Darganfod mwy ym Mhlas yn Rhiw
Darganfod sut i gyrraedd Plas yn Rhiw, ble i barcio, pethau i'w gweld a'u gwneud, a mwy.
Mwynhewch ddiwrnod allan yn crwydro Plas yn Rhiw efo ffrindiau a theulu. Archwiliwch y goedwig a mentrwch i'r berllan neu ewch am dro o amgylch yr ardd.
Darganfod Plas yn Rhiw yr hydref hwn a threulio amser gyda'ch gilydd fel teulu.
Rhowch eich welingtons ymlaen ac ewch ar daith o amgylch yr ardd a'r coetir lle mae dail bywiog yr hydref yn gosod y llwyfan ar gyfer archwiliad cyffrous. Rhowch gynnig ar wneud eich creadur coetir eich hun gyda brigau a dail, neu archwiliwch llawr y goedwig am bryfed bach.
Heriwch eich teulu i gystadleuaeth ar ein cwrs rhwystrau cyffrous sydd wedi’i osod yn y goedwig, neu gwelwch pwy all stopio, gwrando ac adnabod y nifer fwyaf o ganeuon adar.
Ydych chi erioed wedi ceisio edrych yn fanwl iawn ar rai o'r blodau, dail, cennau a thrychfilod sydd o'n cwmpas?
Mae pecynnau natur Plas yn Rhiw yn tywys ymwelwyr drwy’r gerddi, y coetir a’r berllan gyda gwybodaeth a chliwiau am ble i ddod o hyd i wenynen y frenhines yn y gwanwyn, blodau gwyllt yn yr haf neu ffyngau yn yr hydref ymhlith llawer o bethau eraill.
Ynghyd â’r llyfryn, fe gewch lensys llaw a sbienddrych gyda’r ID. canllawiau sy'n rhoi popeth sydd ei angen arnoch i'w archwilio a'i ddarganfod.
Bydd ein llwybr peillwyr yn rhedeg drwy'r haf. Bydd y llwybr hunan-arweiniol hwn yn mynd â chi ar antur o amgylch y ddôl ym Mhlas yn Rhiw ac yn cynnwys llwybr o amgylch yr ardd, y goedwig a’r berllan. Byddwch yn cael taflen ateb ac yn dod yn fforwyr bach yn chwilio am wybodaeth am wahanol beillwyr. Bydd y wybodaeth hon sydd wedi'i gwasgaru ar fyrddau yn eich helpu i ateb y cwestiynau.
Dyma'r wybodaeth sydd ei hangen i helpu gynllunio'ch diwrnod allan nesaf ym Mhlas yn Rhiw.
Darganfod sut i gyrraedd Plas yn Rhiw, ble i barcio, pethau i'w gweld a'u gwneud, a mwy.