Skip to content

Ein gwaith i fynd i’r afael â newid arfordirol yng Nghymru

Golygfa o bentref arfordirol Porthdinllaen gyda’r môr a thonnau yn y blaendir yng Ngwynedd, Cymru
Pentref arfordirol Porthdinllaen, Gwynedd | © National Trust Images

Dysgwch am ein gwaith yn gofalu am 157 milltir o arfordir yng Nghymru a sut rydym yn addasu i heriau newid hinsawdd. O greu cynefinoedd arfordirol newydd i weithio gyda chymunedau sy’n wynebu cynnydd yn lefel y môr, dysgwch am ein gwaith i amddiffyn arfordiroedd Cymru i bobl a natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Byw gyda newid arfordirol yng Nghymru

Mae ein harfordir deinamig bob amser wedi bod yn lle o newid, ond gyda lefelau’r môr yn cynyddu gan hyd at fetr dros y 100 mlynedd nesaf a’n hinsawdd gynyddol stormus, gallwn ddisgwyl mwy fyth o fygythiad i’r arfordir.

Mannau arfordirol sy’n peri pryder

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn nodi darnau o’r 157 milltir o arfordir rydym yn gofalu amdano yng Nghymru lle disgwylir llifogydd ac erydiad. Rydym hefyd wedi nodi’r effeithiau tebygol.

Dyma ein ‘mannau arfordirol sy’n peri pryder’. Ym mhob un o’r safleoedd canlynol rydym yn paratoi Strategaethau Addasu Arfordirol i lywio ein penderfyniadau rheoli:

  • Cemlyn
  • Plas Newydd
  • Dinas Dinlle
  • Porthdinllaen
  • Porthor
  • Aberdaron
  • Traeth Llanbedrog
  • Ynysgain (Eifionydd)
  • Morfa Bychan
  • Harlech (Llandanwg)
  • Mwnt
  • Ynys y Barri (Abereiddi)
  • Harbwr Porthclais
  • Stad Southwood
  • Stagbwll
  • Mwche a Phentowyn
  • Gogledd Gŵyr
  • Rhosili
  • Pennard – bwthyn Pwll Du
Celynnen a gwellt y môr ar ochr un o’r twyni yn Nhwyni Whitffordd, Penrhyn Gŵyr, Cymru
Celynnen y môr ar y twyni, Penrhyn Gŵyr | © National Trust Images/David Noton

Ymgripiad cynefinoedd prin

Drwy beidio â chynnal - neu waredu - amddiffynfeydd caled, rydym yn caniatáu i gynefinoedd prin ‘ymgripio’ ymhellach i’r tir mawr, fel eu bod yn fwy gwydn yn wyneb lefelau cynyddol y môr. Mae’r ardaloedd lle mae ymgripiad yn bosibl yn bwysig o ran ffyniant bywyd gwyllt arfordirol. Gan weithio gyda’n cymdogion, rydym yn rhoi’r egwyddorion hyn ar waith yn Abereiddi yn Sir Benfro.

Cynefinoedd cydbwyso ar gyfer morfeydd heli

Mae gwasgfa arfordirol yn golygu bod bron i 250 cae pêl-droed o forfa heli’n cael ei cholli bob blwyddyn. Lle nad yw’n bosibl caniatáu i forfa heli ‘ymgripio’, mae angen i ni chwilio am safleoedd addas eraill. Yng Nghors Cwm Ivy ym Mhenrhyn Gŵyr, mae ein prosiect wedi bod yn enghraifft wych o greu cynefinoedd cydbwyso.

Adlinio a reolir

Bydd y math o ddulliau addasol y gallwn eu gweithredu yn amrywio o safle i safle. Mewn rhai llefydd, mae hyn yn golygu ffurfio partneriaethau gyda chymdogion i alluogi natur i ymgripio’n ôl. Mewn eraill, mae angen i ni gydweithio â chymunedau i gynllunio ar gyfer amser pan fydd cartrefi a busnesau dan fygythiad oherwydd erydiad neu lifogydd. Mae ein gweledigaeth ar gyfer Cemlyn yn dangos sut rydym yn cynllunio ar gyfer newid drwy adlinio a reolir.

Ein gwaith arfer cenedlaethau’r dyfodol

Dysgwch sut rydym yn gweithio gyda’r nod o greu arfordir iach, cadarn sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt, y gall cenedlaethau’r dyfodol ei fwynhau. Dyma rai o’r safleoedd rydym yn gofalu amdanynt ar arfordiroedd Cymru.

