Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Rydym yn falch o gael ein dewis fel lleoliad ar gyfer un o goedlannau coffa newydd Cymru a fydd yn gofeb fyw i’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y Pandemig Covid-19.
Rydym yn darparu naw hectar o dir yn Hafod, ar ymyl deheuol ein hystad Erddig, i greu coetir hardd, diogel a hygyrch er mwyn i bobl allu ymweld ag o, i gofio anwyliaid a threulio amser yng nghanol byd natur.
Braint yw cael gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi’r prosiect coedlannau coffa.
Pwrpas y goedlan newydd yw cynnig lle i gofio a myfyrio, ynghyd â chynnig man gwyrdd ar gyfer y dyfodol lle gall pawb barhau i ddod i gysylltiad buddiol a hollbwysig â byd natur am byth.
Gwytnwch fydd thema'r coetir; symbol addas i ddangos y cryfder ddangosodd pobl Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac fe fydd yn chwarae rhan bwysig yn cynorthwyo adferiad byd natur a'n brwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.
Unwaith bydd y gwaith wedi ei gwblhau yn nes ymlaen yn y flwyddyn bydd yn dod yn fan cyhoeddus a gallwn ni i gyd wylio'r goedlan yn tyfu gyda'n gilydd.
Rydym yn falch o rannu dyluniad terfynol ein coetir coffa yn Erddig. Yn dilyn sesiynau ymrwymiad cymunedol a mewnbwn gan randdeiliaid, daeth gofynion allweddol i'r amlwg gan siapio'r cynllun terfynol i sawl parth, pob un gyda'i ffocws penodol:
Mae'r ardal goetir yn Erddig yn fan coffa drwyddi draw ac nid ydym yn bwriadu cael coed sydd wedi eu cyflwyno'n bersonol. Mae hyn oherwydd bod coetiroedd yn ddynamig, yn systemau byw sy'n cael eu rheoli'n weithredol. Er mwyn iddynt ffynnu bydd yn angenrheidiol i ni dynnu coed weithiau am resymau diogelwch ac i wneud lle i'r coetir aeddfedu.
Mae’r prosiect coedlannau coffa yn rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru. Bydd y Goedwig Genedlaethol yn cynnwys rhwydwaith o goedlannau cyhoeddus a reolir yn ôl safonau uchel ledled Cymru, a bydd yn cynnwys coedlannau newydd a choedlannau sy’n bodoli eisoes. Bydd ymgysylltu â’r gymuned yn hollbwysig wrth ddatblygu safleoedd y Goedwig Genedlaethol, er mwyn helpu i sicrhau y bydd y coedlannau’n cynnig cyfleoedd ar gyfer hamddena, addysg ac ymarfer corff ac, yn yr achos hwn, lle i fyfyrio er mwyn cofio’r rhai a gollwyd yn sgil Covid-19.
Bydd dau goetir coffa pellach yn cael eu creu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru: Brownhill, Cyfoeth Naturiol Cymru yn Sir Gaerfyrddin ac Ynys Hywel, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi rhannu cynllun un o goedlannau coffa newydd Cymru a leolir yn Erddig ger Wrecsam. Estynnir gwahoddiad i bobl helpu i blannu coed yn y goedlan, a fydd yn gofeb fyw i’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig Covid-19.