Skip to content

Hanes Penrhyn Dewi

Y machlud o gopa Carn Llidi ym Mhenmaen Dewi, Sir Benfro
Y machlud o Garn Llidi ym Mhenmaen Dewi | © NTPL/Joe Cornish

Wedi’i henwi ar ôl nawddsant Cymru, Tyddewi yw dinas leiaf gwledydd Prydain ac mae’n gartref i gyfoeth o hanes a diwylliant. Dilynwch olion traed y pererinion a darganfod popeth o wreiddiau Celtaidd i feddrodau Neolithig, o gaerau Oes yr Haearn i greigiau’r henfyd.

Gwreiddiau Celtaidd yn Nhyddewi

Mae pobl wedi bod yn byw yn Nhyddewi a’r cyffiniau ers o leiaf 6,000 mlynedd, ac mae olion ein cyndeidiau cynhanesyddol ar wasgar dros y dirwedd. Fe welwch weddillion caerau Oes yr Haearn, patrymau caeau hynafol, llociau a chloddiau amddiffynnol.

Nawddsant Cymru

Cafodd Dewi Sant ei eni tua 500 OC i’r Santes Non, ychydig i’r de o’r ddinas, a chafodd ei fedyddio ym Mhorth Clais. Cafodd Dewi fagwraeth grefyddol a phan ddaeth yn oedolyn cafodd ei ordeinio’n offeiriad, gan weithio yng Nghymru i ddechrau cyn teithio i Loegr, Llydaw a hyd yn oed Jerwsalem.

Gorffwysfan Dewi Sant

Sefydlodd y mynachlog, lle mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn sefyll heddiw, yn 550 OC – ond gan ei fod mor agos i’r môr roedd yn agored i ymosodiadau gan y Llychlynwyr. Mae eglwys gadeiriol ysblennydd y ddinas yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif, a dyma orffwysle Dewi.

Pererindod i Dyddewi

Cafodd ei enwi’n nawddsant Cymru yn y 12fed ganrif. Cymaint oedd bri a phwysigrwydd ei gysegr nes i’r Pab Calixtus II ddweud bod dwy bererindod i Dyddewi’n cyfateb i un i Rufain a thair yn cyfateb i un i Jerwsalem.

Mae ei gysegr wedi dod yn lle poblogaidd i bererinion o bell ac agos.

Croes Ddinesig Tyddewi

Mae’r tirnod adnabyddus hwn yng nghanol Tyddewi yn groes bregethu ganoloesol – mae wedi bod yn ein gofal ers 1983. Mae’r goes yn wreiddiol, a’r pen a’r sylfaen chwe-cham yn fwy modern.

Mae’r heneb hon yn un o nifer ar hyd llwybr pererindod hanesyddol i’r eglwys gadeiriol. Adeiladwyd yr eglwys gadeiriol gyda charreg o’n clogwyni yng Nghaerbwdy ar Arfordir Solfach.

Ffos y Mynach

Yn ôl y sôn, Ffos y Mynach oedd y man pellaf y câi’r mynachod a’r offeiriaid deithio oddi wrth Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Mae’n rhedeg ar draws Penrhyn Dewi, gan ymuno â Chomin Morfa yn y de, Comin Dowrog ger y ddinas a Phen Beri ar arfordir y gogledd.

Y machlud o gopa Carn Llidi ym Mhenmaen Dewi, Sir Benfro
Y machlud o Garn Llidi ym Mhenmaen Dewi | © NTPL/Joe Cornish

Creigiau hynaf Cymru

Mae’r penrhyn yn gartref i rai o greigiau hynaf y wlad, sy’n dyddio’n ôl i’r oes Cyn-Gambriaidd, yr oes ddaearegol gynharaf un.

Wedi’u ffurfio tua 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mae’r haenau o greigiau gwaddod yn tarddu o losgfynyddoedd. Mae’r gwaddodion hynafol hyn wedi’u gorchuddio mewn mannau gan haenau o graig Gambriaidd iau, sy’n dal i fod yn dros 400 miliwn mlwydd oed.

Meini hirion a beddrodau

Mae Coetan Arthur yn siambr gladdu Neolithig ym Mhenmaen Dewi sy’n dyddio’n ôl i tua 4000 CC. Mae ganddi gapfaen enfawr sy’n bron i 20tr o led, wedi’i gefnogi gan garreg ochr sy’n dros 3tr o uchder, ac rydym bron yn sicr mai fel hyn y cafodd ei hadeiladu.

Mae’n efelychu siâp Carn Llidi, y copa y tu ôl iddi, a gallwch weld ei hamlinell yn yr wybren o faes parcio Porth Mawr.

Caerau Oes yr Haearn

Cadwch olwg am y gaer arfordirol ym mhen pellaf Penmaen Dewi; 2,000-3,000 o flynyddoedd yn ôl dewisodd ein cyndeidiau Oes yr Haearn glogwyni’r pentir fel safle amddiffynnol, gan adeiladu rhagfuriau mawr i warchod eu cartrefi rhag ymosodiadau o’r tir.

Roedd Sir Benfro yn fan poblogaidd ar gyfer caerau Oes yr Haearn - mae tua 50 i’w gweld yma ac acw ar hyd yr arfordir. Ni sy’n gofalu am tua hanner ohonynt, gan gynnwys Caer Aber Pwll yn Fferm Pwll Caerog (sy’n daith gerdded fer o’r Morlyn Glas yn Abereiddi) a Phorth y Rhaw, ychydig i’r gorllewin o Solfach.

Yr olygfa dros Fae San Ffraid, yn edrych tua’r Dwyrain o harbwr Porth Clais gyda chlogwyni dramatig a nythfa o adar môr, Sir Benfro, Cymru

Darganfyddwch fwy ym Mhenrhyn Dewi

Dysgwch sut i gyrraedd Penrhyn Dewi, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Clawr llyfr 60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Adeiladau rhyfeddol yng Nghymru 

Mae Treleddyd Fawr ar Benrhyn Dewi yn cael sylw yn y llyfr darluniadol hardd, '60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol', a ysgrifennwyd gan un o’n curaduron arbenigol. Prynwch y llyfr i ddysgu mwy am bum adeilad rhyfeddol yng Nghymru, yn ogystal â strwythurau cyfareddol eraill ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Clustog Fair yn blodeuo ar ben clogwyn wrth iddi fachlud yn Pentire
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Phenrhyn Dewi 

Darganfyddwch fflora a ffawna Penrhyn Dewi. Cadwch olwg am blanhigion arfordirol, campau’r cudyllod a’r mulfrain llwyd fry uwchben, neu glochdar y cerrig yn clwydo ar lwyni eithin.

Golygfa o Fae San Ffraid ar draws harbwr Porth Clais yn Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â harbwr Porth Clais 

Datgelwch dreftadaeth ddiwydiannol yr harbwr bach prydferth, rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr a mwynhewch weithgareddau awyr agored ar dir sych ac ar y dŵr.