Cwmtydu i Gei Newydd
O gildraeth cysgodol Cwmtydu i bentref pysgota Cei Newydd, crwydrwch y rhan hon o’r arfordir sy’n hafan i fywyd gwyllt.

Oriau agor ar gyfer 22 Mehefin 2025
Asset Opening time Morlin Gwawr - Cyfnos LlMaMeIaGwSaSu262728293031123456789101112131415161718192021222324252627282930123456- Croeso i gŵn
Croesewir cŵn ar dennyn. Byddwch yn ystyriol o dda byw a bywyd gwyllt.
- Maes parcio
Parcio (ar gael yng Nghei Newydd (satnav: SA45 9QH). Nifer cyfyngedig o lefydd parcio yng Nghwmtydu (satnav: SA44 6LQ). Dyw'r meysydd parcio ddim o fewn gofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
- Toiled
Toiledau cyhoeddus ar gael yng Nghei Newydd a Chwmtydu.
- Ar y ffordd
O Aberystwyth i Aberteifi, dilynwch yr A487 i Lanarth ac yna'r B4342 i Gei Newydd.
Sat Nav: Cei Newydd: SA45 9QH. Cwmtydu: SA44 6LQ.
- Ar fws
Mae llwybr bws T5 yn rhedeg rhwng Cei Newydd, Aberaeron, Aberteifi ac Aberystwyth. Man gollwg yn Sgwar Mason.
Uchafbwyntiau
Bywyd Gwyllt
O forloi a merlod gwyllt i adar a blodau gwyllt, mae’r rhan hon o’r arfordir yn doreithiog o fywyd gwyllt.
Golygfeydd arfordirol
Gall cerddwyr fwynhau golygfeydd godidog o Benrhyn Llŷn a phwyntiau eraill o ddiddordeb yn cynnwys bryngaer haearn, Bae Cwmtydu a Chraig yr Aderyn.
Digwyddiadau i ddod
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Ynghylch Cwmtydu i Gei Newydd
O gildraeth cysgodol Cwmtydu i bentref pysgota Cei Newydd, mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru, lle ceir morloi, merlod gwyllt, adar a blodau gwyllt, yn berffaith i gerddwyr.