
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Mae Tŷ hanesyddol Newton wedi'i amgylchynu gan Warchodfa Natur Genedlaethol a Pharc Ceirw tirweddol o'r 18fed ganrif.
Parc Dinefwr, Tŷ Newton, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6RT
Asset | Opening time |
---|---|
Tŷ Newton, gardd & caffi | 10:30 - 16:30 |
Parcdir a’r Maes Parcio | 10:00 - 17:00 |
Castell Dinefwr | 10:00 - 17:00 |
Parc Ceirw | 10:00 - 17:00 |
Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
£5.00 |
Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
Oedolyn (18+) | £12.10 | £11.00 |
Plentyn (5-17) dan 5 am ddim | £6.10 | £5.50 |
Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) | £30.30 | £27.50 |
Teulu (un oedolyn) | £18.20 | £16.50 |
Er mwynhad pob ymwelydd gofynnir i chi gadw cŵn ar dennyn pob amser, gan sicrhau fod gwastraff cŵn yn cael ei roi mewn bag ac yn y bin pwrpasol. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ar lawr gwaelod y tŷ. Efallai y bydd rhaid i ni gyfyngu'r nifer o gŵn yn y tŷ ar yr un pryd.
Mae siop lyfrau ail law ar lawr gwaelod Tŷ Newton.
Mae toiled wedi'i addasu ar gael ger yr hen Ganolfan Groeso, y caffi tecawe nawr yn y maes parcio. Cyfleusterau newid babi yma hefyd.
Safleoedd parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas (am ddim), tai bach hygyrch, llwybrau cerdded hygyrch, rhywfaint o dir anwastad.
Mae llwybr bordiau gwastad i Bwll y Felin, plis nodwch nad yw'r holl lwybrau o gwmpas yr ystad yn wastad.
Mae'r lifft allan o ddefnydd. Mae mynediad gwastad a llawr gwaelod y Tŷ Newton drwy'r prif ddrws. Mae dau set o risiau pren i gyrraedd y llawr cyntaf a'r islawr ar hyn o bryd. Ry' ni'n ymddiheuro'n ofnadwy am unrhyw anghyfleuster all hyn achosi.
Safleoedd parcio dynodedig ar gael i ddeilwyr Bathodynau Glas (am ddim) yn y maes parcio, ger y Cwt Cludfwyd.
Maes parcio - what3words: ///diffwdan.bonheddig.ymylon
Mae’r cod post yn mynd â chi i’r lleoliad anghywir. Chwiliwch am ‘National Trust Dinefwr’ ar y map neu dilynwch yr arwyddion deilen dderw brown. Os yn trafaeilio o'r dwyrain neu'r gorllewin o Ddinefwr, defnyddiwch yr A40 i Landeilo neu'r A483 os yn trafaeilio o Abertawe.
Parcio: Nodwch fod pellter tua 50 llath o'r maes parcio i Dŷ Newton.
Sat Nav: Mae’r cod post yn mynd â chi i’r lleoliad anghywir. What3Words: Compelled : Trailer : Park
Yr orsaf drenau agosaf yw Llandeilo, sydd 1.5 milltir o Barc Dinefwr. Mae Lein Calon Cymru yn rhedeg i’r de i Abertawe, neu i’r gogledd i’r Amwythig. Mae amserlenni’n gyfyngedig, felly gwiriwch ar-lein cyn ichi deithio.
Cymerwch gip ar www.traveline.cymru i weld yr amserlenni diweddaraf. Y safle bws agosaf at Barc Dinefwr yw Ffordd Caerfyrddin, Llandeilo.
Parc Dinefwr, Tŷ Newton, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6RT
Mae rhywbeth i’w wneud bob amser yn Dinefwr, waeth beth fo’r tywydd. Archwiliwch ystafelloedd y tŷ, dewch i weld beth sy’n newydd yn yr Iard Dderw, mwynhewch ginio yn y caffi, ewch am dro o amgylch y parcdir a’r coetiroedd Cymreig hynafol, neu os ydych chi’n teimlo’n egnïol, ewch i weld adfeilion urddasol Castell Dinefwr.
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci yn Ninefwr. Croesawir cŵn drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o leoedd ichi eu harchwilio.
Maenordy o’r ail ganrif a’r bymtheg yw Tŷ Newton gydag arddangosfeydd a gosodiadau cyfoes sy’n adlewyrchu gwahanol agweddau ar fywyd yn Dinefwr, yn arwain at yr Ardd Ffownten a’r Parc Ceirw gwyllt tu hwnt. Caffi ar y llawr gwaelod.
Crwydrwch drwy'r parcdir, dros 800 acer o ddolydd a choedwigoedd gydag amryw o goed hynafol, wrth galon y parcdir mae'r Parc Ceirw canoloesol gyda llwybr hygyrch. Cwt cludfwyd ger y maes parcio.
