brawf dros gyfnod o dair wythnos gan ddangos i ni pa mor dda roeddent yn deall rôl ffermio a byd natur mewn amgylchedd mor arbennig â hwn. Mae’r fferm yn sicr o fynd o nerth i nerth dan eu gwarchodaeth ofalus, ac rwy’n dymuno’r gorau iddynt.”
Ychwanegodd: “Rydym yn gobeithio y bydd y gynulleidfa sydd wedi bod yn gwylio’r gyfres yn gwerthfawrogi’r rhan hollbwysig mae ffermwyr yn ei chwarae wrth helpu natur i ffynnu yng nghefn gwlad, wrth redeg busnesau cynaliadwy sy'n cynhyrchu bwyd da. Rydym hefyd yn hynod o falch o gael arddangos diwylliant unigryw Cymru a pha mor hanfodol yw ffermio i gymunedau gwledig yng Nghymru.”

Dywedodd Ioan ei bod yn freuddwyd ganddo erioed bod yn berchen ar ei fferm deuluol ei hun, a’i fod yn “falch iawn" eu bod wedi ennill. Gwenodd wrth iddynt dderbyn allweddi i’r fferm gan Giles a Trystan.
Dywedodd Ioan: “Rydym mor falch o gael ein dewis ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i adeiladu bywyd efo’n gilydd yma yn y lleoliad hardd hwn. Mae tenantiaeth fferm yn bethau prin iawn a dydi cyfleoedd fel hyn ddim yn digwydd yn aml felly mae’n rhaid i chi gymryd y cyfle pan mae’n cynnig ei hun a mynd amdani fel y gwnaethon ni.”
Symudodd y cwpwl i Lyndy Isaf ychydig cyn y Nadolig.
Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi bod yn brysur dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn dod i adnabod y fferm a’r dirwedd, ac yn ymgynefino a gofalu am ein praidd o 65 o ddefaid. Ar hyn o bryd rydyn ni yng nghanol ein tymor wyna cyntaf. Yn ffodus, mae’r tywydd wedi bod yn wych, sy’n help garw ar gyfer wyna.
“Rydym hefyd yn chwilio am heffrod duon i’w prynu fel ein bod ni’n gallu dechrau ein buches ein hunain.
“Mae’r bothi hefyd wedi bod yn brysur iawn gyda gwesteion hyd yma ac rydyn ni’n gobeithio agor ail fothi ar ddechrau’r haf. Gobeithio y byddant yn llwyddiannus ac yn prysuro eto wrth i bobl ddod i wybod amdano ar y cyfryngau cymdeithasol.”
Mae’r cwpwl wedi dewis byw yn yr anecs am nawr gan osod y ffermdy pedair ystafell wely fel cartref gwyliau. “Mae’r ffermdy yn llawn ar gyfer y mis yma felly mae pethau’n mynd yn dda”, meddai Sara. “Rydym hefyd wrthi’n tacluso’r bothi arall, gan gadw pob un o’i nodweddion naturiol, a dim ond ychwanegu ychydig o welyau ac ambell ddodrefnyn arall.”
Meddai’r cyflwynydd Matt Baker: “Rydw i mor falch fod y denantiaeth wedi’i dyfarnu i Sara ac Ioan gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dros y tair wythnos, fe wnaethant ddangos eu bod yn gartrefol iawn o fewn tirwedd heriol Eryri a does dim dwywaith na fyddant yn denantiaid gwych. Nid yn unig maen nhw’n gwpwl hyfryd, maen nhw’n ffermwyr angerddol ac yn rheolwyr tir talentog a fydd, rwy’n sicr, yn gaffaeliad i’r fferm ac i’r Ymddiriedolaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael mynd i aros i’w llety!
Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn fraint cynhyrchu cyfres arall o Our Dream Farm, sydd gobeithio wedi dangos i wylwyr sut beth yw byd ffermio tenant a’r angerdd a’r gwaith caled sy’n angenrheidiol er mwyn cynhyrchu ein bwyd a gofalu am ein tirwedd.”
Fel rhan o’u cynllun busnes, mae Ioan a Sara wedi bod yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Pharc Cenedlaethol Eryri er mwyn trafod creu maes parcio ychwanegol ar gyfer cerddwyr ac i agor maes pebyll ar y tir yn yr haf.
Ers i’r ffilmio ddigwydd, mae’r cwpwl hefyd wedi dyweddïo, pan fu i Ioan ofyn i Sara ei briodi ar y fferm, ac maent yn gobeithio cynnal y briodas ar fferm teulu Sara yng Ngheredigion yn 2026.
Maent yn parhau i gadw mewn cysylltiad gyda’u cyd-gystadleuwyr ac aethant am ginio Sul yn ddiweddar gyda Ryan a Lowri a Greg.
Meddai Giles Hunt, Cyfarwyddwr Tir ac Ystadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Roeddem wrth ein bodd yn gweithio gyda Big Circus a Channel 4 i greu cyfres arall o Our Dream Farm. Gobeithio y bydd y gyfres yn gwella dealltwriaeth o’r rôl mae ffermwyr a rheolwyr tir yn ei chwarae yn adfer byd natur, cynhyrchu bwyd a gwella’r hinsawdd ar gyfer y DU gyfan.
“Ni fyddai unrhyw ran o hyn wedi bod yn bosibl heb yr ymroddiad, yr ymrwymiad a’r angerdd anferthol wnaeth yr holl ymgeiswyr eu dangos tuag at ffermio.
“Mae dechrau ffermio yn anhygoel o anodd ond fe wnaeth pob un o’r ymgeiswyr roi o’u gorau er mwyn ceisio sicrhau’r denantiaeth. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yr ymgeiswyr wnaeth ddim llwyddo y tro hwn yn cymryd popeth maent wedi ei ddysgu yn ystod y broses a’i roi ar waith ar gyfer y denantiaeth nesaf y byddant yn rhoi cynnig arni.
“Roedd Sara ac Ioan yn arbennig iawn drwy gydol y broses ddethol dair wythnos, ac rwy’n gobeithio y gallant yn awr ddechrau mwynhau bod yn denantiaid ar eu fferm eu hunain, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y blynyddoedd sydd i ddod.”
Cafodd y gyfres gyntaf o Our Dream Farm gyda Matt Baker ei darlledu yn 2024 pan wnaeth arwerthwr da byw Adam Grieve, a’i wraig Jenny lwyddo i sicrhau tenantiaeth 10 mlynedd ar fferm 340 acer ar Ystâd Wallington yn Northumberland. Mae’r cwpwl wedi bod yn rhannu eu profiad eu hunain o fywyd fel ffermwyr tenant gydag Ioan a Sara.