Skip to content

Lansio badau ar y môr ym Mhorthdinllaen

Golygfa o’r traeth a’r clogwyni o’i gwmpas a chefn gwlad o’r awyr uwch ben Porthdinllaen, Gwynedd, Cymru
Porthdinllaen o’r awyr, Gwynedd | © National Trust Images / National Trust

Yn rhinwedd ein swydd yn Awdurdod Harbwr Statudol ar gyfer bae Porthdinllaen, rydym yn gyfrifol am sicrhau bod y safle’n cael ei reoli’n ddiogel dan y cod Diogelwch Porthladdoedd a Morol. Helpwch ni i gadw Porthdinllaen yn arbennig a diogel i’r holl ddefnyddwyr a’r bywyd gwyllt trwy ddilyn y camau yma.

Cofrestrwch eich badau

Cyn lansio na defnyddio badau ar y môr ym Mhorthdinllaen bydd angen i chi gofrestru eich bad gyda Chyngor Gwynedd. Nod y broses gofrestru yw sicrhau diogelwch ar y dŵr.

Mae’n ffordd o gadw cofnod o fadau sy’n lansio yng Ngwynedd ac yn sicrhau y gellir cysylltu â pherchennog bad, os bydd angen.

Rhaid i’r holl gychod pŵer a jet-sgis sy’n cael eu lansio yng Ngwynedd gael eu cofrestru gyda Chyngor Gwynedd a chael naill ai drwydded lansio dymhorol neu ddyddiol. Rhaid i bob cwch llai na 10 HP hefyd gofrestru.

Cofrestrwch eich bad

Dilynwch y protocol lansio

  • Nid oes mynediad i gerbydau i’r traeth ym mhentref Porthdinllaen o gwbl (yn agos at Tŷ Coch). Mae’r fynedfa i lansio ar waelod Lôn Bridin, Morfa Nefyn (yn agos i faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

  • Lansiwch mor agos i’r pwynt mynediad ag sy’n ymarferol bosibl.

  • Dim cerbydau i fynd i lawr i’r traeth ar y chwith.

  • Trelars i’w parcio yn daclus i’r dde o’r pwynt mynediad os bydd y llanw’n caniatáu.

  • Cerbydau i’w symud oddi ar y traeth a’r pwynt mynediad (gellir eu parcio ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, os oes lle ar gael).

  • Talu’r ffioedd lansio (gweler y manylion llawn isod) i’r Harbwr Feistr Cynorthwyol sydd yn y caban ger y pwynt mynediad ar y traeth. Sylwer mai dim ond arian parod yr ydym yn ei dderbyn ar hyn o bryd.

  • Cadwch at y cyfyngiad cyflymder uchaf o 4 not ochr y traeth i’r bwiau melyn ac o fewn y man angori (neu o fewn 100m o’r arfordir os nad oes bwiau yn bresennol).

  • Cadwch at gyflymder nad yw’n codi ôl llong o fewn 50 metr o fad personol arall, cwch, doc, nofiwr, sgïwr, pysgotwr, offer pysgota, neu’r arfordir.

Dilynwch y cod morol

Mae Porthdinllaen yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt arbennig ac amrywiol, gan gynnwys un o’r dolydd morwellt mwyaf yng Nghymru, cynefin hanfodol i bysgod ifanc, sydd hefyd yn helpu i sefydlogi’r arfordir, storio carbon a hidlo’r dŵr.

Ceisiwch gadw’r effaith ar fywyd gwyllt cyn lleied â phosibl trwy ddilyn y Cod Morol.

Lawrlwythwch God Morol Gwynedd

Ffioedd lansio

Mae dau ddewis ar gael. Gallwch gofrestru eich bad gyda Chyngor Gwynedd am £40 a thalu ffi lansio ddyddiol i’r Awdurdod Harbwr Statudol (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) o £20 bob tro y byddwch yn lansio.

Er mwyn helpu i osgoi niferoedd na ellir eu rheoli o fadau ar y môr a sicrhau cysondeb, mae’r ffi ddyddiol yn cael ei gosod ar yr un lefel â phob llithrfa a redir gan awdurdodau lleol yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Fel arall, gallwch brynu trwydded lansio flynyddol gan Gyngor Gwynedd sy’n cynnwys cofrestru a lansio am gymaint o weithiau ag yr ydych yn dymuno ar draws Gwynedd am £150.

Mae eich cefnogaeth yn ein helpu i gadw Porthdinllaen yn arbennig (H3)

Aiff y ffioedd lansio dyddiol yr ydym yn eu casglu tuag at gostau rheoli’r harbwr ym Mhorthdinllaen, gan gynnwys costau staff, dyfeisiadau angori, pecynnau rheoli llygredd a chynnal a chadw.

Aiff y ffioedd cofrestru a lansio tymhorol i wasanaeth morol Cyngor Gwynedd ac maent yn helpu i ariannu wardeiniaid traeth, bwiau, porthladdoedd, baneri glas ac ati.

Os oes gennych unrhyw sylwadau am y drefn bresennol neu newidiadau yn y dyfodol, anfonwch e-bost at porthdinllaen@nationaltrust.org.uk

Porthdinllaen, Gwynedd, Cymru

Darganfyddwch fwy ym Mhorthdinllaen

Dysgwch sut i gyrraedd Porthdinllaen, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa tuag at Borthdinllaen, pentref pysgota bach gydag ychydig o fythynnod gwyngalchog dan glogwyn glaswelltog ym Mhenrhyn Llŷn, Cymru. Mae ychydig o longau pysgota yn y dŵr a phobl yn cerdded ar y clogwyn uwchben y pentref.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Phorthdinllaen 

Pentref pysgota perffaith ar fin darn hardd o draeth tywodlyd yn llawn hanes, golygfeydd rhyfeddol a digonedd o fywyd gwyllt.