
Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Os ydych yn ymweld gyda’ch plant neu wyrion, fe gewch chi ddigon i ddifyrru’r teulu cyfan yng Nghastell Powis. Crwydrwch ystafelloedd y castell o’r 13eg ganrif neu dilynwch daith yn yr ardd sy’n siŵr o blesio’r rhai bach.
Dyma’r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen yn gryno i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod yng Nghastell Powis:
Byddwch yn barod i gerdded drwy’r dail crensiog wrth i liwiau’r hydref ddechrau ymddangos. O goch llachar y coed masarn i efydd a melyn gloyw, cewch fwynhau arddangosfa lachar byd natur wrth i wyrddni’r haf bylu’n araf i gyfateb â chochni cynnes y castell hanesyddol.
25 Hydref - 2 Tachwedd, 10am - 4pm
Yn ystod hanner tymor bydd y llwybr pwmpenni poblogaidd yn dychwelyd yn yr ardd, gan ddathlu popeth sydd gan y tymor hyfryd hwn i’w gynnig. Cewch grensian drwy’r dail a dilyn y llwybrau wrth grwydro drwy’r ardd, cyn mwynhau golygfeydd lliwgar o’r Lawnt fawr.
Byddwch yn gweld coed masarn llachar gyda dail fflamgoch a mwynhau arddangosfa o oren, efydd a melyn yn yr haul disglair. Mae’r llwybr am ddim. Codir tâl mynediad arferol (mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
31 Hydref - 2 Tachwedd, 5pm - 7pm
Ymunwch yn yr hwyl calan gaeaf, gan ein bod ar agor ychydig yn hwyrach o 5pm - 7pm.
Cewch grwydro’r iard wedi iddi dywyllu cyn camu mewn i’r castell canoloesol. Cewch eich croesawu gan ein gwirfoddolwyr wedi’u gwisgo mewn gwisgoedd o’r cyfnod Fictoraidd, a chawn weld os allwch ddod o hyd i bob pwmpen sy’n cuddio yn y castell.
Mae’r digwyddiad hwn yn addas i deuluoedd gyda phlant bach. Codir tâl mynediad arferol (mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
Mae dwy ddraig gyfeillgar wedi glanio yn y Gwyllt, coetir mewnol tu ôl i’r brif ardd. Neidiwch i’r cyfrwy ar eu cefnau a gadael i’ch dychymyg fynd â chi ar antur hudolus. Mae’r Dreigiau hudolus yma er mwyn i bawb gael chwarae arnynt a mwynhau.
Crëwyd yr ychwanegiad newydd hwn i’r ardd yn fedrus gan yr artist lleol adnabyddus, Simon O’Rourke.
Caiff eich cyfaill pedair coes hefyd ymuno yn eich anturiaethau’r hydref hwn. Caniateir pawennau yn ôl un yr ardd o 1 Tachwedd - 28 Chwefror. Croeso i gŵn grwydro’r ardd a’r iard ar dennyn byr, ond gofynnwn yn garedig i chi beidio mynd â hwy i mewn i’r siop na’r caffi.
Os hoffech rannu eich lluniau â ni, defnyddiwch yr hashnod #CastellPowis #PowisCastle a thagiwch ni @PowisCastleNT
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Awydd rhedeg yn yr awyr iach, dysgu sgiliau newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd? Dechreuwch eich antur natur heddiw. (Saesneg yn unig)
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.
Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.