Man chwarae i’r teulu cyfan, lle i ddychymyg redeg yn wyllt gyda chwarae dŵr a’r Sied Dwt sy’n dŷ chwarae perffaith. Gweithgareddau creadigol newydd tymhorol, heb anghofio’r ystafell lyfrau i chwarae a gorffwys.
Mae castell trawiadol Dinefwr yn dyddio i’r ddeuddegfed ganrif; castell hollbwysig yn hanes Cymru fel canolfan yr Arglwydd Rhys, Tywysog pwerus y Deheubarth. O dan ofal Cadw.
Rhaglen lawn o ddigwyddiadau drwy gydol o flwyddyn o Sgyrsiau Sadwrn i weithgareddau teuluol yn ystod y gwyliau, mae rhywbeth i bawb yn Dinefwr.
19 Gorffennaf – 31 Awst. Yr haf hwn mae Dinefwr yn llawn o ffyrdd i chwarae – tu fas, tu fewn, ym mhobman! Camwch i mewn i Dŷ Newton ac i’r Selar Gwrw sydd yn gornel gyffyrddus wedi’i ysbrydoli gan stori y Dywysoges a’r Bysen. Lle i blant chwarae a mwynhau ffilm. O amgylch y tŷ chwiliwch am gorneli gwisgo lan, gemau, posau a’r llwybr ffigyrau bychan. Yn yr Iard Dderw mae dau le newydd i’w darganfod. Bydd y Castell Cardfwrdd yn dod a Castell Dinefwr yn fyw a Tŷ Neis yn gweini hufen iâ meddal ar gyfer dyddiau poeth yr haf. Mae’r hen ffefrynnau yn ôl hefyd – chwarae dŵr, Sied Dwt a’r ystafell lyfrau. Wedi’u cynllunio gyda teuluoedd mewn golwg mae’n haf o ddychymyg ac antur yn Dinefwr.
19 Gorffennaf – 31 Awst. Cewch chwarae yng Nghastell Dinefwr heb gamu mas o’r Iard Dderw. Bydd y castell chwareus hwn yn eich galluogi chi i adeiladu, archwilio a bod yn greadigol. Dewch i fod yn rhan o’r hwyl yn y Castell Cardfwrdd yr haf hwn. Am ddim i ymweld a'r Iard Dderw. Taliadau parcio yn daladwy.
6 Awst (11yb - 3yp) Gweithiwch gyda'r artistiaid Heidi Baker a Heidi Plant i greu printiau arbennig yn awyrgylch atmosfferig y Parc Ceirw. Cewch eich ysbrydoli gan yr hyn sydd o'ch cwmpas a mynd a darn bach o Ddinefwr gatre gyda chi, a phwy a wyr, efallai bydd y ceirw yn galw heibio hefyd! Gweithdy am ddim. Taliadau parcio yn daladwy.
23 Awst. Cyfle i greu mwgwd gyda’r artist Lucy Donald, anifail, trychfil neu greadur chwedlonol – mae lan i chi. Bydd Lucy yn gweithio gyda chi i greu rhywbeth arbennig. Bydd Dinefwr yno i ddarparu’r ysbrydoliaeth ac i’ch gweld yn gwisgo’ch mwgwd yn falch yn ystod eich ymweliad. Am ddim fel rhan o dal mynediad arferol.
Pa gyfrinachau sydd gan Dŷ Newton i'w datgelu? Pwy oedd yn byw yma? Beth sy'n cuddio yn y darluniau? Ymunwch a'r Tîm Croeso am daith awr o amgylch Tŷ Newton. Yn ystod y daith cewch blymio i ddyfnderoedd hanes Dinefwr gan ddarganfod mwy am y bobl wnaeth lunio'r lle rhyfeddol hyn. Bob Dydd Mawrth a Dydd Iau tan 25 Medi. Am ddim fel rhan o dal mynediad arferol.
Mae rhywbeth i’w wneud bob amser yn Dinefwr, waeth beth fo’r tywydd. Archwiliwch ystafelloedd y tŷ, dewch i weld beth sy’n newydd yn yr Iard Dderw, mwynhewch ginio yn y caffi, ewch am dro o amgylch y parcdir a’r coetiroedd Cymreig hynafol, neu os ydych chi’n teimlo’n egnïol, ewch i weld adfeilion urddasol Castell Dinefwr.
Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.
Daw'r ysbrydoliaeth ar gyfer yr arddangosfeydd o weledigaeth y nawfed Arglwydd Dinefwr i sefydlu rhaglen gelfyddydol yn y chwedegau.
Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.
