
Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch ddiodydd a phrydau blasus yn y caffi a phrynwch gofroddion, nwyddau i’r cartref a phlanhigion yn y siop.
Mae’r Caffi’r Gerddi, sy’n swatio ar lannau Nant Bran ger yr ardal chwarae i blant, yn cynnig dewis o gacennau a phrydau poeth blasus.
Mae’r caffi’n cynnig gwasanaeth llawn – y lle perffaith i eistedd i lawr a mwynhau pryd o fwyd. Dewiswch o gawl tymhorol, tatws drwy’u crwyn, brechdanau wedi/heb eu tostio, salad a phasteiod. Mae gennym hefyd ddiodydd poeth ac oer, cacennau, snacs a hufen iâ, yn ogystal â hufen iâ a chacennau i gŵn.
Wedi'i leoli cyn y pwynt talu, mae'n llecyn delfrydol i fwynhau tamaid neu bryd o fwyd ar ôl mynd am dro o gwmpas y gerddi.
Mae Caffi’r Gerddi ar agor bob dydd, gyda bwyd poeth ar gael tan 3pm.
Wedi’i leoli wrth galon y gerddi, galwch draw am ddiod boeth neu oer i’w cario gyda chi, teisennau wedi’u lapio, cacennau, pasteiod, brechdanau a snacs yng Nghaffi’r Oriel. Rydym hefyd yn gwerthu hufen iâ (i bobl a chŵn).
Cymerwch sedd neu ewch â’ch danteithion ar eich taith – tra’ch bod chi yma, beth am gael golwg ar y llyfrau yn y siop lyfrau ail-law boblogaidd?
Mae Caffi’r Oriel ar agor bob dydd yn ystod gwyliau’r ysgol ac ar benwythnosau a gwyliau banc o 11am - 3.30pm, 1 Ebrill – 3 Medi 2023.
Rydym yn gweithio’n galed i leihau ein defnydd o blastig yng Ngerddi Dyffryn, ac mae hyn yn dechrau gyda’n siopau bwyd. Rydym wedi dechrau defnyddio cwpanau coffi y gellir eu compostio a gwellt yfed a chwpanau bioddiraddadwy. Mae ein pecynnau brechdanau’n cael eu gwneud o starts llysiau ac mae’r poteli diodydd yn wydr. Rydym yn ymrwymedig i leihau ein defnydd o blastigau untro.
Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.
Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.
Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.
Mae llawer ar gael yn ein Siop Roddion yng Ngerddi Dyffryn. O lyfrau, ffasiwn ac offer cegin i declynnau garddio defnyddiol, planhigion a thrîts i’r ci, mae rhywbeth i bawb yma.
Mae gennym amrywiaeth eang o blanhigion tymhorol ar werth, ac mae ein holl blanhigion yn cael eu tyfu yma yn y DU mewn compost di-fawn. Mae gennym ddewis amrywiol o berlysiau, llwyni, bylbiau a phlanhigion lluosflwydd, yn ogystal â dewis o blanhigion sy’n cael eu tyfu yma, fel y gallwch fynd â darn o Erddi Dyffryn adref ‘da chi.
Dewch â bywyd newydd i’ch gardd gyda’n casgliad o addurniadau, cerfluniau a pholion planhigion.
Mae gennym amrywiaeth eang o fwyd a diod ar werth, gan gynnwys jamiau, cyffug, cyffeithiau, siocled a mwy – rhywbeth at ddant pawb. Mae ein holl fwydydd wedi’u gwneud yn y DU.
Mae Dyffryn yn lle poblogaidd iawn i gerdded y ci, felly mae gennym amrywiaeth eang o deganau, teclynnau a thrîts (gan gynnwys ‘Woofins’) i’n hymwelwyr bach blewog.
Rydym hefyd yn stocio celf a chrefft gan gyflenwyr Cymreig lleol, sy’n sicrhau y gallwch ddod o hyd i rywbeth sy’n unigryw i’r lleoliad pan fyddwch chi’n siopa gyda ni.
Yn dibynnu ar y tymor, mae gennym ffrwythau a llysiau sydd wedi’u cynaeafu o’n Gerddi Cegin ar werth. Pan fyddan nhw ar gael, fe welwch chi nhw y tu allan i’r Siop a’r Ganolfan Groeso.
Mae ein siop llyfrau ail-law poblogaidd, dan ofal gwirfoddolwyr, yn gwerthu llyfrau o bob genre, gan gynnwys ffuglen, trosedd, hanes, crefftau, coginio, a llenyddiaeth pobl ifanc. Gallwch hefyd fanteisio ar ein seddi cyfforddus wrth i chi archwilio a samplo ein llyfrau. Efallai y canfyddwch neges ramantus neu hen lyfrnod coll o fewn eich llyfr. Mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed iawn er mwyn arddangos y llyfrau mewn modd clir a deniadol. Golyga hyn fod Caffi’r Galeri (lleoliad y siop lyfrau) yn lleoliad delfrydol i siopa am eich llyfr nesaf.
Drwy brynu neu roddi llyfr, rydych yn cefnogi’r gwaith cadwraethol a datblygiadol hollbwysig a gynhelir yng Ngerddi Dyffryn, gan ei alluogi i barhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Diolch i’ch ceiniogau a’ch cefnogaeth chi y gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes Gerddi Dyffryn i bawb, am byth.
Dewiswch anrheg i blentyn arbennig o’n hystod eang o lyfrau plant, teganau, crefftau a manion eraill.
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.
Adeiladodd John Cory y tŷ a’r gerddi yn Nyffryn gyda’r cyfoeth a enillodd drwy ei orchestion yn y diwydiant glo.
Ymwelwch â Gerddi Dyffryn fel grŵp a mwynhau gostyngiadau ar ffioedd mynediad, teithiau o’r gerddi Edwardaidd a bwyd blasus yn y caffis.
Dysgwch sut y gallwch gyfrannu yng Ngerddi Dyffryn a chael golwg ar y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael.