Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Cymru’n enwog am ei thirwedd a’i chestyll hynafol ond yn llai adnabyddus am ei gerddi hardd. Yn ymestyn dan y castell canoloesol mae un o’r gerddi gorau ym Mhrydain. Gyda therasau dramatig, Orendy, gardd Edwardaidd ffurfiol a gardd goediog heddychlon mae cymaint o amrywiaeth i grwydro trwyddo.
Wrth i ddyddiau hir, cynnes yr haf gyrraedd, mae digon i gyffroi’r synhwyrau yn yr ardd ym Mhowis. O’r ffrwydrad cyntaf o rosod ym mis Mehefin i’r borderi blodau lliwgar fydd yn llwythog o flodau yng nghanol haf, mae digon i’w weld yma.
Gyda’r lliwiau trawiadol, persawr rhyfeddol a llefydd hardd i ymlacio, yr haf yw un o’r amseroedd gorau i grwydro gerddi Powis.
Ar y Teras Uchaf, bydd planhigion bregus hoff o wres yn dangos eu lliwiau bywiog. Yn y Border Trofannol chwiliwch am y palmwydd Chusan, dail banana anferth a choesynnau tew y goeden papur-reis.
Mae borderi blodau yn rhedeg yn gyfochrog tu allan i’r Orendy. Yn y ‘border oer’ tua’r dwyrain, bydd blodau lluosflwydd yn blodeuo mewn lliwiau glas, lelog, pinc a gwyn tawel. Yn y ‘border poeth’ tua’r gorllewin fe welwch goch tanllyd, melyn bywiog a phinc llachar.
 dwsinau o forderi i’w crwydro, mae digonedd o liwiau’r haf yn aros amdanoch trwy’r ardd i gyd.
Mae gwledd amryliw yn aros i'ch croesawu chi yng ngardd fyd-enwog Castell Powis wrth i gannoedd o rosod fyrlymu o'r borderi, dringo i fyny cylchau, a chwympo wrth draed cerfluniau clasurol. Ewch am dro drwy'r Ardd Ffurfiol Edwardaidd i weld sbiralau o rosod dringo persawrus fel Rosa Phyllis Bide ac Alchymist yn addurno'r pileri, wrth i gannoedd o amrywiaethau eraill dyfu gyda'i gilydd yn y borderi lliwgar sy'n amgylchynu'r lawntiau gwyrdd hyfryd. Cofiwch ddychwelyd ar ddiwedd yr haf wrth i'r ail don o rosod lifo dros yr ardd.
Islaw’r castell mae’r Terasau Eidalaidd, a gafodd eu creu o’r graig noeth sy’n cael eu hystyried yr enghraifft orau o ardd deras o’r 17eg ganrif ym Mhrydain.
O’u lleoliad uchel ar ochr y bryn gallwch fwynhau golygfeydd godidog ar draws yr ardd, y parc ceirw, ac yn y pellter mae copaon y Mynydd Hir a Bryniau Breidden.
Dewch i edmygu’r borderi trawiadol sy’n llawn planhigion lluosflwydd, y cerfluniau plwm a charreg o ddawnswyr, yr Adardy a fu’n gartref i adar ysglyfaethus ar un adeg, ac Orendy gyda phorth carreg crand o’r 18fed ganrif a fu’n fynedfa i’r castell ei hun yn y gorffennol.
Gardd lysiau oedd yr ardal hon yn wreiddiol ond yn 1912 cafodd ei thrawsnewid yn ardd flodau ffurfiol gan Violet, Iarlles Powis.
Yma gallwch grwydro rhwng rhodfeydd o goed afalau hynafol, cysgodi o dan fwa’r winwydden, edmygu’r lliwiau tymhorol ac ymlacio wrth wrando ar sŵn y dŵr yng Ngardd y Ffownten gerllaw.
Yng Ngardd y Ffownten gallwch edmygu’r tocwaith ar y coed a’r gwrychoedd. Edrychwch ar eu cysgodion hir ar draws y glaswellt yng ngolau isel y prynhawn.
Chwiliwch am y giatiau haearn bwrw, rhodd gan yr Arglwyddes Violet i’w gŵr George, 4ydd Iarll Powis, sy’n arddangos arfbais fywiog y teulu Herbert o eliffant a griffwn yn cadw llygad ar yr ardd.
Mae’n amhosibl osgoi un o nodweddion enwocaf Powis, y gwrychoedd ywen 300 oed. Gallwch weld eu llwyni siâp cymylau wrth edrych i gyfeiriad y castell o bob rhan o’r ardd, bydd yr 14 o lwyni anferth a’r gwrych 30 troedfedd o uchder yn aros yn y cof am amser maith ar ôl eich ymweliad.
Y Gwyllt yw enw’r bryncyn coediog gyferbyn â’r castell. Mae’r ardal hon yn fwy anffurfiol na gweddill yr ardd ac mae’n lle delfrydol i fynd am dro drwy’r coed gyda golygfeydd anhygoel.
Cerddwch wrth ymyl y coed derw mawr, rhododendron a choed egsotig. Oedwch wrth Bwll y Stabl, y Tŷ Rhew neu’r Pwll Plymio sydd wedi’i amgylchu gan redyn. Yma gallwch ddarganfod cerfluniau unigryw, ac edmygu’r olygfa o’r castell ar draws y Lawnt Fawr.
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Crwydrwch baradwys o ardd yng Nghymru, gyda 300 mlynedd o drawsnewid gardd yn cynnig haenau lawer o hanes i’w harchwilio.
Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr. Dysgwch yr ardd 1 Tachwedd - 28 Chwefror.
Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.
Castell Cymreig yw Powis a adeiladwyd gan dywysog Cymreig, Gruffudd ap Gwenwynwyn (tua 1252). Goroesodd ryfeloedd a’i rannu i ddod yn un o gestyll amlycaf Cymru.