Skip to content

Diwrnodau i’r teulu yng Ngerddi Dyffryn

Cyhoeddwyd:
21 Chwefror 2023
Gerddi Dyffryn
Gerddi Dyffryn | © John Millar

Mae Gerddi Dyffryn yn lle gwych i ddod â’r teulu, o’r plant lleiaf i neiniau a theidiau, mae yma rywbeth i ddiddanu pawb.

Haf o Chwarae yng Ngerddi Dyffryn 

18 Gorffennaf - 2 Medi

Mae diwrnodau hir yr haf yn berffaith ar gyfer antur yn yr ardd, ac mae cymaint i'w ddarganfod yng Ngerddi Dyffryn dros y gwyliau haf. Dilynwch ôl troed Reginald a Florence Cory, a fu’n byw yn Nhŷ Dyffryn ’slawer dydd, a darganfyddwch haf wedi'i ysbrydoli gan deithio, natur a chwilfrydedd. 

O gemau enfawr i chwarae creadigol wedi'i ysbrydoli gan natur, mae hwyl i’w gael rownd pob cornel yn y gerddi. Gall plant herio ei gilydd i gêm neu redeg yn rhydd drwy'r pentyrrau pren enfawr – gan wrando ar synau natur neu orsaf chwarae gerddorol.  

Gerddi Dyffryn yw'r lle perffaith i greu atgofion newydd yr haf hwn. Does dim angen cadw lle a rhaid talu’r pris mynediad arferol; am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cynllunio eich ymweliad

Dyma’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i gynllunio diwrnod i’r teulu yng Ngerddi Dyffryn:

  • Plant o dan 5 am ddim.
  • Mae cyfleusterau newid babanod wedi’u lleoli ar bellter addas o’i gilydd o gwmpas y gerddi, yn ogystal â thai bach hygyrch.
  • Mae yna lwybrau sy’n addas i bramiau, cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd, a gallwch logi cadeiriau olwyn a sgwter symudedd (am ddim) o’r Ganolfan Groeso.
  • Mae gennym ddwy ardal chwarae Pentwr Pren.
  • Am resymau diogelwch, ni chaniateir unrhyw fath o feic, sgwter na threic plant yn y gerddi, oni bai bod handlen hir ar y cefn a bod oedolyn yn ei reoli drwy’r amser.
  • Mae croeso i gŵn, felly gall cyfaill bach blewog y teulu ymuno hefyd (gwybodaeth yma am ymweld â Gerddi Dyffryn gyda’ch ci).
  • Mae’r caffi’n cynnig bocsys bwyd i blant ac amrywiaeth o fwydydd a diodydd poeth ac oer, heb anghofio’r cŵn – mae trîts ar gael iddyn nhw hefyd.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic hefyd.

Arddangosfa The Other Bennet Sister

20 Mawrth - 31 Awst

Dathlwch The Other Bennet Sister BBC One yn un o'i lleoliadau ffilmio. Yma yng Ngerddi Dyffryn, darganfyddwch wisgoedd ac eitemau o'r gyfres a chamwch i fyd y chwiorydd Bennet

Dysgwch fwy

Rhaid talu’r pris mynediad arferol, mynediad am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Arddangosfa The Other Bennet Sister
Arddangosfa The Other Bennet Sister | © James Beck, National Trust Photos

Ardal chwarae Pentwr Pren

Mae ddwy ardal chwarae wyllt yn Nyffryn, un y tu allan i’r rhwystr talu ger y ganolfan groeso ac un fwy o lawer yn yr Ardd Goed. Mae digon o le yn yr ardaloedd chwarae gwyllt i’r rhai bach losgi rhywfaint o egni a mwynhau’r mwd.

Ceisiwch gadw eich cydbwysedd ar hyd y coed enfawr a gafodd eu cwympo fel rhan o’r cynllun i adfywio’r ardd goed, sbonciwch o foncyff i foncyff ar hyd y cerrig camu a mwynhewch bicnic ar bonion picnic a gerfiwyd â llaw.

Mae’r ardal yn gartref i wiwerod, adar a llawer o fwystfilod bach, felly dewch â chwyddwydr neu finocwlars i gael golwg graffach.

Plant yn mwynhau yn yr ardal chwarae yng Ngerddi Dyffryn, Caerdydd, Cymru
Plant yn mwynhau yn yr ardal chwarae yn Ngerddi Dyffryn, Caerdydd | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Pecynnau Synhwyrau ac Antur

Yng Ngerddi Dyffryn mae dau becyn gwahanol ar gael i’w benthyg i'ch helpu chi a’r plantos i archwilio'r gerddi mewn ffyrdd newydd.

Pecynnau Synhwyrau

Mae'r bagiau hyn yn cynnwys amddiffynwyr clustiau i helpu plant sy'n cael trafferthion gyda synau anghyfarwydd neu uchel, llyfr i blant (yn Gymraeg a Saesneg) a all annog amser darllen tawel ynghanol byd natur, cerrig gofid a theganau ffidlan i helpu gyda gorysgogiad a gwella ffocws, a chaleidosgop i greu delweddau gweledol hudol.

Pecynnau Antur

Mae'r bagiau hyn wedi'u hysbrydoli gan y '50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11¾', gyda chwmpawd i ddod o hyd i'ch ffordd, pêl dennis i fesur cyflymder wrth rolio i lawr bryniau, chwyddwydr i astudio pryfed, binocwlars i wylio adar, a thâp mesur a chyfarwyddiadau ar sut i gyfrifo uchder ac oedran coeden. Mae ’na hefyd daflenni adnabod tymhorol a llyfr natur.

Mae'r pecynnau synhwyrau ac antur yn rhad ac am ddim i unrhyw un eu benthyg, heb fod angen archebu na thalu blaendal (ar gael ar sail y cyntaf i'r felin). Gofynnwch i'r Tîm Croeso am becyn y tro nesaf y byddwch yn ymweld a gwyliwch y plantos yn profi Gerddi Dyffryn mewn ffyrdd newydd a hwyl.

Explorer Backpacks at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan
Explorer Backpacks at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan | © National Trust

Hyd yn oed rhwng ein digwyddiadau, mae Dyffryn yn opsiwn gwych am ddiwrnod allan i’r teulu. Gyda phob tymor newydd mae’r gerddi’n newid ac yn esblygu, felly mae bob amser rywbeth newydd i’w weld. 

Mae gennym lwybrau tymhorol i chi eu mwynhau hefyd. Casglwch daflen o’r Ganolfan Groeso a fydd yn eich tywys at uchafbwyntiau tymhorol y gerddi. Gweler y dudalen Y Gerddi yn Nyffryn am ragor o wybodaeth am y llwybr tymhorol sydd ar gael nawr.

A gyda chaffi, siop a siop lyfrau ail-law (gyda dewis gwych o lenyddiaeth i blant ac oedolion ifanc) mae digon i’ch diddanu bob amser yng Ngerddi Dyffryn. Felly pryd bynnag y dewiswch ymweld, gallwch fod yn siŵr y gwnewch chi a’ch teulu atgofion i’w trysori.

Herbaceous Border in summer, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn

Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Bwyta a siopa yng Ngerddi Dyffryn 

Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.

Caffi’r Ardd, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg

Ymweld â Gerddi Dyffryn gyda’ch ci 

Mae gan Erddi Dyffryn sgôr o ddwy bawen. Dysgwch fwy am ymweld gyda’ch ci a sut rydym yn gwneud Dyffryn yn well fyth i gŵn.

Ci yn bwyta hufen iâ cŵn y tu allan i’r Ganolfan Groeso, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg