Skip to content
Prosiect

Cysylltu cymunedau yng Nghymru gyda Palasau Hwyl

Grŵp o blant ac oedolion sy’n archwilio tirwedd Gogledd Cymru fel rhan o’r Prosiect Hinsawdd.
Aelodau o’r Prosiect Hinsawdd yn archwilio tirwedd Gogledd Cymru | © Fun Palaces/Bethan Page

Fel rhan o’n partneriaeth Palasau Hwyl, rydym yn profi dulliau newydd o weithio gyda chymunedau lleol yng Nghymru. Drwy gyd-greu digwyddiadau cymunedol, ymgysylltu â phobl ifanc, dathlu sgiliau, a gweithio gyda phartneriaid, rydym yn cysylltu unigolion â’r gwaith rydym yn ei wneud ac yn eu helpu nid yn unig i deimlo bod croeso iddynt yn ein lleoliadau, ond yn rhan o bopeth a wnawn.

Pwy yw Palasau Hwyl?

Mae Palasau Hwyl yn ymgyrchu drwy’r flwyddyn er mwyn i bawb gael dweud eu dweud o ran beth sy’n cyfrif fel diwylliant, ble mae’n digwydd, pwy sy’n ei wneud, a phwy sy’n ei brofi. Maent yn rhoi cymuned wrth galon diwylliant, a diwylliant wrth galon pob cymuned.

Maent yn cefnogi gwirfoddolwyr, cymunedau ar lawr gwlad, sefydliadau newydd a rhai sefydledig, ac ymarferwyr ar draws y DU (a’r tu hwnt) i wneud Palasau Hwyl- digwyddiadau lleol, am ddim sy’n defnyddio celf a gwyddoniaeth fel catalydd i ddathlu pob cymuned unigryw, a sgiliau a diddordeb y rhai sy’n byw yno.

Eu cennad yw cryfhau cymunedau drwy rymuso unigolion, cefnogi partneriaethau, a herio’r ffordd y mae’r celfyddydau a gwyddoniaeth yn cael eu perchnogi a’u creu ar y funud. Gallwch gael mwy o wybodaeth am Palasau Hwyl yma.

Ein Llysgennad Palasau Hwyl

Mae’r Gymuned Loteri Genedlaethol yn cefnogi 11 Llysgennad Palasau Hwyl i weithio gyda sefydliadau partner ar draws y DU. Maent yn helpu unigolion i gyd-greu eu digwyddiadau diwylliannol a chymunedol eu hunain, ac i rannu eu gwersi gyda sefydliadau partner DU eraill.

Bethan Page yw'r Llysgennad Palasau Hwyl ar gyfer Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol yng Ngogledd Cymru am dair blynedd i rymuso a chefnogi unigolion a grwpiau, a gyda phartneriaid i gydnabod gwerth cyfranogiad diwylliannol fel rhan hanfodol o gymdeithas iach.

Cysylltu â chymunedau

Fel sefydliad sy’n chwarae rôl weithredol yn nhirwedd ddiwylliannol Gymreig, ein huchelgais nid yn unig yw gwneud pobl deimlo bod croeso iddynt, ond yn rhan bwysig o bopeth rydym yn ei wneud. Er mwyn cyflawni hyn, rydym angen ymestyn allan i gymunedau lleol.

Mae ein partneriaeth gyda Phalasau Hwyl yn cefnogi ein strategaeth ‘i bawb, am byth’ drwy roi cyfle i ni arbrofi gyda dulliau newydd a gwahanol i weithio gyda chymunedau lleol a phartneriaid. Mae ganddo’r potensial cyffrous o wneud mwy o bobl deimlo mwy o synnwyr o berthyn a chysylltiad, wrth ein helpu ni i chwarae ein rhan i greu cymdeithas deg a chyfartal.

