
Darganfyddwch fwy yn Ninefwr
Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Yn sefyll yn gadarn yng nghanol ystâd Dinefwr mae adeilad rhestredig Gradd II* Tŷ Newton, cartref i ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys, Tywysog pwerus Deheubarth, am dros 300 mlynedd. O dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 1990, mae Tŷ Newton bellach yn lle i fwynhau, ymlacio ac adfywio.
Mae stori ystâd Dinefwr yn adlewyrchu hanes Sir Gâr a Chymru fel cenedl. Wedi’i adeiladu ym 1660 gan Edward Rice, mae’r tŷ’n dwyn enw’r ‘Dref Newydd’ a adeiladwyd ar gyfer cyfaneddwyr o Loegr yn yr oesoedd canol. Adeiladwyd y plasty Jacobeaidd (y datblygodd y tŷ presennol ohono) ar safle sydd wedi’i feddiannu ers dwy fil o flynyddoedd.
Mae’r ochr allanol, fel y gwelwch heddiw, yn dyddio o’r 1850au pan ychwanegwyd ffasâd Gothig ffasiynol. Mae modd gweld nifer o’r nodweddion gwreiddiol o’r 17eg ganrif yn y tŷ o hyd, gan gynnwys y grisiau crand a’r nenfydau addurnedig.
Cyn bod teithio’n hawdd, roedd llawer o foneddigion cyfoethog yn comisiynu paentiadau o’u plastai gwledig i’w hongian yn eu cartrefi yn Llundain. Mae pedwar llun ‘llygad barcud’, yn dyddio o tua 1690, nawr yn hongian yn Nhŷ Newton.
Yng nghanol yr 20fed ganrif, i geisio codi arian i gynnal y tŷ, sefydlodd Richard, 9fed Barwn Dynevor, raglen greadigol o gelfyddydau yn y tŷ, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r 9fed Barwn yn ein hysbrydoli yn Ninefwr hyd heddiw – mae gennym raglen barhaus o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol sy’n dathlu etifeddiaeth ei weledigaeth.
Mae’r arddangosfeydd yn adlewyrchu’r gwahanol agweddau ar fywyd yn Ninefwr dros y canrifoedd. Maen nhw’n cynnig cip ar hanes yr ystâd a’i phobl drwy ddatgelu gwrthrychau o’r casgliad am y tro cyntaf. Maen nhw hefyd yn cynnig platfform i ymarferwyr creadigol cyfoes ymateb i hanes hir y safle a’r dirwedd.
Archwiliwch arddangosfa newydd yn yr Ystafell Ddarganfod, sy’n egluro hanes ac ystod anhygoel y bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn Ninefwr.
Caiff hanes eang Dinefwr ei gynrychioli mewn amserlen gyfoes, yn ystumio ar hyd y waliau ac yn adrodd y stori y tu ôl i’r tirlun hynafol hwn. Yn cynnwys portread o'r Fonesig Cecil a’i heffaith ar y parcdir, mae modelau ffyngau ceramig cain i’w gweld (ar fenthyg gan y Gymdeithas Ficrolegol Brydeinig) diolch i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Dysgwch fwy am y ffyngau, sy’n adlewyrchu rhan o ecosystem ehangach y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig hwn, ac yn arddangos pwysigrwydd y parcdir mewn perthynas â natur ac ecoleg.
Mae’r arddangosfa newydd hon wedi’i chreu gan yr artist, Julia Griffiths Jones a'r dylunydd, Heidi Baker.
Ymunwch â ni i ddarganfod yr Ystafell Dirwedd yn Nhŷ Tredegar, fel rhan o’r rhaglen ‘Tir Gwerthfawr’ o arddangosfeydd a digwyddiadau yn Ninefwr. Darganfyddwch bedwar llun olew pwysig a phrin, sy’n dyst i gyfoeth, statws a dyheadau’r ystâd a’r teulu a oedd yn berchen arni.
Wedi’u cwblhau gan artist anhysbys, does dim llawer o ddogfennaeth wedi dod i’r amlwg mewn cysylltiad â’r lluniau, ac rydym yn parhau i ymchwilio, ond credwn eu bod fwy na thebyg wedi’u comisiynu i ddathlu stiwardiaeth Griffith Rice, a oedd yn AS dros Sir Gâr rhwng 1701-10.
Cymerwch sedd i wylio ffilm fer, sy’n dangos sut mae arbenigwyr wedi astudio’r lluniau i ddatgelu eu gorffennol. Dysgwch sut y gwnaeth y manylyn lleiaf yn y dadansoddiad o’r paent ddatgelu gwir oedran y gweithiau celf.
Yn ystod y gwaith adnewyddu ym 1999 a 2000 bu’n rhaid codi rhai o’r lloriau i gwblhau’r gwaith atgyweirio. Tra bod y gwagleoedd hyn yn agored, cwblhawyd arolygon gan yr archaeolegwyr a darganfuwyd sawl peth rhyfeddol. Cadwch olwg am gornel wedi’i goleuo yn o’r ystafelloedd ar y llawr cyntaf – dyma un o’r pethau rhyfeddaf iddynt ddod ar ei draws.
Credwyd i rai o’r pethau hyn gael eu gosod yn fwriadol fel modd hudol o warchod y tŷ rhag ysbrydion dieflig a dewiniaeth a grymoedd goruwchnaturiol.
Mae gwrthrychau eraill yn dyddio’n ôl i sefydlu’r tŷ presennol – copi wedi’i losgi o lyfr o 1689, gwniadur plentyn bach o ddechrau’r ddeunawfed ganrif, neu gerdyn chwarae wedi’i wneud â llaw gyda nodyn cariadus gan arglwyddes y tŷ ar y cefn.
Cewch weld mwy o’r gwrthrychau yn yr arddangosfa Datguddio: 125 Gwrthrych o Ddinefwr.
O hoelen rydlyd a wnaed â llaw neu ddarn o bapur wal a brintiwyd â llaw i waith plastr addurniadol o’r nenfwd, mae’r gwrthrychau hyn, sydd heb eu gweld gan y cyhoedd o’r blaen, yn datgelu llawer am Archeoleg y Cartref.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys darnau a deunyddiau o gasgliadau Dinefwr sy’n cynnig cip diddorol ar y deunyddiau adeiladu a’r technegau addurno hanesyddol a ddefnyddiwyd yn Nhŷ Newton ers iddo gael ei adeiladu yng nghanol yr 17eg ganrif.
Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.
Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.