Skip to content

Hanes a chwedlau Ysgyryd Fawr

Llethrau serth Ysgyryd Fawr gyda cherddwr yn y pellter yn cerdded ar hyd y llwybr troed
Y llwybr cerdded serth ar lethrau Ysgyryd Fawr | © National Trust Images/Chris Lacey

Mae llawer o chwedlau a mythau diddorol â’u gwreiddiau yn Ysgyryd Fawr a’r cyffiniau. Darllenwch ymlaen i ddysgu sut cafodd y Mynydd Sanctaidd ei enw a sut ffurfiwyd Ysgyryd Fawr gan gawr.

Beth sydd mewn enw?

Ystyr ‘Ysgyryd’ yw ysgwyd neu grynu. Mae’n hawdd gweld o le daeth yr enw hwn – mae tirlithriad enfawr ar ymyl gogleddol y bryn. Mae Ysgyryd Fawr yn dal i ddioddef lleidlifoedd a thirlithriadau bach.

Capel San Mihangel

Mae capel San Mihangel, sydd bellach yn adfail, yn eistedd ar gopa Ysgyryd Fawr ac fe’i defnyddiwyd gan Gatholigion yn ystod ar ôl y Diwygiad. Cynhaliwyd gwasanaethau yn y capel tan o leiaf 1680, pan ddywedodd John Arnold o Llanvihangel Court ei fod wedi gweld ‘cant o babyddion yn cwrdd ar ben y bryn, Mynydd San Mihangel, lle cynhelir cyfarfodydd mynych, wyth neu ddeng ngwaith y flwyddyn, weithiau caiff pregethau eu cynnal yno’.

Y Mynydd Sanctaidd

Yn lleol, ‘Y Mynydd Sanctaidd’ yw’r enw ar Ysgyryd Fawr. Gallai’r enw fod wedi tarddu o ddwy ffynhonnell. Y gyntaf yw capel San Mihangel ar y copa, sydd bellach yn adfail, a ddefnyddiwyd gan Gatholigion ar ôl y Diwygiad.

Mae’r ail â’i gwreiddiau mewn chwedloniaeth boblogaidd a’r stori am dirlithriad dramatig ar lethrau gogleddol y mynydd a achoswyd gan ddaeargryn neu fellten adeg croeshoelio Crist.

Yn ôl traddodiad lleol, roedd pridd Ysgyryd Fawr yn sanctaidd ac yn arbennig o ffrwythlon, a chafodd ei gludo ymaith i’w wasgaru ar gaeau, ar eirch ac mewn sylfeini eglwysi. Gwnaed pererindodau i’r copa, yn arbennig ar Ŵyl Mihangel.

Pentwr o greigiau’n dangos copa Ysgyryd Fawr gyda golygfeydd ysgubol i gopa mynydd Pen-y-fâl yn y pellter
Golygfa o fynydd Pen-y-fâl o gopa Ysgyryd Fawr | © National Trust Images/Chris Lacey

Jack O'Kent y cawr

Mae stori leol yn adrodd hanes cawr o’r enw Jack O’Kent a gafodd ddadl gyda’r Diafol ynghylch pa un oedd fwyaf, Pen-y-fâl neu Fryniau Malvern y tu draw i’r ffin. Dadl Jack oedd yn gywir (Pen-y-fâl yw’r talaf).

Yn ei ddicter, casglodd y Diafol ffedog enfawr o bridd i’w wasgaru dros Fryniau Malvern i’w gwneud nhw’n dalach. Ond wrth iddo groesi Ysgyryd Fawr, torrodd llinynnau’r ffedog, gan adael y pridd ar Ysgyryd Fawr gan ffurfio’r twyn ar y pen gogleddol.

Praidd bach o ddefaid yn pori ar fynydd Pen-y-fâl ym Mannau Brycheiniog, Powys, gyda chopa pigfain yn y pellter.

Darganfyddwch fwy am Fynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg

Dysgwch sut i gyrraedd Mynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Praidd bach o ddefaid yn pori ar fynydd Pen-y-fâl ym Mannau Brycheiniog, Powys, gyda chopa pigfain yn y pellter.
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Pen-y-fâl 

Darganfyddwch y Mynyddoedd Duon, lle mae Pen-y-fâl yn codi’n uchel uwchlaw’r dirwedd. Gyda golygfeydd panoramig o’r cefn gwlad cyfagos, mae’r rhostir yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Golygfa ar draws parcdir glaswelltog ar Stad Parc Cleidda, lle mae nifer o ddefaid duon yn pori. Gellir gweld y tŷ yn y cefndir, wedi’i guddio’n rhannol gan goed aeddfed.
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Stad Cleidda 

Mae llwybrau cerdded yn cris-croesi’r ystâd ac yn ymestyn ar hyd glannau Afon Wysg, ac mae yma berffeithrwydd pensaernïol i’ch rhyfeddu hefyd yn Nhŷ Cleidda a Chastell Cleidda.