Dewch i eistedd yng nghaffi dan do Tŷ Newton a mwynhewch amrywiaeth eang o fwydydd poeth ac oer, cacennau a hufen iâ. Yn y maes parcio, mae’r cwt cludfwyd yn lle cyfleus i gael diodydd a byrbrydau tecawê, cyn mynd am dro neu wylio Gwartheg Gwyn y Parc.
Cerddwch wrth ymyl coed hynafol hanesyddol ar gylchdaith drwy dirwedd a ddyluniwyd gan Lancelot ‘Capability’ Brown, gyda chyfle i weld yr hyddod brith sy’n byw yma.
Mae llwybr Trwyn Ragwen yn daith gerdded ar hyd y clogwyni at fae anghysbell gyda golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.
Mae’r gylchdaith hon drwy barc hanesyddol yn fwrlwm o fywyd gwyllt, gan gynnwys haid o hyddod brith. Cewch hefyd ymweld â chastell canoloesol a phlas o’r 17eg ganrif.
A traditional farmhouse with wooden floors, and a log burner on the beautiful Dinefwr Park.
Nestled on the edge of the Dinefwr Park Estate with a gorgeous garden overlooking the valley, Penparc is a fabulous base for exploring the Welsh countryside
Sitting within Dinefwr Park estate, Cariad Cottage is cosy and packed with charm and character.
Treuliwch y dydd yn Dinefwr gyda'r teulu yr haf hwn - bydd rhywbeth i bawb fwynhau | Spend the day with the family at Dinefwr this summer - there'll be something for everyone to enjoy
Dyma'ch cyfle chi i gamu mewn i Gastell Dinefwr yn yr Iard Dderw | Your chance to play in Dinefwr Castle without stepping out of the Oak Yard at Dinefwr.
Chwedlau, llên gwerin a hyd. Dewch i'r Parc Ceirw i fwynhau straeon, cyfrinachau a cymaint mwy. **** Folklore, myths, and magic. Join us in the mystical Deer Park for stories, secrets and so much more.
Pa gyfrinachau sydd gan Tŷ Newton i’w ddatgelu? Pwy oedd yn byw yma? Beth sy'n cuddio yn y darluniau? Dewch i ddarganfod mwy! **** What secrets does Newton House have? Who lived here? What's concealed in the paintings? Come and discover more!
Dewch i greu rhywbeth bendigedig gyda'r artist Heidi Baker mewn gweithdy ym Mharc Ceirw Dinefwr **** Come and make something beautiful! Work with artists Heidi Baker and Heidi Plant to learn how to screen print, and walk away with something special.
Ymunwch a’r mes bach, grwp i bobl ifanc gwrdd unwaith y mis yn Dinefwr | Join the Young Oaks at Dinefwr, a youth group for those wanting to get stuck in. Come and hang out, share your best ideas and do things that really matter.
Yn aml mae brwydyr yn rhwng y cacwn a'n hufen iâ - ond beth yw eu gwir stori? ** In summer you'll often see a wasp swatting dance whilst trying to enjoy ice cream, but what do wasps really mean to you? Friendly pollinator, or ice cream stealing foe?
Sut oedd dŵr yn gweithio yn Dinefwr? O ble fyddai'n dod? Pwy oedd yn gyfrifol am y system? ***** How did water work at Dinefwr? Where did it come from, what was it used for, and who was responsible for making it all work? Come and find out.
Yn dir hudolus o rym a dylanwad ers dros 2,000 o flynyddoedd, mae Dinefwr yn lleoliad eiconig yn hanes Cymru. Mae dwy gaer ar y safle sy'n dystiolaeth o bresenoldeb Rhufeinig cryf. Roedd y pwerus Arglwydd Rhys yn arwain o Ddinefwr a dylanwadodd ar benderfyniadau yng Nghymru. Yn sefyll yn llawn balchder yng nghanol yr ystâd mae Tŷ Newton, cartref teuluol am dros dri chan mlynedd i ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys, Tywysog pwerus Teyrnas Gymreig y Deheubarth. Dyluniwyd y dirwedd 18fed ganrif odidog, a amddiffynnir fel parcdir Gwarchodfa Natur Genedlaethol, gan y gweledyddion, George a Cecil Rice. O ddolydd llawn blodau i goetir trwchus hynafol, mae’r cyfan yma i chi ei ddarganfod. “If you take a handful of the soil of Dinefwr and squeeze it in your hand, the juice that will flow from your hands is the essence of Wales” Wynford Vaughan Thomas Ar y safle hefyd mae Castell Dinefwr, sy’n cael ei reoli gan Cadw (gweler y wefan) ac yn eiddo i Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Dinefwr ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli, neu cofrestrwch eich diddordeb gyda Dinefwr.
Gwyliwch y dathliad bywiog yn Dinefwr fu'n dod a'r gymuned at ei gilydd wrth ddathlu dechrau'r gwanwyn.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.