Môr-wenoliaid pigddu aeddfed ac ifanc ar draeth cerigos yn Blakeney Point, Norfolk
Nythfa o fôr-wenoliaid pigddu | © National Trust Images / Ian Ward
Cors Cwm Ivy, De Gŵyr
Cafodd y caeau gwlyb yng Nghwm Ivy eu hawlio o’r môr yn yr Oesoedd Canol a’u rheoli ar gyfer amaethyddiaeth. Yn hytrach na thrwsio’r forglawdd sy’n erydu, gwnaethom ail-greu morfa heli, sydd wedi dod yn hafan hyfryd i fywyd gwyllt.
Freshwater West, Sir Benfro
Roedd y twyni a’r gors yn rhan o fferm fasnachol brysur ‘slawer dydd. Nawr rydym yn rheoli’r ardal er budd natur a phobl, tra’n parhau i gefnogi gwaith y ffermwr.
Abereiddi
Roedd bythynnod hanesyddol gweithwyr y chwarel yn ei chanol hi pan darwyd Abereiddi gan stormydd y gaeaf. Gwnaethom arolygu’r safle a datgymalu’r adeiladau a ddifrodwyd yn ofalus, gan gynnig y deunydd i brosiectau cadwraeth lleol.
Dinas Dinlle, Gwynedd
Roedd y fryngaer anhygoel hon ymhell o’r arfordir yn oes y Rhufeiniaid. Yn hytrach nag atal yr erydiad parhaus, rydym yn gadael i dirlithriadau ailgyflenwi’r traeth, tra’n rheoli mynediad a chofnodi’r archaeoleg cyn iddi ddiflannu.
Cwmtydu, Ceredigion
Mae Castell Bach, caer Oes Haearn anghysbell yng Nghwmtydu, yn raddol syrthio i’r môr. Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn cofnodi gweddillion gwerthfawr fel y gallwn ddysgu mwy am y safle dirgel hwn cyn iddo gael ei golli.
Cwm Swden, Ceredigion
Mae’r cwm coediog hwn ger Cwmtydu yn araf droi’n goetir trwchus. Rydym yn gweithio i greu a chynnal glennydd ar gyfer blodau ymyl coetir a’r pili-palod sy’n bwydo arnyn nhw.
Porthdinllaen, Gwynedd
Mae’r bythynnod a’r enwog Dafarn Tŷ Coch ar reng flaen y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Gyda disgwyl i lefelau’r môr gynyddu gan fetr yn y 100 mlynedd nesaf, rydym yn gweithio gyda thenantiaid i wella gwydnwch yn wyneb llifogydd mwy rheolaidd.
Cemlyn, Ynys Môn
Mae morlyn Cemlyn yn safle nythu i 20 y cant o boblogaeth y DU o fôr-wenoliaid pigddu prin. Fodd bynnag, mae’r ardal hon o dan fygythiad yn sgil newid hinsawdd a’r cynnydd yn lefel y môr. Mae angen ei rheoli’n ofalus i alluogi’r arfordir i newid, tra’n diogelu bywyd gwyllt bregus.
The sun rising over Knoll Beach with grasses in the foreground at Studland Bay, Dorset

I bawb, am byth

Rydym yn diogelu a gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. Dysgwch amdanom ni a'r hyn rydym yn ei gefnogi.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun agos o beradl yr Hydref gyda’r castell yn y cefndir yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â dolydd yng Nghymru 

Rydym yn rheoli dolydd yn ofalus ledled Cymru er mwyn eu helpu i ffynnu. Dysgwch ragor am ein gwaith a ble gallwch weld dolydd yng Nghymru.

Y gored ar draws Afon Anafon fel rhan o’r prosiect hydro Ynni Anafon yn y Carneddau a’r Glyderau yn Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ynni adnewyddadwy yng Nghymru 

O drydan dŵr yn Eryri i feithrin tegeirianau gyda biomas yng Ngerddi Dyffryn, dysgwch sut mae prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Bustach yr Ucheldir ar dirwedd amaeth ym Mryn Bras, Cymru 
Erthygl
Erthygl

Ffermio yng Nghymru 

Dysgwch sut mae ein harferion ffermio ecogyfeillgar yn diogelu cynefinoedd a rhywogaethau prin, yn atal llifogydd, ac yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru.

Llo bach morlo llwyd ar draeth cerigos yn Treginnis, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Natur a bywyd gwyllt i’w gweld yng Nghymru 

Dewch ar antur natur yng Nghymru a darganfod pob math o fywyd gwyllt, o ddyfrgwn enwog Llynnoedd Bosherston yn Sir Benfro i wiwerod coch Plas Newydd yng Ngogledd Cymru.

Golygfa’n edrych tua’r dwyrain o Gwm Ivy yn edrych dros forfa heli Cwm Ivy a Thwyni Whitffordd, Gogledd Gŵyr, Abertawe.
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith yng Nghwm Ivy 

Dysgwch am fywyd gwyllt a’n gwaith ym morfa heli Cwm Ivy yn Whitffordd a Gogledd Gŵyr, o fonitro rhywogaethau prin i ddysgu am hoff fwyd dyfrgwn.

Grŵp o adar drycin Manaw llwyd a gwyn yn hedfan dros y môr
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith cadwraeth ar arfordir Sir Benfro 

Bob ugain mlynedd cynhelir cyfrifiad i asesu maint y nythfa o adar drycin Manaw ar ynysoedd oddi ar arfordir Sir Benfro. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ganlyniadau calonogol iawn.

Gwartheg Shetland ar y Warren ym Mae Rhosili
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith yn Rhosili 

Dysgwch sut mae arferion ffermio hynafol wedi helpu bywyd gwyllt y Gŵyr.

Prosiect
Prosiect

Ynni adnewyddadwy yn ffermydd Craflwyn a Beddgelert 

Mae prosiectau ynni adnewyddadwy yn ffermydd Craflwyn a Beddgelert yn trawsnewid y ffordd y mae pŵer yn cael ei gynhyrchu ac yn ariannu gwaith cadwraeth hanfodol.