Casgliadau Dolaucothi
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Dolaucothi ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dysgwch am hanes cloddio aur Dolaucothi, sy’n dyddio’n ôl o leiaf 2,000 o flynyddoedd. Dechreuodd y Gwaith cyn cyfnod Plini’r Hynaf, yr awdur Rhufeinig enwog, gan ddod i ben ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd.
Rhwng 70 OC ac 80 OC, dechreuodd y Rhufeiniaid gloddio’n helaeth am y tro cyntaf yn Nolaucothi, gan greu gwaith mwyngloddio agored a thyllu nifer o dwneli (ceuffyrdd) i archwilio’r gwythiennau aur. Trawsnewidiwyd tirwedd ffisegol Dolaucothi yn llwyr gan y cyfnod hwn o gloddio.
Cyflawnwyd y rhan fwyaf o’r gwaith yma gyda dim ond caib, morthwyl a nerth dŵr. Roedd yn waith hynod o galed.
Mae rhai o farciau gwreiddiol y ceibiau, sy’n bron i 2,000 mlwydd oed, i’w gweld o hyd yn y ceuffyrdd sy’n rhan o’r llwybr, ochr yn ochr â gweddillion y dyfrffosydd a’r tanciau dŵr a ddefnyddiwyd i ddod â dŵr i’r safle i olchi’r uwchbridd ymaith a golchi’r mwynau mâl.
Does neb yn gwybod sut y daeth y Rhufeiniaid i glywed am Ddolaucothi, ond roedd eu llwybrau masnach yn sicr yn ymestyn i Gymru – roedd y metelau gwerthfawr yn un o’r rhesymau dros eu penderfyniad i oresgyn y rhan hon o’r byd.
Gwyddwn hefyd eu bod wedi sefydlu caer yn yr ardal o gwmpas pentref Pumsaint ar ôl cyrraedd Sir Gâr tua 70 OC. Gwnaethant ddechrau cloddio yn fuan wedi hynny.
Cefnwyd ar y gaer filwrol Rufeinig ym 125 OC pan ddaeth yn gaer sifilaidd. Ond darganfuwyd darnau arian Rhufeinig yma sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y 4edd ganrif, sy’n dystiolaeth o weithgarwch parhaus yn yr ardal.
Gyda diflaniad y Rhufeiniaid o Ddolaucothi, diflannodd eu dealltwriaeth a’u defnydd o’r gloddfa aur hefyd.
Daeth y cyfnod pwysig nesaf o gloddio yn oes Fictoria/oes Edward, ar droad yr 20fed ganrif, yr un cyfnod â’r mwyngloddiau aur cyntaf yn Ne Affrica a Rhuthr Aur enwog Klondike.
Sefydlwyd y South Wales Gold Mining Company gan gloddiwr plwm, Edward Jones, i brydlesu’r mwyngloddiau gan y teulu Johnes a oedd yn berchen ar yr ystâd ym 1888.
Roedd yn gobeithio gwneud ei ffortiwn, ond yn anffodus iddo, prin oedd yr aur yn y mwynau, ac roedd y gwaith yn rhy ddrud i fod yn werth chweil.
Ym 1905, cyflogwyd James Mitchell, a oedd â phrofiad uniongyrchol o ruthr aur De Affrica, gan y teulu Johnes i ailagor y mwyngloddiau.
Gwnaeth elw yn ei flwyddyn gyntaf a phenderfynu dechrau ei gwmni ei hun, Ogofau Proprietary Gold Mining Company. Cafwyd llwyddiant i ddechrau, ond yn anffodus bu’n rhaid dod â’r fenter i ben ym 1909 ar ôl i’r aur ddechrau prinhau.
Roedd atyniad aur a golud yn dal yn ddeniadol, fodd bynnag, cymerodd Cothy Mines reolaeth o’r brydles ar unwaith, gan ailgyflogi James Mitchell fel rheolwr y mwynglawdd, gan obeithio y byddai’n cael gwell lwc yr eildro.
Agorodd ei siafft fawr gyntaf ar y safle, gyda ffrâm bren fawr uwch ei phen a fyddai’n gostwng y cloddwyr i grombil y ddaear mewn casgenni.
Fodd bynnag, cafodd ei rwystro unwaith eto gan Ddolaucothi pan ddaeth ar draws gweddillion hen waith Rhufeinig a foddwyd ganrifoedd ynghynt. Roedd y gost o bwmpio’r dŵr allan yn ormod, a chaeodd Cothy Mines ym 1912.
Dechreuodd cwmni newydd, Roman Deep Ltd, waith i ddatblygu’r ardal gloddio’n sylweddol, gan ddechrau gyda siafft 1909 Mitchell.
