Skip to content

Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr

Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.
Ymwelydd yn mwynhau’r olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr | © National Trust Images/Chris Lacey

Ymwelwch â thraeth Rhosili ac Arfordir De Gŵyr; 3 milltir o dywod gyda golygfeydd ysgubol o’r glannau. Dyma’r llecyn delfrydol i fwynhau diwrnod ar lan y môr – gallwch gerdded, nofio, syrffio neu hedfan barcud hyd yn oed.  Arhoswch tan fod y llanw ar drai ac fe gewch eich syfrdanu. Wrth i’r môr gilio, mae’n bosibl y gwelwch weddillion yr Helvetia, llongddrylliad o 1887 sy’n gorwedd yn y tywod o hyd.

Pethau i’w gwneud yng Nghefnen Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr

Mae Cefnen Rhosili yn ardal o rostir isel ac yn gartref i amrywiaeth o bryfed gan gynnwys morgrugyn du’r gors, sy’n greadur bach prin. Dringwch i frig Cefnen Rhosili, pwynt uchaf Penrhyn Gŵyr, a theimlo fel eich bod ar ben y byd.

Mae’r golygfeydd panoramig yn estyn yr holl ffordd i orllewin Cymru, Ynys Wair ac arfordir gogledd Dyfnaint. Cadwch olwg am yr Old Rectory, ein bwthyn gwyliau poblogaidd.

Ymwelwyr yn cerdded drwy gae o flodau haul melyn yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr. Gellir gweld y môr glas tawel a’r awyr las yn y cefndir.
Ymwelwyr yn mwynhau’r arddangosfa drawiadol o flodau haul yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr | © National Trust Images/Chris Lacey

Blodau gwyllt bendigedig

O’r siop a’r Ganolfan Ymwelwyr, mae llwybr gwastad yn arwain ar hyd pen glaswelltog y clogwyn i Hen Wylfa Gwylwyr y Glannau. Mae defaid yn aml yn pori ar y pentir hwn. Cadwch olwg am y brain coesgoch duon â’u pigau oren llachar.

Mae dros 15 hectar o ddolydd blodau gwyllt i’w darganfod, sy’n wledd o fwyd i beillwyr dros yr haf.

Awydd antur

Os yw’r môr ar drai, gall yr anturus yn eich plith groesi’r sarn greigiog i Ynys Weryn, sy’n ynys lanw. Mae morloi llwyd i’w gweld yn diogi a bola-heulo ar y creigiau islaw. Ond cymerwch ofal – mae’r llanw’n gwahanu’r ynys oddi wrth y tir mawr.

Mentrwch ymhellach ar drywydd siambrau claddu Neolithig, carneddau o’r Oes Efydd a chaerau o’r Oes Haearn sydd ar wasgar yma ac acw ar hyd yr arfordir.

A dog leaps in the air to catch a ball on the beach
Hwyl i’r teulu i gyd ar y traeth | © National Trust Images / Hilary Daniel

Ffefryn i’r teulu – ac i gŵn hefyd

Cadwch y plant yn hapus gyda’n llwybrau ‘Rwy’n gweld gyda’m llygad bach i...’, y gallwch eu casglu o’r siop a’r ganolfan ymwelwyr. Cofiwch ddod â’u rhestrau ‘50 Peth’ hefyd!

Mae Penrhyn Gŵyr yn baradwys i gŵn hefyd, gyda thraeth Rhosili’n eu croesawu drwy gydol y flwyddyn.

Mae rhywbeth i bawb ac mae digon o le i bawb hefyd – mae’r traeth yn wirioneddol enfawr.

Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.

Darganfyddwch fwy yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr

Dysgwch sut i gyrraedd Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelwyr yn cerdded ar hyd llwybr ym Mhenrhyn Gŵyr wrth ymyl wal gerrig gyda defaid yn y pellter. Mae’n ddiwrnod niwlog ac mae’r bryniau yn y pellter wedi’u gorchuddio gan niwl.
Erthygl
Erthygl

Hanes Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Tirwedd hynafol yw Rhosili ac arfordir De Gŵyr. Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn dod i fwynhau’r traeth a’r golygfeydd ysgubol, ond o dan ein traed mae tir hynafol, hanesyddol a thrysorau i’w darganfod.

Adeilad gwyn siop a chanolfan ymwelwyr Rhosili, yn y pellter gellir gweld ymyl y clogwyn gyda’r môr a’r awyr las yn cwrdd ar y gorwel.
Erthygl
Erthygl

Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Daffodils in the park at Penrhyn Castle and Garden on a sunny day in Gwynedd, Wales
Ardal
Ardal

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Golygfa o wedd ogledd-ddwyreiniol Tŷ Tredegar ar ddiwrnod heulog

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

A boy exploring the rock pool on the rugged beach at Northumberland Coast, Northumberland
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau traeth y '50 peth i'w gwneud cyn dy fod yn 11¾' 

Gweithgareddau y gall plant eu mwynhau ar lan y môr, o badlo neu nofio i ddal crancod a sgimio cerrig. (Saesneg yn unig)

Visitors kayaking on the sea past the Old Harry Rocks, Purbeck Countryside, Dorset
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel wrth ganŵio 

Er bod canŵio a cheufadu yn ffyrdd gwych o brofi natur a chadw'n heini, gall fod yn beryglus os na ddilynnir y canllawiau. Dysgwch sut i gadw'n ddiogel gyda'n cyngor a'n cyfarwyddyd. (Saesneg yn unig)