Skip to content

Hanes Castell Powis

Golygfa ar Flaen Dwyreiniol Castell a Gardd Powis, Cymru.
Golygfa ar Flaen Dwyreiniol Castell a Gardd Powis | © National Trust Images/James Dobson

Yn enwog am ei hinsawdd fwyn, ei bridd ffrwythlon a’i bryniau, yn y 12fed ganrif, roedd teyrnas Powys eisoes yn cael ei hadnabod fel ‘paradwys Cymru’. Dysgwch ragor am orffennol Canoloesol Castell Powis.

Cychwyn canoloesol Castell Powis

Adeiladwyd Castell Powis yng nghanol y 13eg ganrif gan dywysog o Gymro - Gruffydd ap Gwenwynwyn - oedd am sefydlu ei annibyniaeth oddi wrth ei elynion traddodiadol, tywysogion ymosodol Gwynedd.

Mae hyn yn wahanol i rai o gestyll eraill Gogledd Cymru (fel Caernarfon, Harlech a Chonwy) a adeiladwyd gan y Saeson i gadarnhau goresgyniad Cymru gan Edward I.

Alltudiaeth ac ail-adeiladu

Erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd Llywelyn ap Gruffudd o Wynedd, wedi sefydlu ei hun yn Dywysog Cymru, ac yn 1274, dinistriodd Gastell Powis, gan orfodi Gruffudd ap Gwenwynwyn i fynd yn alltud.

Ond, cyn pen tair blynedd roedd tywysogaeth Llywelyn yn chwalu gan ganiatáu i Gruffudd o Bowys adfer ei arglwyddiaeth ac ail-adeiladu’r castell.

Etifeddes

Erbyn 1309 roedd Gruffudd, ei fab a’i ŵyr wedi marw, a heb unrhyw etifedd gwrywaidd, aeth y castell a’r arglwyddiaeth i etifeddes, Hawys, a briododd Syr John Charlton o Swydd Amwythig.

Yn 1312 ymosododd ewythr Hawys, Gruffudd Fychan, ar y castell mewn ymdrech i hawlio’r arglwyddiaeth ond methiant fu’r ymdrech. Trwsiodd Charlton y difrod ac adeiladu dau dŵr drwm mawr, y gallwch eu gweld hyd heddiw, y naill ochr a’r llall i fynedfa orllewinol y castell.

Delwedd o gerflun carreg mawr o ‘Fame’ a luniwyd tua 1705 gan Andries Carpentiere, ar y lawnt tu allan i wyneb gorllewinol Castell Powis yng Nghymru sydd i’w weld yn y cefndir.
Cerflun ‘Fame’ (tua 1705) gan Adries Carpentiere ac wyneb gorllewinol Castell Powis, Cymru | © National Trust Images/Andrew Butler

Arglwyddi Charlton

Parhaodd disgynyddion y teulu Charlton fel Arglwyddi Powis am dros 100 mlynedd.

Yn 1421, oherwydd diffyg etifedd gwrywaidd rhannwyd yr ystâd rhwng dwy ferch, Joyce a Joan, oedd wedi priodi Syr John Grey a Syr John Tiptoft.

Greys a Tiptofts

Dan y teulu Tiptoft a’u holynydd, yr Arglwydd Dudley, esgeuluswyd Ward Allanol y castell ac roedd gwaith adfer sylweddol arno.

Wrth lwc, yn yr 1530au cymerodd Edward Grey, Arglwydd Powis, feddiant ar y castell cyfan a dechrau ar raglen ailadeiladu fawr a wnaeth Powis yn un o’r preswylfeydd mwyaf mawreddog yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

Prydles Herbert

Yn 1578, rhoddwyd Powis ar brydles i Syr Edward Herbert (tua 1542–95), ail fab William Herbert, Iarll 1af Penfro ac Anne Parr (chwaer Catherine Parr, chweched wraig Harri’r VIII).

Ac yntau’n ail fab nid oedd Edward yn debygol o etifeddu ei gartref teuluol felly roedd yn rhaid iddo dorri ei lwybr ei hun yn y byd. Yn 1587, prynodd y castell a’r ystâd ac arhosodd yn nwylo’r teulu Herbert hyd 1952 pan wnaeth George, 4ydd Iarll Powis, adael y castell a’r gerddi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

George yn moderneiddio

Roedd George Herbert, gor-ŵyr i Edward Clive (Clive o India), wedi etifeddu’r teitl 4ydd Iarll Powis (y 3ydd greadigaeth) ynghyd â’r castell ar ystâd yn ôl yn 1891.

Gyda’i gilydd aeth ef a’i wraig, Violet, ati i ail ffurfio’r castell a’r ardd.

