Skip to content

Darganfyddwch Ddaeareg Pen Strwmbl i Aberteifi

Golygfa o bentir creigiog Pen Anglas, Sir Benfro, Cymru. Mae creigiau wedi’u gorchuddio â chen yn y blaendir, tra bod y pentir yn y pellter gyda'r môr i’w weld rhyngddynt.
Pentir creigiog Pen Anglas, Sir Benfro | © National Trust Images/Joe Cornish

Wedi’i llunio gan natur dros filiynau o flynyddoedd, mae’r dirwedd rhwng Pen Strwmbl ac Aberteifi yn greigiog ac anghysbell. Mae enghreifftiau di-rif o ffurfiadau daearegol i’w gweld yn hawdd ar hyd y darn hwn o arfordir. Mae tystiolaeth o aneddiadau’r Oes Haearn ac ymosodiadau rhyfel yn disgwyl amdanoch hefyd.

Garn Fawr

Ffurfiwyd y graig igneaidd hon gan weithgarwch folcanig ac mae’n cynnig golygfeydd eang o arfordir Gogledd Sir Benfro. Roedd yn gaer yn ystod yr Oes Haearn ac yn wylfa yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cadwch olwg am y goleudy a mwynhewch wylio adar y môr ym Mhen Strwmbl. Mae’r pâl, aderyn drycin y graig, gwennol y môr a’r wylan goesddu i gyd i’w gweld yn rheolaidd o’r uchelfan hon.

Gwaun Ciliau

Mae Gwaun Ciliau yn ddarn arbennig o rostir arfordirol gwlyb. ‘Slawer dydd, roedd yn cael ei bori gan wartheg gwerinwyr, ond mae wedi gordyfu erbyn hyn. Mae’n heidio ag adar ac yn edrych dros leoliad y goresgyniad Ffrengig diwethaf ar dir mawr y DU ym 1797. Trechwyd y Ffrancod gan fyddin leol dan arweiniad y Cyrnol Campbell o Ystangbwll a Syr John Colby.

Arctic tern parent brooding two young chicks in the ground nest, on the Farne Islands, Northumberland
Môr-wenoliaid y Gogledd gyda chywion | © National Trust Images/GillianDay LRPS

Pen Anglas

Cafodd arfordir Pen Strwmbl ei lunio gan weithgarwch folcanig. Ym Mhen Anglas mae enghraifft o’r math o bilergraig chwe-ochrog sydd i’w gweld yn Sarn y Cewri (Giant’s Causeway yn Saesneg) yng Ngogledd Iwerddon ac ar Staffa yn Ynysoedd Heledd (neu’r Hebrides). Mae Pen Anglas yn brolio rhostir arfordirol eang a thrawiadol. Mae’r ardal yn fôr o liw ar ddiwedd yr haf diolch i’r cenau a chlustog Fair (Armeria maritima).

Ynys Dinas

Ffurfiwyd y sianel hon, sydd o fewn y dim i dorri’r pentir oddi wrth y tir mawr, gan ddŵr tawdd rhewlifol. Mae Dinas wedi’i ffermio ers yr 16eg ganrif. Ffermiodd y naturiaethwr enwog Ronald Lockley yma yn y 1940au cyn symud ‘mlaen i Ynys Sgomer.

Pen yr Afr a Gernos

Y rhain yw’r clogwyni arfordirol uchaf yn Sir Benfro, sy’n gwneud hwn yn un o ddarnau mwyaf heriol Llwybr Arfordir Cymru (sy’n 184 milltir o hyd i gyd). Mae’r clogwyni’n dangos plygiadau a ffawtiau mawr ac yn cynnwys tywodfeini a cherrig llaid a ddyddodwyd yma 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Golygfa o bentir creigiog Pen Anglas, Sir Benfro, Cymru. Mae creigiau wedi’u gorchuddio â chen yn y blaendir, tra bod y pentir yn y pellter gyda'r môr i’w weld rhyngddynt.

Darganfyddwch fwy o Ben Strwmbwl i Aberteifi

Dysgwch sut i gyrraedd Pen Strwmbwl i Aberteifi, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Yr olygfa o ben clogwyn yn edrych i lawr tua childraeth creigiog sydd bron yn amgylchynu’r Morlyn Glas yn Abereiddi, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel tu draw.
Erthygl
Erthygl

Darganfyddwch y Morlyn Glas yn Abereiddi 

Mae Abereiddi yn boblogaidd ar gyfer arfordira a chaiacio ym misoedd yr haf, ond gall cerddwyr fwynhau’r arfordir garw a’r golygfeydd godidog o ben y clogwyni hefyd. Darganfyddwch harddwch y rhan hon o Sir Benfro a’n gwaith i addasu i rymoedd natur.