
Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau yng Nghastell Powis, sbwyliwch eich hun ym Mwyty’r Cwrt, prynwch anrheg yn y siop, neu chwiliwch am fargen yn y siop lyfrau ail-law.
Mae’n cogyddion yn falch o weini bwydlen dymhorol, gan ddefnyddio cynhyrchion lleol a masnach deg pryd bynnag y bydd yn bosibl. Boed yn felys neu’n sawrus, rydym yn siŵr o fod â rhywbeth at eich dant.
Wedi ei osod yn yr hyn a fu unwaith yn stabl, mae Caffi’r Cwrt ar agor bob dydd yn gweini cinio poeth, brechdanau, danteithion sawrus, cacennau a diodydd poeth ac oer
Os bydd y tywydd yn dda, bwytwch al fresco a mwynhau golygfa hardd o’r castell o’n byrddau yn y cwrt. Pam nad ewch chi â diod boeth neu frechdan i’r ardd a dod o hyd i’r lle perffaith am bicnic?
Crwydrwch i lawr i Siop Goffi’r Ardd sy’n cuddio yn yr ardd ffurfiol Edwardaidd. Dyma’r lle perffaith i fwynhau hufen ia neu fyrbryd ysgafn, gan edmygu arogleuon a golygfeydd hyfryd ein gardd.
Mae’r plant wrth eu boddau yn dewis eu blychau cinio lliwgar eu hunain a dewis pa brydau iach a blasus y bydden nhw’n hoffi eu cael ynddyn nhw. Fe allan nhw fwynhau eu cinio dan do neu bicnic tu allan os yw’r tywydd yn dda.
Gall plant hefyd ddewis o’n bwydlen dymhorol a mwynhau fersiynau llai o’n prif brydau.
Mwynhewch flas traddodiadol Cymru trwy flasu tafell o’n bara brith blasus pan fyddwch yn ymweld. Mae rysáit ein cogydd yn gyfrinach sy’n cael ei chadw’n hynod o ofalus ac rydym yn meddwl ei fod yn arbennig iawn.
Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.
Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.
Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.
Cymerwch ysbrydoliaeth gan gasgliad arbennig a thirwedd odidog Powis a dewch o hyd i’r rhodd neu gofrodd berffaith yn un o’n siopau. Wedi’i lleoli yn yr hen Ystafell Tac, mae ein Siop yr Iard yn gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau tŷ, cynhyrchion glanhau eco-gyfeillgar, dillad, gemwaith, ategolion, llyfrau, teganau a bwyd a diod blasus.
Os ydych chi’n chwilio am flanced liwgar i fywiogi eich cartref, sgarff newydd gyda phrint unigryw neu os ydych eisiau stocio eich cypyrddau gyda jamiau ffrwyth, ceulion lemon, bisgedi crensiog neu ddanteithion a gynhyrchir yn lleol, camwch i mewn i chwilio.
Yn aml, mae gennym samplau ar gael felly cofiwch alw heibio i fanteisio ar ein cynigion diweddaraf, sy’n newid drwy gydol y flwyddyn.
Os ydych wedi cael eich ysbrydoli gan y blodau lliwgar a’r llwyni gwyrdd cyfoethog yn ein gardd, mae gennym ddetholiad helaeth ar gael i’w prynu.
O Artemasia ‘Castell Powis’ i flodau parhaol lliwgar, rydych yn sicr o ddod o hyd i'r planhigyn di-fawn perffaith ar gyfer eich gardd chi, pob un ohonynt wedi’u tyfu yn y DU, a rhai ohonynt o’r Blanhigfa yma ym Mhowis hyd yn oed.
Gallwch hefyd ganfod amrywiaeth eang o ddodrefn gardd, bwydwyr adar, cerfluniau, goleuadau awyr agored a’r holl offer sydd eu hangen arnoch i ymgolli yn eich mwynhad o arddio.
Nid garddio yn unig sydd dan sylw chwaith. Beth bynnag yw’r tywydd, mae gennym lond y lle o bethau i’ch helpu i groesawu'r awyr agored, gan gynnwys ategolion cerdded a phicnic, hetiau haul, ymbaréls, ponsios a bagiau cefn gwrth-ddŵr.
Diolch i'ch pryniannau a’ch cefnogaeth, gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.
Diolch i’ch ceiniogau a’ch cefnogaeth chi y gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.
Mae'r Siop Llyfrau Stablau Bodley wedi’i lleoli yn Siop yr Ardd a’r hen stablau, yn union i’r dde o Giatiau’r Cwrt. Gyda channoedd o lyfrau i ddewis ohonynt, ac wedi’u prisio tua £2-3, dyma’r lleoliad perffaith i gael gafael ar eich llyfr nesaf wrth i chi archwilio’r ardd neu wneud eich ffordd tuag at Gaffi’r Cwrt. Dewch draw i ymweld â ni i ddarganfod eich llyfr gwych nesaf!
Mae’r holl arian a godir yn mynd tuag at brosiectau cadwraeth, gan ein helpu i ofalu am Gastell Powis am byth, i bawb.
O lyfrau ffuglen a throsedd newydd, i arddio, bywyd gwyllt a ffefrynnau’r plant - mae cannoedd o deitlau yn cael eu diweddaru’n gyson felly dewch i mewn i ddod o hyd i’r llyfr sydd at eich dant a’n helpu i barhau i adrodd hanes rhyfeddol Castell Powis am flynyddoedd i ddod.
Rydym yn dibynnu ar roddion i gadw’r stoc i fynd a bydd ein tîm yn falch iawn o dderbyn blychau bach yn Siop Llyfrau Stablau Bodley. Os dymunwch chi gyflwyno llawer o lyfrau, cysylltwch â ni ymlaen llaw er mwyn i aelod o’r staff fod wrth law i’ch helpu.
Cysylltwch â ni ar e-bost powiscastle@nationaltrust.org.uk
Neu, rhowch alwad i ni ar 01938 551920
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr. Dysgwch yr ardd 1 Tachwedd - 28 Chwefror.
Castell Cymreig yw Powis a adeiladwyd gan dywysog Cymreig, Gruffudd ap Gwenwynwyn (tua 1252). Goroesodd ryfeloedd a’i rannu i ddod yn un o gestyll amlycaf Cymru.
Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.