Skip to content

Gwaith cadwraeth yng Nghastell Powis

Arwydd yn tynnu sylw at waith cadwraeth ar y llenni yng Nghastell Powis
Gwaith cadwraeth ar y llenni yng Nghastell Powis, Cymru | © National Trust Images/James Dobson

Nid tasg hawdd yw gofalu am gastell o’r drydedd ganrif ar ddeg, a dyna pam mae gennym dîm mewnol pwrpasol sy’n gofalu am y castell a’r casgliadau. O dapestrïau i fyrddau, o baentiadau i borslen, o loriau i ddodrefn, caiff yr holl bethau hyn eu diogelu a’u gwarchod er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu eu mwynhau.

Y gwaith sy’n gysylltiedig â gofalu am gastell

Mae tîm y Casgliadau a’r Tŷ yn mynd ati byth a beunydd i dynnu llwch oddi ar baentiadau hanesyddol, i fesur lefel y golau neu i hwfro’r carpedi – a dim ond rhai o’r tasgau cadwraeth pwysig yw’r rhain.

Mae aelodau’r tîm yn rhoi sylw i bob manylyn. Maen nhw’n cadw golwg ar bopeth – o amodau amgylcheddol yr ystafelloedd i arwyddion traul a gwisgo. Maen nhw’n cadw cofnodion manwl gywir o’r eitemau y gofalwn amdanynt ac yn gweithio gyda’i gilydd yn ddi-dor er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswydd i ofalu am y castell a’r casgliadau.

Dwylo mewn menig yn trin y llyfr Book of Hours yng Nghastell Powis, Cymru
Gofalu am y llyfr hanesyddol Book of Hours yng Nghastell Powis, Cymru | © National Trust/Lucie Andrews

Dwylo di-sigl

Llyfr Eleanor Percy, sef Book of Hours, yw un o’r llyfrau pwysicaf sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Er ei fod yn cael ei gadw mewn cwpwrdd gwydr diogel, rhaid inni ei symud o dro i dro fel rhan o arddangosfa newydd. Rhaid gwisgo menig a meddu ar ddwylo di-sigl i afael ynddo er mwyn sicrhau na ddaw unrhyw niwed i ran y tudalennau, yr ysgrifen a’r lluniau bregus. Er mwyn lleihau’r nifer o weithiau y caiff y llyfr ei agor, erbyn hyn mae’r holl dudalennau wedi cael eu digideiddio.

1 of 3

Prosiectau cadwraeth parhaus

Adeiladwyd y castell yn y drydedd ganrif ar ddeg ac mae’n gartref i wrthrychau gwerthfawr o bedwar ben byd. O’r herwydd, rhaid rhoi llawer o sylw a gofal i’r castell a’i gasgliadau gwerthfawr. Rydym yn mynd i’r afael â phrosiectau cadwraeth arbenigol drwy gydol y flwyddyn. Gall y prosiectau hyn amrywio o lanhau pob tudalen mewn llyfr i adfer cerflun i’w ffurf wreiddiol.

Llawr marmor y Neuadd Fawr

O 6 Chwefror 2023, bydd gwaith adfer mawr yn cael ei gynnal ar lawr marmor y Neuadd Fawr am gyfnod o chwe wythnos. Ar ôl blynyddoedd o gerdded ar y llawr, a hefyd oherwydd y pibellau dŵr poeth a leolir oddi tano, mae ambell un o’r teils wedi dechrau symud. Mae rhai wedi codi ac mae eraill wedi cracio – felly mae hi’n amser inni adfer y rhan hon.

Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr o Cliveden Conservation i dynnu’r holl deils, ailosod y tanlawr, trwsio’r teils sydd wedi cael difrod, ac yna eu hailosod i gyd. Wrth godi pob teilsen, bydd y cadwraethwyr yn cofnodi pob un, yn eu labelu ac yn eu storio’n ddiogel.

Llawr marmor du a gwyn ym mynedfa Castell Powis, Cymru
Llawr marmor du a gwyn ym mynedfa Castell Powis, Cymru | © National Trust Images/James Dobson

Rhan bwysicaf y gwaith yw ychwanegu uniad ehangu o amgylch ymyl y llawr – fe fydd hyn yn sicrhau y bydd modd i’r teils aros yn eu lle am flynyddoedd lawer i ddod. Trwy wneud hyn, bydd modd i’r teils ymestyn a chywasgu heb godi na chracio.

