Gwneud rhodd
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Gwta filltir o Arfordir Solfach fe welwch Faes Awyr Tyddewi, hen ganolfan filwrol wedi’i ffinio â thir comin sy’n berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd bellach yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Roedd y maes awyr ar waith o 1943 i 1960 ac yn cynnwys tair rhedfa, tŵr rheoli a thri awyrendy haearn bwrw. Dim ond adar sy’n hedfan yma bellach, ond pan ryddhawyd y tir o berchnogaeth filwrol, gwelwyd cyfle i adfer rhywfaint ohono i’w gynefin rhostir brodorol.
Er mwyn gwneud hyn, gweithiodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyngor Cefn Gwlad Cymru i gynnal prosiect tirlunio mawr.
Gan ddefnyddio tywarch a gyflenwyd o dir comin y maes awyr, fe ail-greodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ardal o rostir gwlyb a ddinistriwyd pan sefydlwyd y maes awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Fe’i cydnabyddir fel SoDdGA erbyn hyn, gyda’r rhostir a’r gwlyptir o bwys cenedlaethol. Mae’r ardal hefyd yn chwarae rhan weithredol yng nghynllun Cig Eidion Rhostir Sir Benfro.
Roedd Tyddewi yn un o wyth maes awyr a adeiladwyd yn Sir Benfro rhwng 1939 a 1945
Gallwch weld sylfeini’r cyn-faes awyr milwrol o hyd ar dir comin Waun Fachelich
Roedd y rhan fwyaf o’r maes awyr yn segur erbyn y 1990au cyn iddo gael ei droi’n dir amaeth a’i adfer yn rhannol i rostir
Cynhaliodd y safle Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2002, digwyddiad diwylliannol mawr ar gyfer yr ardal
Mae llwybrau cerdded a beicio yn cris-croesi’r hen faes awyr bellach, er eich mwynhad
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Mae arfordir Solfach yn gyfoeth o hanes cudd, sy’n aros i chi ei ddarganfod. Darganfyddwch gaerau Oes Haearn, odynau calch a hen felinau ar eich ymweliad.
Darganfyddwch fflora a ffawna Penrhyn Dewi. Cadwch olwg am blanhigion arfordirol, campau’r cudyllod a’r mulfrain llwyd fry uwchben, neu glochdar y cerrig yn clwydo ar lwyni eithin.
Datgelwch dreftadaeth ddiwydiannol yr harbwr bach prydferth, rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr a mwynhewch weithgareddau awyr agored ar dir sych ac ar y dŵr.