Crwydrwch y parc yn Ninefwr

Mae’r parc yn Ninefwr yn doreth o hanes Cymreig ac yn gorchuddio ystâd 800 erw ar gyrion hen dref amaethyddol Llandeilo. Ymwelwch â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a’r parc cyntaf yng Nghymru i gael ei enwi’n Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG). Yn Ninefwr, fe welwch ficrocosm o dreftadaeth a natur Cymru ar un safle.
Cynefinoedd hollbwysig a bywyd gwyllt Dinefwr
Ceir ystod eang ac amrywiol o gynefinoedd yn Ninefwr, coetiroedd, dolydd, parcdir a'r gorlifdir. Mae hwn yn baradwys i fyd natur sy'n denu rhywogaethau pwysig. Mae'r ystâd yn gartref i lawer o'n mamaliaid mwyaf cyfrinachol, y mae llawer o bobl yn treulio oes heb eu gweld; dyfrgwn, ffwlbartiaid, llygod y gwair a hyddod brith. Mae gwahanol fathau o adar preswyl a mudol yn bridio ar yr Ystad neu’n gorffwyso yma ar eu taith. Yn ddiweddar, daethpwyd o hyd i chwilod prin.
'Cymerwch lond llaw o bridd o Ddinefwr a’i wasgu rhwng eich cledrau. Y sudd sy’n llifo o’ch dwylo yw hanfod Cymru.'
- Wynford Vaughan Thomas, darlledwr, newyddiadurwr ac awdur

Gwartheg Gwyn Dinefwr
Brid hynafol a phrin sydd yn gysylltiedig â Dinefwr ers y nawfed ganrif, ac yn debygol eu bod yn un o’r bridiau gwartheg hynaf sy’n frodorol i Ynysoedd Prydain. Mae buches Dinefwr yn chwarae rhan bwysig gyda pharhad y brid yn ogystal â phori cadwraethol o fewn y parcdir.
Mae’r gwartheg yn drawiadol yn eu hedrychiad hynafol gyda chotiau hir gwyn, cyrn blaenau cul urddasol a llygaid a thrwynau du. Yn y gwanwyn mae nhw’n dychwelyd i’r caeau o flaen y tŷ ac cael cymorth i fwrw eu cotiau gaeaf gan frain, cigfrain ac adar eraill drwy dynnu’r blew gwyn meddal ar gyfer eu defnyddio i orchuddio eu nythod.
Parc ceirw canoloesol yn Ninefwr
Mae’r ystâd yn gartref i barc ceirw canoloesol 100 erw o faint. Mae’r haid o dros gant o Hyddod Brith i’w clywed yn beichio a bloeddio o bob rhan o’r ystâd, yn enwedig ar drothwy’r cyfnod rhidio ym mis Hydref.
Fe welwch y Corvidae (teulu’r Fran) yn helpu gyda’r broses dwtio – maen nhw i’w gweld yn pigo ar groen sidanaidd y bwystfilod tra’n eistedd ar eu cyrn enfawr wrth i’r cyfnod rhidio agosáu.

Y coed hynaf yng ngwledydd Prydain yn Ninefwr
Mae coetir hynafol Dinefwr yn gartref i rai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain. Mae gennym dros 300 o goed derw, y mae rhai’n dros 400 oed, sy’n eu gwneud nhw’n hynafiaid go iawn. Maen nhw’n darparu ecosystemau hanfodol i amrywiaeth o rywogaethau. Hyd yn oed pan fo’r coed yn marw neu’n cwympo, dydyn ni ddim yn eu symud ymaith. Maen nhw’n aros yn eu hunfan i greu cynefin i blanhigion, bywyd gwyllt a ffyngau.
Plannu newydd
Yn ogystal â gofalu am y coed aeddfed, rydym yn plannu rhai newydd hefyd fel bod gennym goed ar wahanol gamau bob amser. Bydd mwy yn cael eu plannu yn y Parc Gwartheg Mewnol ac Allanol i ail-greu dyluniad y 18fed ganrif.
Yn y pendraw, caiff y planhigfeydd hyn eu rheoli fel y parc ceirw, fel porfeydd coediog. Drwy wneud hyn, rydym yn gobeithio y bydd Dinefwr bob amser yn enwog am ei hynaf-goed.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Hanes Dinefwr
Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.

Llwybr ‘Capability’ Brown yn Ninefwr
Cerddwch wrth ymyl coed hynafol hanesyddol ar gylchdaith drwy dirwedd a ddyluniwyd gan Lancelot ‘Capability’ Brown, gyda chyfle i weld yr hyddod brith sy’n byw yma.

Llwybr bywyd gwyllt Parc Dinefwr
Mae’r gylchdaith hon drwy barc hanesyddol yn fwrlwm o fywyd gwyllt, gan gynnwys haid o hyddod brith. Cewch hefyd ymweld â chastell canoloesol a phlas o’r 17eg ganrif.