Sut y bydd y gwaith yn effeithio ar fy ymweliad?

Bydd y gwaith yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn yn cael ei wneud ar ran gyntaf y llawr marmor, rhwng yr Ystafell Ysmygu a’r Ystafell Fwyta Swyddogol. Dim ond i raddau bach y bydd y gwaith yn effeithio ar fynediad i’r castell, a hynny am chwe wythnos o 6 Chwefror. Bydd modd ichi barhau i fynd i mewn trwy’r fynedfa trwy ddefnyddio’r grisiau cerrig o’r cwrt, ond byddwch yn mynd yn eich blaen trwy gwrt llai ac yn mynd i mewn i’r castell trwy’r Ystafell Fwyta Swyddogol.

Prosiectau cadwraeth blaenorol

Gwaith cadwraeth ar y cerflun o ‘Fame’ a Pegasus, Castell Powis, Cymru
Gwaith cadwraeth ar y cerflun o ‘Fame’ a Pegasus, Castell Powis, Cymru | © National Trust/Rupert Harris Conservation

‘Fame’ a Pegasus

Cafodd y cerflun o ‘Fame’ a Pegasus yn y cwrt ei lanhau gan arbenigwyr er mwyn cael gwared â haen dolciog o baent ac adfer arwyneb plwm naturiol y cerflun. Aethom ati i weithio gyda Rupert Harris Conservation i sicrhau y byddai modd gofalu’n briodol am y cerflun tra câi’r gwaith adfer ei gwblhau, gan leihau unrhyw ddifrod i’r strwythur.

1 of 4

Cymryd rhan

Mae eich cefnogaeth yn hollbwysig o ran sicrhau y gallwn barhau â’r gwaith cadwraeth pwysig a wnawn yng Nghastell a Gardd Powis. Pa un a yw hynny trwy ymaelodi â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, trwy wario ceiniog neu ddwy yn y siop neu’r caffi, neu trwy wirfoddoli gyda ni – heboch chi, byddai’n amhosibl inni chwarae ein rhan yn siwrnai’r castell.

Cyfleoedd i wirfoddoli

Ein gwirfoddolwyr yw rhai o’n cefnogwyr pennaf. Pan ddewiswch wirfoddoli yng Nghastell a Gardd Powis, yn aml bydd cyfleoedd i helpu mewn meysydd eraill yn dod i’r amlwg. Er enghraifft, mae gan rai o’n gwirfoddolwyr ddiddordeb ysol mewn gwarchod llyfrau, ac felly pan ddaw hi’n amser inni ddwstio’r llyfrau yn y Llyfrgell, rydym wastad yn ddiolchgar o’r cymorth ychwanegol.

Cewch ragor o wybodaeth am wirfoddoli yma.

Five puffins on a rock at Farne Island, Northumberland

Gwnewch wahaniaeth, gwnewch rodd

Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i'n helpu i ofalu am natur, harddwch a hanes. Gwnewch rodd heddiw, a gyda'n gilydd gallwn ddiogelu llefydd gwerthfawr i bawb, am byth. (Saesneg yn unig)

Pethau eraill o ddiddordeb i chi...

Golygfa ar Flaen Dwyreiniol Castell a Gardd Powis, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell Powis 

Castell Cymreig yw Powis a adeiladwyd gan dywysog Cymreig, Gruffudd ap Gwenwynwyn (tua 1252). Goroesodd ryfeloedd a’i rannu i ddod yn un o gestyll amlycaf Cymru.

Llun manwl o wyneb bwrdd Pietra Dura (carreg galed) a wnaed tua 1600 sy’n cael ei arddangos yn yr Oriel Hir yng Nghastell Powis yng Nghymru, yn dangos addurniadau carreg o liwiau gwahanol o gwmpas aderyn
Erthygl
Erthygl

Y casgliad yng Nghastell Powis 

Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.

Gwirfoddolwyr yn edrych ar y Bwrdd Pietra Dura Rhufeinig
Erthygl
Erthygl

Gwirfoddoli yng Nghastell Powis 

Yn chwilio am ffordd wych o dreulio eich amser sbâr, cyfarfod pobl newydd, a gwneud gwahaniaeth? Dysgwch ragor am gyfleoedd i wirfoddoli yng Nghastell Powis yng Nghymru.