Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
I’r rhai sy’n mwynhau cerdded a’r awyr agored, mae Morfa a Nant Bach yn lleoliadau delfrydol ar gyfer crwydro arfordir gogleddol Llŷn. Yn gyfoeth o natur, hanes a golygfeydd godidog, ni ddylid colli'r rhan hon o'r penrhyn.
Mae'r creigiau môr uchel yn darparu mannau nythu ardderchog ar gyfer nythfeydd mulfrain. Daliwch nhw yn lledu eu hadenydd i sychu eu plu a gwyliwch nhw yn plymio o dan y dŵr i chwilio am bryd o fwyd.
Mae'r frân goesgoch, gyda'u harddangosfeydd awyrol hyfryd i'w gweld yn plymio i fyny a lawr ar hyd llwybr yr arfordir. Yn aelod o deulu’r frân gyda’u pig a’u coesau coch, mae 215, sef tri chwarter poblogaeth y DU yn byw yng Nghymru, gyda 60 par yn byw ac nythu yn Llŷn.
Ymhlith y glaswelltir morol cyfoethog, mae blodau fel y seren las i'w gweld ddiwedd y gwanwyn. Mae clustog Fair yn addurno’r llwybr arfordir mewn lliwiau pinc bywiog yn ystod misoedd yr haf ac mae’r llwyni eithin yn blodeuo’n felyn llachar drwy’r flwyddyn.
O fynyddoedd yr Eifl i Eryri ac ar draws y môr i Fôn, ni ddylid colli'r golygfeydd o Morfa a Nant Bach. Mae creigiau Ynys Fach ac Ynys Fawr yn cynnig cyfleoedd gwych i dynnu lluniau yn erbyn cefndir dramatig yr hen chwarel wenithfaen yn y bryniau.
Ymgollwch mewn golygfeydd ysblennydd, natur a hanes. O grwydro’r ffermdir i ddarganfod harddwch arfordir Llŷn, mae Morfa a Nant Bach yn le perffaith i bawb sydd yn caru cerdded a natur.
Yng nghysgod Yr Eifl, mae adfeilion chwarel wenithfaen Trefor. Wedi'i hagor ym 1850, roedd unwaith yn un o'r chwareli gwenithfaen mwyaf yn y byd. Mae gwenithfaen o'r chwarel wedi palmantu strydoedd dinasoedd fel Lerpwl a Manceinion a hyd yn oed yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cerrig cyrlio yn y gemau Olympaidd. Daeth chwarelwyr o bob rhan o'r DU i weithio ac i fyw yma.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Yma yn Llŷn mae gennym ni amrywiaeth o deithiau cerdded i’ch plesio chi a’ch ffrind pedair coes, o draeth perffaith Porthdinllaen i arfordir prydferth Porthor.
Darganfyddwch y llefydd gorau yn Llŷn i wylio adar, darganfod bywyd gwyllt y gwlyptir neu weld eich hoff greaduriaid glan môr, o forloi i ddolffiniaid.