
Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

O addurniadau Nadolig a theithiau cerdded gaeafol i weithgareddau teuluol a marchnadoedd yr ŵyl, mae llawer o ddigwyddiadau a phethau i’w gwneud yn eich ardal chi y gaeaf hwn yng Nghymru. Trefnwch ddiwrnod allan Nadoligaidd a dewch o hyd i lawer o bethau i’w gweld a’u gwneud gyda’r teulu i gyd.
Camwch i mewn i ysbryd y Nadolig yng Nghastell y Waun, lle mae addurniadau ardderchog a goleuadau disglair yn llenwi pob ystafell, a theatrau pyped cysgod chwareus yn dod â 700 mlynedd o hanes y castell yn fyw. Y tu allan cewch fwynhau taith gerdded aeafol neu ddilyn y llwybr darganfod coetir i weld os all eich plant ddod o hyd i’r holl anifeiliaid sy’n galw’r ystâd yn gartref.

Cewch edrych yn fanylach ar addurniadau wedi’u hysbrydoli gan Nutcracker, a chrwydro drwy deyrnasoedd o eira, candi, blodau a choedwigoedd, gan orffen mewn dawns ddisglair. Y tu allan, mae’r goleuadau a’r addurniadau yn creu golygfa aeafol hudolus, a gall y plant ymlwybro ar hyd y llwybr gardd ar thema bale. Dewch draw ar ôl iddi dywyllu am brofiad Nadoligaidd go iawn gyda goleuadau disglair a chrefftau teuluol (15-18 Rhagfyr).

Dewch i ddathlu Nadolig Fictoraidd traddodiadol yng Nghastell Penrhyn, lle mae ysblander y Nadolig a thraddodiad oesol yn dod â’r ystafelloedd moethus yn fyw gydag addurniadau cywrain a choed sy’n disgleirio. Mae digon i oleuo wynebau’r ymwelwyr iau hefyd, gyda gorsaf hunlun, crefftau, llwybr darganfod anifeiliaid pren, adrodd straeon (12 Rhagfyr) a dewin (13-14 Rhagfyr).

Cyfnewidiwch eich cyrn ceirw am glustffonau a thincial eich ffordd i’r llawr dawns yn Nisgo Tawel Plas Newydd y Nadolig hwn. Ewch i’r Ystafell Gerdd, a ddefnyddiwyd unwaith ar gyfer partïon gan ‘Marcwis y Ddawns’, a dawnsiwch yn ddiddiwedd dan enfys o oleuadau. Wedyn, ymlaciwch gyda thaith gerdded aeafol yn y gerddi, a chael hunlun teuluol yn y dorch 7-troedfedd.

Anadlwch aer ffres, persawrus y pinwydd, gwrando ar gân yr adar, gweld aeron llachar y celyn, a mwynhau golygfeydd o fynyddoedd y Carneddau wedi’u gorchuddio ag eira - mae Gerddi Bodnant yn wych am eich atgoffa fod arafu yn un o anrhegion gorau’r tymor. Peidiwch â cholli’r llwybr natur gaeafol teuluol i ddarganfod mwy am uchafbwyntiau tymhorol yr ardd.

Dewch i brofi Nadolig Hudolus yn yr ystafelloedd uchaf yng Nghastell Powis, lle mae goleuadau disglair, addurniadau cywrain, a choed tal yn eich cludo i fyd gaeafol llawn hud. Bydd y plant wrth eu bodd yn gweld y llygod bach sy’n cuddio ymysg yr addurniadau. Wedi iddi dywyllu, o 12-22 Rhagfyr, cewch weld tafluniadau disglair yn goleuo waliau’r castell canoloesol, gan greu arddangosfa Nadoligaidd gofiadwy.

Peidiwch â cholli Ffair Nadolig flynyddol Llanerchaeron o 5-7 Rhagfyr, pan mae’r ystâd hanesyddol yn dod yn wlad hudolus aeafol o oleuadau disglair, cerddoriaeth lawen, ac arogleuon tymhorol. Cewch grwydro dros 70 o stondinau cyn mynd i mewn i’r Fila Sioraidd odidog i fwynhau Nadolig traddodiadol gyda choed wedi’u gwisgo, garlantau naturiol, a goleuadau bach - yn sicr bydd yn gwneud i chi deimlo’n llawn ysbryd Nadoligaidd.

Profwch y Ffair Nadolig yn Ninefwr, lle bydd talent, blasau, ac adloniant lleol yn sicr o’ch gwneud i deimlo’n Nadoligaidd. Mae Tŷ Newton hefyd wedi cael ei addurno ar gyfer y tymor - peidiwch â cholli’r goeden boblogaidd Creaduriaid Dinefwr. Ar ôl y Nadolig, beth am ddianc o’r digalondid gyda thraddodiad arbennig Cymru, y Fari Lwyd - gyda cherddoriaeth fywiog, chwerthin a digon o ddireidi.

