Skip to content

Ymwelwch â Phenrhyn Dewi

Clustog Fair yn blodeuo ar ben clogwyn wrth iddi fachlud yn Pentire
Clustog Fair yn blodeuo ar ben clogwyn | © National Trust Images/Ross Hodd

Dewch i Dyddewi ac fe welwch fôr o flodau gwyllt a heidiau o adar yn harddu’r dirwedd a’r comin. Camwch i ganol byd natur - cewch eich amgylchynu gan fflora a ffawna a wnaiff danio’ch synhwyrau a’ch chwilfrydedd.

Fflora a ffawna i’w gweld ym Mhenrhyn Dewi

Clustog Fair

Mae’n tyfu ar hyd llwybr yr arfordir ac mewn waliau cerrig a chloddiau. Mae ganddi ambell enw arall hefyd, fel Blodyn y Morwr a Chenrin Arfor. Ymwelwch ym mis Mai i’w gweld ar ei gorau. 

Pili-palod a madfallod

Wrth i’r tywydd gynhesu, fe welwch bili-palod pert yn chwilio am neithdar a madfallod yn bola-heulo yn heulwen y gwanwyn. 

Y Gludlys Arfor

Mae’n tyfu yng nghanol y Glustog Fair ac yn dal yn sownd wrth gloddiau a chlogwyni. 

Close-up of the bright yellow flowers of a cowslip plant, taken at Rievaulx Terrace, North Yorkshire
Briallen Fair felen yn heulwen y gwanwyn | © National Trust Images / Andrew Butler

Briallen Fair

Mae’r blodyn hwn wedi dod yn brinnach yng nghefn gwlad, ond mae’n dal i ffynnu ar hyd yr arfordir.

Briweg y Cerrig 

Cadwch olwg amdani yng ngerddi naturiol y creigiau o amgylch clogwyni Penmaen Dewi ac yn y waliau a’r cloddiau ger llwybr yr arfordir.

Planhigion rhostir 

Mae mwy na 300 o rywogaethau o blanhigion rhostir wedi’u cofnodi yma. O lafn y bladur i’r grug a’r eithin mân, mae’r rhain yn blanhigion sy’n dod â bywyd i’r comin am ychydig fisoedd y flwyddyn. Mae rhai ohonynt yn brin, fel y tegeirian llydanwyrdd bach, yr eurinllys tonnog a’r pelenllys gronynnog, rhedynen ddyfrol sy’n debyg i laswellt.  

Adar môr ac adar cân yr ardal 

Mae Penmaen Dewi yn sioe syfrdanol o adar môr ac adar cân, felly dewch â’ch binocwlars a’u gwylio’n gwibio yma ac acw.

Cigfran

Aderyn anferth â chynffon siâp diemwnt sy’n nythu’n gynnar. Clustfeiniwch am eu crawcian dwfn ar eich ymweliad.

Brân Goesgoch  

Brân arall, sydd â thraed a phig goch. Mae tua 60 o barau’n nythu ar hyd arfordir Sir Benfro.

Hebog Tramor 

Yn aml i’w gweld yn cwffio â’r brain, yr hebogau yw brenhinoedd eraill clogwyni Sir Benfro.

Cudyll Coch

Tra bod yr hebog yn hela’i ysglyfaeth yn yr awyr, mae’r cudyll yn sefyll ar y gwynt, yn chwilio am chwilod a llygod y gwair islaw.

Mulfran Lwyd 

Mae tua 39,000 pâr o fulfrain llwyd yn nythu ar ynys Gwales. Gwyliwch nhw’n plymio am fecryll, dafliad carreg o’r lan.

Tinwen y Garn 

Yn un o ymwelwyr cyntaf y gwanwyn, mae’r dinwen yn ddigon amlwg. Cadwch olwg amdani’n siglo ei chynffon wen. 

Clochdar y Cerrig bychan, effro yn sefyll ar lwyn yn Pentire, Cernyw
Clochdar y Cerrig bach effro yn sefyll ar lwyn | © National Trust Images/Nick Upto

Clochdar y Cerrig

Maen nhw’n clwydo ar lwyni eithin ac yn magu hyd at dri theulu swnllyd bob blwyddyn. 

Telor Dartford

Aderyn prin sy’n bridio’n amlach ac amlach ar rostiroedd arfordirol. Cadwch olwg amdanynt ar y llwyni eithin.

Llinos 

Trydar y llinosiaid yw cân yr haf ar yr arfordir. Maen nhw’n nythu mewn llwyni eithin. 

Llwydfron

Clustfeiniwch am eu cân bigog ar y llethrau prysgog islaw Carn Llidi. 

Yr olygfa dros Fae San Ffraid, yn edrych tua’r Dwyrain o harbwr Porth Clais gyda chlogwyni dramatig a nythfa o adar môr, Sir Benfro, Cymru

Darganfyddwch fwy ym Mhenrhyn Dewi

Dysgwch sut i gyrraedd Penrhyn Dewi, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Y machlud o gopa Carn Llidi ym Mhenmaen Dewi, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Hanes Penrhyn Dewi 

Dysgwch fwy am wreiddiau Celtaidd Tyddewi, pererindodau a’n nawddsant a sut mae gorffennol cynhanesyddol yr ardal wedi gadael ei farc ar ddinas leiaf gwledydd Prydain.

Golygfa o Fae San Ffraid ar draws harbwr Porth Clais yn Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â harbwr Porthclais 

Datgelwch dreftadaeth ddiwydiannol yr harbwr bach prydferth, rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr a mwynhewch weithgareddau awyr agored ar dir sych ac ar y dŵr.