Ein gwaith gyda gwirfoddolwyr y BMC

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gweithio gyda'r British Mountaineering Council (BMC) i atgyweirio llwybrau sydd wedi erydu yn Eryri gan ddefnyddio eu gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n gyfarwydd â mynydda.
Get Stuck In
Mae prosiect Get Stuck In yn gweld timau o 10-16 o wirfoddolwyr yn dod i ogledd Cymru, yn barod i osod cerrig sarn ar draws corsydd, atgyweirio rhannau sydd wedi'u herydu gyda deunyddiau traddodiadol fel gwlân defaid, clirio ffosydd, pitchio cerrig, ail-lunio twmpathau mawn i atal erydiad ac i helpu storio carbon a plannu coed i enwi dim ond rhai o'r pethau maen nhw'n eu gwneud.
Creu llwybr ar y Wyddfa
Y fantais o weithio gydag aelodau'r BMC yn y lleoliadau anghysbell hyn, yn aml gyda theithiau cerdded hir yn cario offer trwm, yw eu bod wedi arfer bod yn y mynyddoedd, maent yn tueddu i fod yn ffit yn gorfforol ac maent yn barod am her ym mhob tywydd. Er eu bod wrth gwrs yn ymroddedig i natur a chadwraeth, mae ganddynt hefyd ddiddordeb personol mewn atgyweirio'r llwybrau fel ei bod hi'n haws cerdded a dringo yn y mynyddoedd.
Mae Get Stuck In wedi'i ariannu gan ymgyrch Mend Our Mountains yr Ymddiriedolaeth Mynediad a Chadwraeth y BMC - cangen elusennol y sefydliad aelodaeth yma sy'n cynrychioli ac yn lobïo ar ran cerddwyr, mynyddwyr a dringwyr.

Prentis Ceidwad Llwybr Troed Newydd
Mae Ymddiriedolaeth Mynediad a Chadwraeth y BMC yn ariannu rôl prentisiaeth dwy flynedd o fewn tîm llwybrau troed Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yma yn Eryri, sy'n rhan o'u hymgyrch Mend Our Mountains.
Bydd Arwyn Parry Jones, 26, wedi'i leoli ym Meddgelert ac yn ogystal â dysgu'r grefft o atgyweirio a chynnal a chadw llwybrau gyda cheidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd hefyd yn ymgysylltu â chymunedau lleol, ffermwyr ag eraill. Mae Arwyn yn siaradwr Cymraeg rhugl a bydd hefyd yn arwain nifer o ddigwyddiadau gwirfoddol Get Stuck In y BMC i atgyweirio llwybrau yn Eryri.
Mae arian ar gyfer y rôl ddwy flynedd yma wedi cael ei godi gan dros 100 o aelodau y BMC ac aelodau clybiau sy'n gysylltiedig â'r BMC adeg y Big Give Green Match Fund ym mis Ebrill 2025, rhodd o £1,000 gan Association of Mountain Instructors (AMI), rhodd o £10,000 gan Lancashire Group ar ôl iddynt gymryd rhan mewn diwrnod gwirfoddoli Get Stuck In a grant o £30,000 gan raglen Two for the Trails yr Athletic Brewing Company.