Beth am ddianc o brysurdeb y Nadolig gyda thro heddychlon yng Ngerddi Dyffryn. Crwydrwch lwybrau rhewllyd, anadlu’r aer ffres, a mwynhau harddwch tawel y tymor. Os ydych yn ymweld hefo’ch plant, efallai y gallwch helpu Siôn Corn i ddod o hyd i’w garw coll, a chwblhau eu heriau hwyliog. Dyma’r lle delfrydol i bawb ymlacio’r mis Rhagfyr hwn.

Camwch yn ôl mewn amser yn Nhŷ Tredegar, lle mae goleuadau disglair a hud Nadoligaidd yn dod â hanes yn fyw. Cewch ddarganfod sut y dathlwyd y Nadolig yma am dros 500 o flynyddoedd a chael i ysbryd yr ŵyl go iawn wrth ymweld yn ystod y 'Nosweithiau Hwyr' (12-23 Rhagfyr). Cewch weld dros 100 o goed Nadolig, miloedd o oleuadau disglair, llusernau disglair, a'r Gedrwydden 250 mlwydd oed yn disgleirio'n llachar.

Camwch i Nadolig yr 16eg ganrif a chrwydro tri llawr yn llawn gwyrddni ffres, orennau persawrus, a sbeisys blasus - peidiwch â cholli’r bwrdd urddasol wedi’i osod am wledd foethus. Gall y plant gwrdd â’r ‘Arglwydd Anghyfraith’ direidus, meistr Gwledd y Ffyliaid, a fydd yn rhoi tegan Tuduraidd am ddim iddynt

Bydd Dinefwr yn cychwyn cyfnod y Nadolig gyda'u Ffair Nadolig flynyddol ar y 21-23 Tachwedd lle bydd stondinau Nadoligaidd, yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau hardd o emwaith wedi'u gwneud â llaw i gyffeithiau blasus yn cael eu gosod o flaen Tŷ Newton. Uchafbwynt na ddylid ei golli.

Bydd y Ffair Nadolig yn Llanerchaeron yn ôl ar 5-7 Rhagfyr. Mwynhewch fins pei a gwin cynnes wrth i chi grwydro o gwmpas yr ystâd a fydd yn llawn stondinau yn arddangos cynnyrch, bwyd a cherddoriaeth leol. Bydd y fila Sioraidd yn agor ei drysau am dri diwrnod ac yn cael ei haddurno ag addurniadau Nadolig cynaliadwy ar draws y llawr gwaelod.

Dewch i greu atgofion hudolus wrth i chi ymuno â Siôn Corn am frecwast neu swper yn Erddig ar benwythnosau o 6-23 Rhagfyr (archebu’n hanfodol). Gyda gweithgareddau hyfryd, caneuon twymgalon, a syrpreisys Nadoligaidd, mae’r profiad cofiadwy hwn yn siŵr o lenwi’r teulu cyfan â hwyl yr ŵyl.

Mae ymweld â Siôn Corn yn draddodiad teuluol gwerthfawr sy’n ychwanegu ychydig o hud i’r tymor Nadoligaidd. Dewch i’w gwrdd yn ei groto yn Ninefwr ar 7, 14 a 21 Rhagfyr wrth iddo gymryd seibiant o’i amserlen brysur i wrando ar eich dymuniadau Nadolig (archebu’n hanfodol).

Ymunwch â Siôn Corn am frecwast hudolus yn Siop Lyfrau Stablau Bodley (archebu’n hanfodol). Cewch weld wynebau bach hapus wrth iddo ymddangos, yna cewch ddod ynghyd wrth y goeden Nadolig i gasglu anrheg fechan a chlywed stori dwymgalon.

Mwynhewch yr anrheg o roi drwy gyfrannu at fanc bwyd Wrecsam yn groto o chwith Erddig; bydd Siôn Corn yno i ddiolch i chi, bob penwythnos 29 Tachwedd i 21 Rhagfyr, 11am-3pm. Rydym yn croesawu rhoddion o fwyd yn ystod yr wythnos hefyd, ond ni fydd Siôn Corn yno i ddweud diolch.

Dyma'r tymor perffaith i roi. Felly, rhowch rywbeth yn ôl i'r gymuned y Nadolig hwn drwy roi rhodd i Fanc Bwyd Croesoswallt a'r Cyffiniau. Rydym yn croesawu rhoddion o fwyd yn ystod yr wythnos, ond ar y penwythnosau, o 29 Tachwedd i 21 Rhagfyr bydd Siôn Corn yno i ddiolch i chi am eich rhodd.


Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.