Golygai technolegau newydd y gallai’r ceuffyrdd gael eu palu ymhellach a’r siafftiau gael eu suddo’n ddyfnach nag erioed o’r blaen. Cafodd y siafft ei draenio a’i dyfnhau’n raddol i 480tr (146m) – y siafft ddyfnaf ar y safle mae’n debyg.
Yn y 1930au, darganfuwyd y gwaith Rhufeinig, gan gynnwys ysgolion pren, sgaffaldiau ac olwyn bren a ddefnyddiwyd i ddraenio dŵr.
Er mai dyma’r symiau mwyaf o aur a gloddiwyd ers cyfnod y Rhufeiniaid, nid oedd yn werth chweil.
Yn ôl rhai cloddwyr a oedd yn gweithio ar y safle ar y pryd, gwnaethant gyflenwi swm bach o aur ar gyfer priodas frenhinol y Tywysog Siôr, Dug Caint, â’r Dywysoges Marina o Roeg a Denmarc.
Dros y blynyddoedd nesaf, ailenwyd y cwmni cloddio’n British Goldfields (No. 1) Ltd ac estynnwyd y brydles hyd at 1937. Cyflogwyd llawer mwy o weithwyr wrth i’r llafurlu gynyddu i tua 150-200.
Anelodd y gweithlu newydd am yr entrychion – roedd y symiau o aur a gloddiwyd ymysg yr uchaf erioed yn Nolaucothi. Ar gyfartaledd, roedd sawl can tunnell o fwynau’n cael eu hechdynnu bob wythnos.
Yn anffodus, dim ond mis ar ôl yr uchafbwynt hwn, daeth y cloddio i ben ym mis Hydref 1938.
O fewn dwy flynedd, roedd yr holl adeiladau wedi’u dymchwel a chafodd y siafftiau eu gadael i lenwi â dŵr. Dyna oedd diwedd y cloddio yn Nolaucothi.
Mae’r creigwely yn yr ardal hon yn tua 438 miliwn oed ac yn gorwedd yn agos at y cyswllt Ordofigaidd-Silwraidd. Mae’n cynnwys siâl Silwraidd yn bennaf, a ffurfiwyd yn wreiddiol mewn amgylchedd morol. ‘Drychwch yn ofalus ar waliau’r gloddfa ac fe welwch olion crychdonnau gwely’r môr.
Yn ystod digwyddiad adeiladu mynyddoedd, yr Orogeni Caledonaidd, cafodd y creigiau eu plygu, eu croeswasgu a’u hyrddio o dan bwysau anferthol a adeiladodd yn y gramen.
Mae Dolaucothi wedi’i lleoli ar blyg mawr yn yr ardal hon, Anticlein Cothi. Mae’r aur ei hun i’w gafod yn apig y plygion ac yn y gwythiennau cwarts a ffurfiwyd naill ai fel gwythiennau neu lensys bylchog tenau. Mae’r mwynau cyfoethocaf hefyd yn cynnwys toreth o byrit (aur ffug).
Mae’r ardal gloddio’n tua hanner milltir sgwâr o faint, wedi’i marcio ar y wyneb gan nifer o byllau bas, ffosydd, ceuffyrdd a siafftiau. Y dyddodyn mwyaf gwerthfawr yw’r ‘Wythïen Rufeinig’, dyddodyn gwythïen gyfrwyog, a gloddiwyd yn ystod y cyfnod cloddio olaf rhwng 1935 a 1938.
Dydyn ni ddim yn gwybod rhyw lawer am beth ddigwyddodd i’r aur ar ôl iddo adael Dolaucothi, ond mae darganfyddiadau lleol yn awgrymu iddo gael ei ddefnyddio i greu eitemau aur addurniadol hyfryd iawn.
Ym 1797, gwnaeth ffarmwr a oedd yn aredig ei dir yn agos at y cloddfeydd ddarganfyddiad cyffrous; stôr o eitemau aur addurniadol, gan gynnwys darn o freichled pen neidr aur Rufeinig, sydd bellach yn yr Amgueddfa Brydeinig.
Mae’r eitemau hyn yn rhan o Gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig, a gallwch eu gweld ar-lein ar wefan yr Amgueddfa Brydeinig.
Mae ‘na gysylltiad rhwng aur Cymru a’r teulu brenhinol hefyd. Mae’r rhan fwyaf o’r casgliad brenhinol o gloddfeydd Dolgellau, ond gellir olrhain rhywfaint ohono i Ddolaucothi yn ôl y tebyg.
Rydym yn gwybod bod y teulu Johnes hefyd wedi comisiynu gemwaith o aur y cloddfeydd, ond yn anffodus dydyn ni ddim yn gwybod ble mae’r casgliad hwnnw erbyn hyn. Efallai y caiff ei ailddarganfod ryw ddydd.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Dolaucothi ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.
Mae gan Ddolaucothi sgôr o un bawen. Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r teithiau o’r gloddfa aur Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cris-croesi’r ystâd ehangach.