Skip to content

Ein gwaith ar ystâd Dolmelynllyn

Gwartheg yr Ucheldir yng Nghoed Ganllwyd, ar Ystâd Dolmelynllyn, Cymru.
Gwartheg yr Ucheldir yn cyflawni pori cadwraethol yng Nghoed Ganllwyd ar Ystâd Dolmelynllyn, Cymru. | © National Trust Images/Malcolm Davies

Dysgwch sut yr ydym wedi gwneud newidiadau o ran y ffordd y mae’r tir dan ein gofal yn cael ei reoli. Rhoddodd defnyddio gwartheg yr ucheldir i bori’n gadwraethol fywyd newydd i’r coetir yn Nolmelynllyn.

Lle arbennig

Yn yr 1970au dynodwyd y coetir ar Ystâd Dolmelynllyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG). Rhoddwyd ffens o amgylch y coetir a thynnwyd y stoc pori i gyd oddi yno.

Gweithio mewn partneriaeth

Am 40 mlynedd gadawyd y coetir heb ei gyffwrdd o ran pori a arweiniodd at ordyfiant gan wneud cyflwr y SODdGA a’r GNG yn llai ffafriol i blanhigion a bywyd gwyllt.

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i lunio dull gwahanol o reoli’r ardal i wella’r cyflwr a bioamrywiaeth y lle.

Gwartheg Hirgorn yr Ucheldir

Yn 2015 cyflwynwyd tri gwarthegyn Hirgorn yr Ucheldir i Goed Ganllwyd. Maen nhw’n frîd caled o wartheg gyda chyrn hir a blew euraidd tonnog. Roedd angen i’r gwartheg bori mieri aeddfed a choed ifanc ar y ddaear er mwyn i lystyfiant arall gael cyfle i ffynnu.

Pori cadwriaethol

Gall y gwartheg ddefnyddio eu cyrn i symud canghennau isel i bori eu dail. Mae hyn yn golygu bod mwy o olau yn gallu cyrraedd llawr y coetir. Os bydd y golau’n cyrraedd boncyffion y coed bydd hyn yn annog cenau i dyfu. Mae’r wardeiniaid hefyd wedi bod yn torri llawer o goed er mwyn i fwy o olau gyrraedd y ddaear ac o ganlyniad rydym wedi gweld mwy o flodau gan gynnwys craf gwyllt a chlychau’r gog.

Cynyddu bioamrywiaeth

Trwy gynyddu bioamrywiaeth y cynefin yn ei dro bydd hyn yn gwella’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sy’n defnyddio’r ardal. Ers i’r pori cadwraethol fod yn ei le rydym wedi gweld cynnydd yn yr amrywiaeth eang o fywyd gwyllt gan gynnwys adar, gloÿnnod byw a phryfed.

Gwartheg yr Ucheldir yn pori yng Nghoed Ganllwyd ar Ystâd Dolmelynllyn, Cymru.
Mae Gwartheg yr Ucheldir yn cyfrannu at bori cadwraethol trwy fwyta dail ar ganghennau coed yng Nghoed Ganllwyd ar Ystâd Dolmelynllyn, Cymru. | © National Trust Images/Fi Hailstone

Bydd y canlyniadau’n cymryd amser

Mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar gyflwr y cynefin yn hytrach na’r rhywogaethau penodol, o ganlyniad bydd llawer o rywogaethau yn cael budd ond fe fydd yn cymryd amser i weld y canlyniadau’n glir, yn arbennig o ran rhywogaethau cen sy’n tyfu’n araf.

Cenau prin

Mae’n bwysig gwarchod rhywogaethau prin er mwyn bioamrywiaeth, mae Dolmelynllyn yn gartref i lawer o genau a bryoffytau prin. Mae cyflwr y cynefin ar gyfer cenau prin wedi gwella yn yr ardal sy’n allweddol ar gyfer y cen llabed yr ysgyfaint. Bydd pryfed, adar a mamaliaid yn aml yn bwyta cenau. Maen nhw hefyd yn rhoi lloches i bryfed a deunydd nythu i adar.

Adar

Rhywogaethau eraill sy’n dibynnu ar weld y coetir derw hynafol yma yn iach yw adar gan gynnwys tingoch, gwybedog brith a bele’r coed.

Rhagor o gyfleoedd

Yn ddiweddar symudwyd y gwartheg i Goed y Gamlan, ger Rhaeadr Ddu. Byddant yn parhau i bori’r coetir yma a lleihau’r prysgoed.

Rydym yn awr wedi cael caniatâd gan CNC i ychwanegu gwartheg at ddau goetir arall ar yr ystâd. Ar ôl i’r gwartheg helpu i glirio’r mieri mwyaf trwchus gallwn barhau i bori’r coetir gyda defaid gan ffermwyr lleol sy’n denantiaid.

Yr olygfa o Ddinas Oleu, Cymru

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Edrych i lawr tuag at Abermaw, Gwynedd, o olygfan uchel ar glogwyni Dinas Oleu, sydd wedi eu gorchuddio mewn eithin brown a melyn a mwsogl.
Erthygl
Erthygl

Ein dechreuadau yn Ninas Oleu 

Dinas Oleu oedd y darn cyntaf o dir y byddem ni yn ei ddiogelu i bawb, am byth. Dysgwch pam bod Mrs Fanny Talbot wedi rhoi’r tir hwn i’w ddiogelu.

Golygfa o’r coed ar Ystâd Dolmelynllyn, Gwynedd. Nifer o goed gyda changhennau cadarn, sy’n plethu i’w gilydd ac mae nifer o gerrig ar lawr y coetir wedi eu gorchuddio â mwsogl gwyrdd llachar a chen.
Erthygl
Erthygl

Crwydro De Eryri 

Crwydrwch drwy dirwedd garw anghysbell De Eryri. Mae’r coetir derw hynafol yn Nolmelynllyn a’r creigiau folcanig yng Nghregennan yn cynnig cynefin naturiol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Edrychwch yn ofalus o dan eich traed i chwilio am ffosiliau a chen prin ar draws y rhostir.