
Darganfyddwch fwy yn Ninefwr
Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Dewch i deimlo cynhesrwydd yr ŵyl ar ddiwrnodau i’r teulu a mwynhewch anturiaethau ar Ystâd Dinefwr gyda ffrindiau yn ystod y gaeaf hwn. Dysgwch am yr hyn sydd ar y gweill dros dymor yr ŵyl, o gyffro ffair Nadolig Dinefwr, penwythnosau gyda’r teulu, Sul Sion Corn, ymweliad traddodiadol y Fari Lwyd a theithiau cerdded gaeafol adfywiol i fwynhau harddwch y parcdir hynafol.
Penwythnosau ddiwedd Tachwedd a mis Rhagfyr
Dewch i Dŷ Newton sydd wedi’i addurno’n hyfryd, gan fwynhau'r traddodiad blynyddol bellach coeden Nadolig Creaduriaid Dinefwr. Addurniadau yn adlewyrchu'r creaduriaid arbennig sydd i'w canfod yn crwydro'r ystad wedi'i creu gan yr artist arbennig Bettina Reeves.
Ymlaciwch ger y tân yn y caffi gyda chawl cynnes neu siocled poeth hyfryd.

Camwch i mewn i Dŷ Newton, cewch gwrdd â Sion Corn yn ei groto a mwynhau hud Nadolig yn Dinefwr. Profiad Nadoligaidd i’r teulu cyfan. Rhaid archebu o flaen llaw i gwrdd â Sion Corn.

Ymunwch â ni ar gyfer y traddodiad Cymreig difyr hwn yn cynnwys diod i’ch cynhesu, cerddoriaeth, a Mari ddireidus. Pan fydd Mari a’i grŵp yn cyrraedd Tŷ Newton, byddant yn canu caneuon neu waseiliau Cymraeg, a chymryd rhan mewn defod a elwir yn pwnco: sef y weithred o gyfnewid penillion digywilydd gyda’r sawl sy’n byw yno. Os yw perchennog y tŷ yn caniatáu i Mari a'i chriw fynd i mewn, bydd lwc dda ar yr aelwyd am y flwyddyn yn ôl bob sôn. Mae Mari yn adnabyddus am fod yn ddireidus – yn ceisio dwyn pethau a chwrso pobl mae’n eu hoffi – wrth iddi grwydro o dŷ i dŷ. Gwisgwch ddillad cynnes ac esgidiau addas. Rhaid archebu.

Dysgwch mor llesol yw mynd am dro yn y gaeaf a threuliwch ennyd ar foreau gaeafol ffres yn gwylio bywyd gwyllt Dinefwr, a chael cipolwg hyd yn oed ar ein gyr o geirw brith.

Digwyddiad blynyddol sy’n nodi dechrau dathlu’r Nadolig yn Dinefwr, a gynhelir ddiwedd Tachwedd (cynhaliwyd ar y 21 – 23 Tachwedd 2025).
Stondinau bwyd a chrefft lleol, rhaglen lawn o adloniant a Thŷ Newton wedi’i addurno’n hyfryd ar gyfer y Nadolig, a Dinefwr yn holl ogoniant y gaeaf yn gefndir i’r cwbl.

Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.

Nestled in Dinefwr’s parkland near Llandeilo, Newton House is a relaxed and informal Welsh country house. A visit here incorporates both the historic and the contemporary.

Take a stroll through Dinefwr Park near Llandeilo, a stunning 800-acre estate where you can spot a variety of wildlife and some of the oldest trees in Britain.
