Skip to content

Ein gwaith cadwraeth ar arfordir Sir Benfro

Grŵp o adar drycin Manaw llwyd a gwyn yn hedfan dros y môr
Aderyn drycin Manaw yn hedfan uwchlaw’r lli  | © National Trust Images/Nick Upton

Ym mis Mehefin 2018, gwnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, am y tro cyntaf ers 20 mlynedd, gofnodi adar drycin Manaw Ynys Middleholm (neu Ynys Midland) yn Sir Benfro, fel rhan o Gyfrifiad Adar Môr y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.

Nythfa bwysig

Gan gynnwys Sgomer a Sgogwm hefyd, mae ynysoedd Sir Benfro eisoes wedi’u cydnabod fel cartref nythfeydd bridio mwya’r byd o adar drycin Manaw, gyda thua 50 y cant o’r boblogaeth fyd-eang.

Gwaith partneriaeth

Gweithiodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru (YBGDGC) i fonitro poblogaeth yr ynys o adar drycin Manaw, a gofnodwyd ddiwethaf ym 1998 pan gynhaliwyd Cyfrifiad Adar Môr 2000. Bu’r gwaith monitro’n bosibl diolch i gyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru, The Seabird Group, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Beth ddangosodd y data?

Dangosodd y canlyniadau fod yr ynysoedd bellach yn gartref i fwy na 50% o boblogaeth y byd o adar drycin Manaw a bod bron i hanner miliwn o barau bridio i gyd ar draws yr ynysoedd rhyngwladol-bwysig hyn, gyda 89,000 ar Ynys Sgogwm YBGDGC, 350,000 ar Ynys Sgomer YBGDGC ac 16,000 ar Middleholm.

‘Cyfrifiad 2018 ar Middleholm oedd y tro cyntaf ers 20 mlynedd i adar drycin Manaw gael eu cofnodi ar yr ynys fechan, ac mae’n wych gweld bod y boblogaeth yn llawer mwy nag yr oeddem yn tybio.’

– James Roden, ceidwad ardal, Gogledd Sir Benfro

Pam roedd angen gwneud hyn?

Mae monitro’r nythfa o adar drycin Manaw yn hanfodol ar gyfer asesu iechyd y boblogaeth a deall statws cadwraeth ein hadar môr rhyngwladol-bwysig ac effeithiau newid yn yr hinsawdd ar amgylcheddau morol.

Ddwy ddegawd yn ôl, roedd 3,000 o barau bridio o adar drycin Manaw ar yr ynys anghysbell, sydd wedi’i lleoli oddi ar Benrhyn Marloes.

Gwaith heriol

Gwnaed y gwaith arolygu gan geidwad yr ardal, James Roden, a thîm o bum ymchwilydd gwirfoddol YBGDGC, dros un diwrnod o wyth awr. Roedd y gwaith yn gofyn am ofal mawr oherwydd nid yw Ynys Middleholm ar agor i’r cyhoedd fel arfer, felly nid oes unrhyw lwybrau na mynediad hawdd i’r ynys – bu’n rhaid i’r tîm ddibynnu ar eu sgiliau sgramblo, cwch bach a’r tywydd.

Ar yr ynys ei hun, mae adar drycin Manaw, yn ogystal â phalod, yn nythu mewn tyllau, felly bu’n rhaid i’r tîm droedio’n ofalus er mwyn peidio â difrodi’r nythod bregus.

Ysglyfaeth hawdd

Mae adar drycin Manaw wedi esblygu’n effeithiol ar gyfer bywyd ar y môr; mae ganddyn nhw adenydd hir, cul a thraed bach sydd wedi’u tycio’n ôl yn bell ar eu cyrff. Fodd bynnag, mae bywyd ar y tir yn fwy trafferthus i’r adar môr hyn; dydyn nhw ddim yn gallu cerdded yn hawdd ac maen nhw’n symud yn drwsgl, sy’n eu gwneud nhw’n hawdd eu hela. Dyma pam maen nhw’n nythu mewn tyllau ac yn gadael neu ddychwelyd i’w tyllau gyda’r nos, er mwyn lleihau’r perygl.

Beth roedd y gwaith monitro’n cynnwys?

Roedd y gwaith monitro’n cynnwys chwarae cân gymdeithasu’r aderyn, y bu’n rhaid ei recordio ymlaen llaw ar ddyfais sain, i sampl o dyllau ar draws y tair ynys. Petai aderyn yn ymateb i’r alwad, byddai’r twll yn cael ei gofnodi fel un actif fel rhan o’r arolwg.

Diolch

Gyda’ch cefnogaeth barhaus gallwn barhau gyda’n gwaith cadwraeth hanfodol. Diolch am helpu i ddiogelu’r llefydd arbennig hyn.

Llithrfa a chreigiau'n edrych tua'r môr ger Martin's Haven, Sir Benfro

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa eang o Draeth Marloes, Sir Benfro. Mae nifer o bobl ar y tywod euraidd, ac ar ymyl y traeth mae clogwyni geirwon yn codi.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thraeth a Chors Marloes 

Dewch yn nes at natur drwy wylio’r adar ar y Gors a rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr godidog ar draeth Marloes. Neu mentrwch ymhellach a darganfod yr ynysoedd oddi ar y Penrhyn.