Y Prosiect Hinsawdd

Un canlyniad o'n partneriaeth Palasau Hwyl yw’r Prosiect Hinsawdd, a sefydlwyd gan Bethan, Llysgennad Palasau Hwyl, i ymgysylltu pobl ifanc â thrafodaethau a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â'r hinsawdd. Mae’n canolbwyntio ar y camau bach a ellir eu cymryd i leihau pryder hinsawdd a hyrwyddo’r teimlad o gael ychydig o reolaeth dros y sefyllfa.

Cynhelir sesiynau unwaith y mis ac maent yn ymwneud â bod yn yr awyr agored, ymweld â’n safleoedd, cerdded, ioga, gweithgareddau creadigol, tripiau, a bwyta bwyd da. Rhoddir y cyfle i bobl ifanc ddysgu am ein gwaith amgylcheddol ac i ymgysylltu â staff a gwirfoddolwyr am y gwaith y maent yn ei wneud i ofalu am ein tirweddau.

Mae’n gyfle i ddysgu a rhannu profiadau o ymgysylltu â phobl ifanc, ymateb i’w diddordebau a’u pryderon, a datblygu ffyrdd o’u cefnogi i gydgreu eu gweithgareddau a’u digwyddiadau eu hunain.

Caniatáu i’r fideo chwarae? Mae cynnwys a gyhoeddwyd ar YouTube ar y dudalen hon.

Rydym yn gofyn am eich caniatâd cyn i unrhyw beth lwytho, oherwydd gallai’r cynnwys hwn gyflwyno cwcis ychwanegol. Efallai yr hoffech ddarllen telerau gwasanaeth  a pholisi preifatrwydd  YouTube Google cyn derbyn.

Fideo
Fideo

Y Prosiect Hinsawdd

Dysgwch sut mae ein partneriaeth Palasau Hwyl wedi helpu i leddfu pryderon am yr hinsawdd ymysg pobl ifanc drwy greu’r Prosiect Hinsawdd.

Amserlen Y Prosiect Hinsawdd

Ebrill 2022

Creu’r prosiect

Yn ystod ymgynghoriad â disgyblion o Ysgol Llanfyllin, Sir Drefaldwyn, gwelodd Bethan, Llysgennad Palasau Hwyl fod pobl ifanc eisiau bod yn rhan o ddigwyddiadau celfyddydau a diwylliannol gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd yn eu cymunedau lleol-  ardal wledig heb lawer o gyfleoedd iddynt gymdeithasu. Cytunodd rhieni hefyd fod pobl ifanc angen cyfleoedd i fod gyda’i gilydd i wella eu lles a’u hiechyd meddwl yn dilyn y pandemig. 

Mewn ymateb, a gyda grant bach gan Gronfa Cysylltu Cymunedau Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, sefydlodd Bethan brosiect peilot 6 mis ble daeth 15 o bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg at ei gilydd unwaith y mis. Cawsant hwyl wrth ddatblygu sgiliau creadigol ac archwilio ffyrdd i wella iechyd a lles megis bod y tu allan, gwneud ioga, mynd ar dripiau, a datblygu sgiliau arwain- pob un gyda thema hinsawdd drwyddi draw. Bu iddi archwilio gweithio mewn partneriaeth hefyd drwy gynnwys Menter Iaith Maldwyn, Menter y Gymraeg Sir Drefaldwyn.

Plant o gwmpas planhigyn ac yn gwrando ar arddwr yng Nghastell Powys, Cymru.
Aelodau'r Prosiect Hinsawdd ar drip i Gastell Powys | © Fun Palaces/Bethan Page

Ein gwaith gyda Phalasau Hwyl yn ystod y pandemig

Yn ystod y pandemig Covid daeth pwyslais gwaith Bethan, oherwydd angenrheidrwydd, yn lleol iawn, ac ymatebodd i anghenion ei chymuned leol. Archwiliodd ffyrdd o gysylltu ac ymgysylltu â phobl ar adeg ble nad oeddent yn gallu dod at ei gilydd wyneb yn wyneb, a phan oedd unigrwydd ac ynysiad yn broblem benodol i nifer o bobl.

