Skip to content

Hanes Rhosili ac Arfordir De Gŵyr

Ymwelwyr yn cerdded ar hyd llwybr ym Mhenrhyn Gŵyr wrth ymyl wal gerrig gyda defaid yn y pellter. Mae’n ddiwrnod niwlog ac mae’r bryniau yn y pellter wedi’u gorchuddio gan niwl.
Ymwelwyr yn cerdded ym Mae Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr | © National Trust Images/Chris Lacey

Mae Rhosili ac Arfordir De Gŵyr yn gartref i ardaloedd y Weryn a’r Vile, enwau hanesyddol sydd wedi cael eu defnyddio ers blynyddoedd maith.  Dysgwch fwy am darddiad yr enwau a gwybodaeth ddiddorol arall am y darn garw a hanesyddol hwn o arfordir.

Y Weryn yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Mae’r enw Y Weryn (neu ‘The Worm’ yn Saesneg) yn dod o’r gair Llychlynnaidd ‘Wurme’. Yr ystyr yw draig neu sarff. Roedd y Llychlynwyr yn credu mai draig gwsg oedd yr ynys, oherwydd ei siâp, yn codi o’r dyfroedd fel anghenfil chwedlonol.

Pentir y Weryn yw pwynt mwyaf gorllewinol Penrhyn Gŵyr. Enw’r pen pellaf yw Ynys Weryn. Mae’n cynnwys ynys fechan a sarn greigiog. Pan fo’r llanw’n uchel mae Ynys Weryn wedi’i gwahanu’n llwyr oddi wrth y tir mawr.

Pori da

Roedd Ynys Weryn yn cael ei defnyddio i bori defaid ers talwm. Roedd y cig o’r ardal hon yn boblogaidd iawn – roedd yn dyner iawn gan fod y creaduriaid yn bwyta cymaint o laswellt hallt.

Llwybr peryglus

Mae llwybr heriol yn arwain at y Weryn, ond rhaid cynllunio eich taith yn ôl yr amseroedd llanw lleol i osgoi cael eich ynysu. Mae llawer o bobl wedi boddi yn ceisio nofio yn ôl i’r tir mawr. Mae twll chwythu wedi’i leoli tua diwedd y daith gerdded, a gallwch ei weld o’r pentref mewn tywydd garw.

Caer Oes yr Haearn

Mae caer o’r Oes Haearn i’w gweld hefyd ger ymyl y clogwyn. Cadwch olwg am heidiau o adar môr yn hedfan tuag at y bwa naturiol – Pont y Diafol.

Golygfa o uchder o’r Vile, system o gaeau lleiniog canoloesol islaw pentref Rhosili, Gŵyr, Cymru. Yn y blaendir gellir gweld toeau tai pentref Rhosili, a gellir gweld ymyl y clogwyn a’r môr y tu hwnt yn y pellter.
Y Vile, system o gaeau lleiniog canoloesol islaw pentref Rhosili | © National Trust Images/John Miller

Y Vile yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr

Mae’r ‘Vile’ ar bentir wrth ben deheuol y traeth. Mae’r enw’n deillio o hen derm yn y Gŵyr am ‘gae’. Tirwedd amaethyddol gymhleth sydd yma, wedi’i rhannu’n lleiniau sydd wedi’u gwahanu gan ffiniau isel yn hytrach na llwyni.

Cyflwynodd y Normaniaid y system ffermio hon ar draws y wlad yn y 12fed ganrif. Am ganrifoedd lawer, ni newidiodd tirwedd y Vile.

Adfer ffiniau hanesyddol

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, newidiodd technegau ffermio yn sylweddol, gan ddod yn fwy soffistigedig. Mae arferion amaethyddol modern yn ffafrio darnau mwy o dir; cafodd y ffiniau eu tynnu i lawr, a thrawsnewidiwyd golwg y dirwedd.

Ein huchelgais yw i adfer y ffiniau hanesyddol i sicrhau na chaiff y Vile ei cholli fel cynifer o gaeau lleiniog tebyg eraill.

Ymchwiliad archeolegol

Yn ystod arolygon a theithiau cerdded archeolegol, rydym wedi dod o hyd i naddion fflint cynhanesyddol a thalpiau trwsio potiau canoloesol. Un o’r darganfyddiadau mwyaf cyffrous oedd tocyn caru arian.

Byddwn yn parhau â’r ymchwiliadau archeolegol drwy gymryd samplau paill craidd er mwyn deall pa gnydau a dyfwyd a dysgu mwy am yr amgylchedd naturiol hanesyddol.

Polion derw yn ymwthio allan o’r traeth ym Mae Rhosili, Gŵyr, Cymru. Dyma weddillion llong ddrylliedig yr Helvetia.
Sgerbwd noeth llongddrylliad yr Helvetia, Bae Rhosili | © National Trust Images/John Miller

Y llongddrylliad

Mae’r llanw nerthol a’r traethellau symudol wedi dryllio sawl llong yn yr ardal. Mae gweddillion yr Helvetia i’w gweld o hyd ar draeth Rhosili pan fo’r môr ar drai.

Roedd y llong Nordig wedi hwylio o Horten yn Norwy. Roedd ei llwyth o bren ar ei ffordd i harbwr Abertawe. Gwthiwyd y llong tuag at fae Rhosili gan stormydd ym 1887. Yn ffodus, goroesodd y capten a’r criw, ond golchwyd y cargo dros y traeth.

Bythynnod gwylwyr y glannau Rhosili

Mae Siop a Chanolfan Ymwelwyr Rhosili yn un o hen fythynnod gwylwyr y glannau sy’n edrych dros y bae. Hen dŷ Swyddog yr Orsaf oedd rhif un Coastguard Cottage, ac fe’i hadeiladwyd ym 1928.

Adeiladwyd gwylfa gwylwyr y glannau, ym mhen pellaf y Vile, yn oes Fictoria, ac mae bellach yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr.

Ymwelwyr yn cerdded ymysg y blodau haul gyda’r môr y tu ôl iddynt yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.

Adeilad gwyn siop a chanolfan ymwelwyr Rhosili, yn y pellter gellir gweld ymyl y clogwyn gyda’r môr a’r awyr las yn cwrdd ar y gorwel.
Erthygl
Erthygl

Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.