Graig Fawr
Bryn 62 erw hardd wedi’i leoli yng ngogledd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE).
Graig Fawr, Allt y Graig, Denbighshire, LL18 6DX

Oriau agor ar gyfer 8 Chwefror 2025
Asset Opening time Graig Fawr Gwawr - Cyfnos LlMaMeIaGwSaSu27282930311234567891011121314151617181920212223242526272812Ar y ffordd
O Abergele, ymunwch â’r A55 a chymerwch Gyffordd 27. Dilynwch yr A525 ac A547 tuag at Brestatyn, ac ar ôl mynd heibio Marian Resort and Spa, trowch i’r dde i Allt y Graig a pharhau at y maes parcio. Fel arall, O Gaer, gadewch yr A55 ar Gyffordd 31 a dilynwch yr A5151 tuag at Brestatyn. Parhewch drwy Ddyserth, ac yn y goleuadau traffig, trowch i’r dde am y B5119. Yn y goleuadau nesaf, trowch i’r dde eto i’r A547, ac yna trowch i’r dde ar ôl y Marian Resort. Parhewch i fyny Allt y Graig, a dilyn y ffordd i’r maes parcio.
Ar fws
I gyrraedd Graig Fawr gyda bws, mae’r safle bws agosaf yn Star Inn yn Alltmelyd. Gallwch ddal bws 19, sy’n rhedeg o Fflint i’r Rhyl, bws 13 sy’n teithio o Landudno i Brestatyn neu fws 35 sy’n rhedeg mewn llwybr cylchol o gwmpas Rhyl. O’r safle bws, cerddwch tuag at fwyty Good Shed a pharhau tuag at waelod Graig Fawr, ble welwch giât y cerddwyr ar gyfer mynediad at y safle.
Uchafbwyntiau
Teithiau Cerdded
Mwynhewch rwydwaith o lwybrau golygfaol trwy’r dirwedd, gyda dewis i gyrraedd yr olygfan uchaf neu grwydro’r bryniau sy’n arwain at drefi a phentrefi cyfagos.
Golygfeydd Godidog
Mwynhewch olygfeydd prydferth sy’n edrych dros Ddyffryn Clwyd, ac fe welwch fynyddoedd y Carneddau a gweddill Eryri.
Planhigion fasgwlaidd
Darganfyddwch y glaswelltiroedd calchfaen prin, cartref i ystod o blanhigion fasgwlaidd prin, yn cynnwys Rhwyddlwyn Pigfain a’r Galdrist Ruddgoch.
Pryfed a Bywyd Gwyllt
Cewch weld glöynnod byw a gwyfod yn ffynnu yng nghynefinoedd amrywiol ac unigryw’r safle, yn cael ei adnabod fel Safle Triphlyg o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Pethau i'w gweld a'u gwneud

Crwydro Graig Fawr
Darganfyddwch brydferthwch naturiol Graig Fawr, safle bryniog sy’n adnabyddus am ei glogwyni trawiadol a golygfeydd panoramig eang.
Digwyddiadau i ddod
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Ynghylch Graig Fawr
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE). Mae’n cynnwys gweirgloddiau, clogwyni creigiau trawiadol ac yn ardal sydd wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei gynefin calchfaen unigryw. Mae’r ardal yn llawn bioamrywiaeth, yn cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn cynnwys planhigion sy’n brin yn genedlaethol fel y Rhwyddlwyn Pigfain a glöynnod byw prin fel y glesyn serennog. Mae’r copa yn cynnig golygfa brydferth o arfordir Gogledd Cymru, ac yn lleoliad poblogaidd ar gyfer cerddwyr a’r rhai sy’n mwynhau natur.