Skip to content
Datganiad i'r wasg

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn rhannu cynllun y Goedlan Goffa yn Erddig ac yn gwahodd pobl i helpu i blannu coed

Two women sitting on a bench at Blakes Wood, Essex, in spring
Coedlan i gofio a myfyrio | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi rhannu cynllun un o goedlannau coffa newydd Cymru a leolir yn Erddig ger Wrecsam. Estynnir gwahoddiad i bobl helpu i blannu coed yn y goedlan, a fydd yn gofeb fyw i’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig Covid-19.

Lleolir y goedlan yng ngogledd Cymru a bydd yn cynnig lle i gofio a myfyrio, ynghyd â chynnig man gwyrdd ar gyfer y dyfodol lle gall pawb barhau i ddod i gysylltiad buddiol a hollbwysig â byd natur am byth.

Dengys y cynllun sydd newydd ei ryddhau sut y bydd darn o dir naw hectar o faint yn Hafod, ar ymyl ddeheuol ystad Erddig, yn cael ei drawsnewid dros y flwyddyn sydd i ddod, yn amodol ar ganiatâd cynllunio. Ar ôl cwblhau’r goedlan yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn, bydd yn cynnig man cyhoeddus a fydd ar agor i bawb ei fwynhau ac yn ffurfio rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

Yn dilyn sesiynau ymgysylltu â’r gymuned a chyfraniadau gan randdeiliaid, daeth nifer o ofynion allweddol i’r amlwg mewn perthynas â’r goedlan. Ar sail y rhain, mae’r cynllun terfynol wedi cael ei hollti’n ardaloedd gwahanol, gyda phob ardal â’i chanolbwynt ei hun:

I bobl, bydd ardal fynedfa groesawgar a llawn blodau yn cysylltu’r goedlan goffa â’r maes parcio sydd yno eisoes. Yn y canol, bydd dôl fawr yn cynnig man cymdeithasol awyr agored ar gyfer picnics, digwyddiadau a gweithgareddau. Yn ystod misoedd yr haf, bydd llwybrau’n cael eu torri trwy’r glaswelltir er mwyn creu profiad ymgollol i’r ymwelwyr wrth i’r blodau gwyllt flodeuo.

Hefyd, bydd man cymunedol parhaol i’w gael lle gellir creu rhandiroedd a pherllan yn llawn coed ffrwythau. Yn yr ardal archwilio, anogir chwarae naturiol ac ymgysylltu â natur; ac er mwyn i bobl allu myfyrio, bydd ardal dawel arbennig i’w chael, gyda nodwedd ddŵr yn ganolbwynt iddi.

A family comprising an adult woman, adult man and two small boys under seven walking through green spring woodland
Man cyhoeddus, ar gael i bawb ei fwynhau | © National Trust Images/John Millar

Yn ôl Jeremy Barlow, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

“Anrhydedd yw cael bwrw ymlaen â’r gwaith o greu un o blith tair o goedlannau coffa Cymru. Rydym yn falch o gael cynorthwyo Llywodraeth Cymru i helpu ein cenedl i adfer ar ôl y pandemig, a diolchwn i bawb sydd wedi cyfrannu at gynllunio’r goedlan

Mae darparu mannau lle gall pobl ddod i gysylltiad â natur, harddwch ac awyr iach wrth galon a chraidd yr hyn a wnawn fel elusen. Bydd y man gwyrdd diogel a hygyrch hwn ger Wrecsam yn cynnig lle arbennig i bobl leol, cymunedau ac ymwelwyr gofio’r rhai a gollwyd yn sgil Covid-19, ac elwa ar dreulio amser yng nghanol natur.”

Bydd llwybrau gwastad, llydan a hygyrch, a fydd yn addas i gadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a bygis, yn cysylltu’r gwahanol ardaloedd. Bydd y llwybrau troed sy’n bodoli eisoes yn cynnig mwy fyth o fynediad ar droed, gan alluogi pobl i archwilio’r cefn gwlad o’u cwmpas. Bydd rheseli beiciau ar gael i feicwyr wrth y brif fynedfa a bydd llwybr teithio llesol yn ymuno â’r rhwydwaith teithio llesol ehangach.

I natur, bydd rhannau coediog, bach yn cael eu plannu’n ddwys ac yn cael eu gadael yn gyfan gwbl ar gyfer bywyd gwyllt. Bydd coed a llwyni’n cynnig cartrefi a mannau nythu, yn ogystal â helpu i leihau sŵn a llygredd o du’r ffordd gyfagos.

Bydd ail ddôl yn cynnig ffynhonnell fwyd i bryfed peillio ac yn diogelu tystiolaeth o ddôl ‘cefnen a rhych’ hanesyddol. Bydd pyllau gwasgaredig, gwrychoedd a llennyrch coediog yn ychwanegu at amrywiaeth y cynefinoedd hollbwysig a gaiff eu creu er budd amffibiaid, mamaliaid ac adar.

'Gwydnwch’ fydd thema’r goedlan – symbol priodol o’r cryfder a ddangosodd trigolion Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd gan y goedlan rôl bwysig o ran cefnogi adferiad natur a’n brwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.

A brown and black Pearl-bordered fritillary butterfly perched on purple flowers
Glöyn byw brith perlog | © National Trust Images/Matthew Oates

Mae’r Ymddiriedolaeth yn estyn gwahoddiad i bobl ddod draw i helpu i blannu coed yn y goedlan goffa yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Bydd sesiynau plannu’n cael eu cynnal ar 18 a 20 Chwefror. Rhaid trefnu lle ymlaen llaw trwy ymweld â gwefan yr Ymddiriedolaeth: www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/erddig/events.

Bydd y mathau o goed a gaiff eu plannu yn gallu addasu i fygythiadau plâu, clefydau a hinsawdd newidiol. Coed llydanddail brodorol fydd y rhan fwyaf ohonynt, sef rhai â chysylltiadau hanesyddol a diwylliannol â’r ardal.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: "Bydd y coedlannau hyn yn cynnig amgylchedd naturiol hardd i deuluoedd a chymunedau allu talu teyrnged, myfyrio mewn llonyddwch a chysylltu â’r natur ryfeddol sydd yno. Rwy’n gwahodd pawb, yn enwedig rhai sy’n lleol i Erddig ac unrhyw un a gollodd un annwyl oherwydd covid, i ymweld â’r goedlan pan fydd yn agor yn ddiweddarach eleni, a mwynhau ei gwylio’n newid a thyfu."

Bydd dwy o goedlannau coffa eraill yn cael eu creu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru: un ar safle Cyfoeth Naturiol Cymru yn Brownhill, Sir Gaerfyrddin, a’r llall yn Ynys Hywel yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r tair coedlan goffa yn rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru.

I lawrlwytho dyluniad terfynol y goedlan goffa, archebwch le mewn sesiwn blannu neu, am ragor o fanylion ynghylch y goedlan goffa, ewch i dudalen we Erddig.

Y tŷ a’r tocwaith yn Erddig, Wrecsam, dan orchudd barrug
Lle
Lle

Neuadd a Gardd Erddig 

Archwiliwch gartref, gardd ac ystâd sy'n llawn straeon am deulu a'u gweision

Wrecsam

Yn rhannol agored heddiw
Prosiect
Prosiect

Ein coedlan goffa yn Erddig 

Rydym yn falch o gael ein dewis fel lleoliad ar gyfer un o goedlannau coffa newydd Cymru a fydd yn gofeb fyw i’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y Pandemig Covid-19.