Ychwanegiadau celfyddydol

Yn 1902 dechreuodd George foderneiddio’r castell, gan gyflwyno goleuadau trydan a system wres canolog dŵr poeth.

Ar yr un pryd bu’n gweithio gyda’r pensaer G.F.Bodley i ail osod décor arddull yr 17eg ganrif yn yr ystafelloedd swyddogol, yr oedd o’n credu ei fod yn cyd-fynd yn well â chastell canoloesol.

Addurniadau arddull yr 17eg ganrif

Gallwch ddal i weld enghreifftiau o waith George a Bodley yn y castell heddiw, yn neilltuol yn yr Ystafell Fwyta Swyddogol, Yr Ystafell Dderw ac Ystafell yr Iarll.

Yr Ystafell Giniawa Swyddogol gyda’i phaneli pren yng Nghastell Powis, Powys, Cymru, gyda bwrdd bwyta hir a chadeiriau ar garped sy’n goch yn bennaf. Portreadau ar y waliau, a phortread o Violet Lane Fox, Iarlles Powis, gan Ellis Roberts ar y chwith.
Yr Ystafell Fwyta Swyddogol yng Nghastell Powis, Powys, Cymru. Portread o Violet Lane Fox, Iarlles Powis, gan Ellis Roberts ar y chwith. | © National Trust Images/James Dobson

Oes aur

Yn ystod y cyfnod Edwardaidd roedd yr ystâd yn ei bri, a byddai gwahoddedigion pwysig yn cyrraedd bob penwythnos trwy gydol tymor y gaeaf gan gynnwys, ym mis Tachwedd 1909, Tywysog a Thywysoges Cymru.

Ond nid oedd yr oes aur hon i barhau ac yn drist iawn, dioddefodd George dair trychineb deuluol.

Trychinebau

Yn 1916 anafwyd ei fab hynaf, Percy, yn angheuol ar y Somme; yn 1929 bu Violet farw ar ôl damwain car ac yn 1942, lladdwyd ei fab ieuengaf, Mervyn, mewn damwain awyren tra’r oedd yn y lluoedd arfog.

Heb unrhyw etifedd uniongyrchol i’r castell, ac ar ei wely angau yn 1952, rhoddodd George Powis i’r genedl, yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Wyneb Castell Powis yn dangos dilyniant y terasau oddi tano gyda’r yw anferth yng Nghastell Powis, Cymru.

Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis

Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o’r ardd ym mis Gorffennaf tua chefn gwlad yr ardal o gwmpas Castell Powis, Powys, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes yr ardd yng Nghastell Powis 

Crwydrwch baradwys o ardd yng Nghymru, gyda 300 mlynedd o drawsnewid gardd yn cynnig haenau lawer o hanes i’w harchwilio.

Portread o Robert Clive, Y Barwn 1af Clive o Plassey ‘Clive o’r India’ gan Syr Nathaniel Dance-Holland RA (Llundain 1735)
Erthygl
Erthygl

Amgueddfa Clive yng Nghastell Powis 

Mae Amgueddfa’r Teulu Clive yn cynnwys mwy na 300 o eitemau o India a’r Dwyrain Pell yn y casgliad preifat mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Dysgwch ragor am ei hanes.

Clawr llyfr 60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Adeiladau rhyfeddol yng Nghymru 

Mae Castell Powis yn cael sylw yn y llyfr darluniadol hardd, '60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol', a ysgrifennwyd gan un o’n curaduron arbenigol. Prynwch y llyfr i ddysgu mwy am bum adeilad rhyfeddol yng Nghymru, yn ogystal â strwythurau cyfareddol eraill ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Llun manwl o wyneb bwrdd Pietra Dura (carreg galed) a wnaed tua 1600 sy’n cael ei arddangos yn yr Oriel Hir yng Nghastell Powis yng Nghymru, yn dangos addurniadau carreg o liwiau gwahanol o gwmpas aderyn
Erthygl
Erthygl

Y casgliad yng Nghastell Powis 

Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.

A tray of fruit scones straight from the oven being held by the baker
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell Powis 

Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.

Collage yn cynnwys tri gwaith celf: peintiad o Teresia, Arglwyddes Shirley gan Van Dyke yn Petworth House; peintiad olew o goetsmon ifanc yn Erddig; a ffotograff o’r Maharaja Jam Sahib o Nawnagar yn Polesden Lacey.
Erthygl
Erthygl

Adroddiad gwladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol 

Darllenwch ein hadroddiad ar wladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol yn y llefydd a’r casgliadau rydym yn gofalu amdanynt a dysgwch sut rydym yn newid ein ffordd o ymdrin â’r materion hyn. (Saesneg yn unig)