Rhan allweddol o’i gwaith oedd sicrhau bod pawb yn ei chymuned yn gwybod am gyfleoedd i fod yn rhan o ddigwyddiadau, prosiectau a gweithgaredd a oedd yn cadw pellter cymdeithasol, drwy bapurau newydd, cyfryngau cymdeithasol lleol, a newyddlenni wedi’u dosbarthu â llaw a oedd yn rhoi cyhoeddusrwydd i gyfleoedd i gysylltu â ffrindiau a chymdogion.

Amserlen o’n gwaith gyda Phalasau Hwyl yn ystod y pandemig

Ebrill 2020

Prosiect baneri cymunedol

Ym Mhenybontfawr, Gogledd Powys, roedd aelodau o’r gymuned leol eisiau gwneud rhywbeth i ddweud diolch yn arbennig i’w siop bentref am yr ymdrech hynod yn eu gwasanaethu yn ystod y cyfnod clo. Fel Llysgennad Palas Hwyl, cefnogodd Bethan nhw i greu baneri fel anrheg syrpreis. 

Cymerodd dros 80 o bobl ran, o 2 i 94 oed, ac roedd bob triongl yn y baneri papur 30 medr wedi’i addurno â llaw, ac yn cynnwys neges bersonol i’r staff. Roedd y prosiect hwn yn arbennig oherwydd y teimlad o gysylltiad rhoddodd i’r gymuned ar adeg anodd iawn, a cafodd y teimlad o berthyn effeithiau tymor hir. Roedd mor llwyddiannus, yr ymddangosodd ar y teledu ar raglen ‘Heno’ S4C. 

Aelodau o’r gymuned yn cadw pellter cymdeithasol y tu allan i’r siop bentref yn gafael baneri hir.
Cymuned Penybontfawr yn cyflwyno’r baneri i’r siop pentref leol | © David John Roberts
The sun rising over Knoll Beach with grasses in the foreground at Studland Bay, Dorset

I bawb, am byth

Rydym yn diogelu a gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. Dysgwch amdanom ni a'r hyn rydym yn ei gefnogi.

You might also be interested in

Y gored ar draws Afon Anafon fel rhan o’r prosiect hydro Ynni Anafon yn y Carneddau a’r Glyderau yn Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ynni adnewyddadwy yng Nghymru 

O drydan dŵr yn Eryri i feithrin tegeirianau gyda biomas yng Ngerddi Dyffryn, dysgwch sut mae prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Bustach yr Ucheldir ar dirwedd amaeth ym Mryn Bras, Cymru 
Erthygl
Erthygl

Ffermio yng Nghymru 

Dysgwch sut mae ein harferion ffermio ecogyfeillgar yn diogelu cynefinoedd a rhywogaethau prin, yn atal llifogydd, ac yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru.

Llun agos o beradl yr Hydref gyda’r castell yn y cefndir yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â dolydd yng Nghymru 

Rydym yn rheoli dolydd yn ofalus ledled Cymru er mwyn eu helpu i ffynnu. Dysgwch ragor am ein gwaith a ble gallwch weld dolydd yng Nghymru.

Prosiect
Prosiect

Prosiect dalgylch Uwch Conwy 

Dysgwch sut rydym yn gweithio i fynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau llifogydd yn nalgylch Afon Conwy er budd natur, bywyd gwyllt a phobl.

Golygfa o bentref arfordirol Porthdinllaen gyda’r môr a thonnau yn y blaendir yng Ngwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith i fynd i’r afael â newid arfordirol yng Nghymru 

Dysgwch sut rydym yn gofalu am 157 milltir o arfordir Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, o ddiogelu cynefin bywyd gwyllt i addasu i heriau newid hinsawdd.