Skip to content

Darganfyddwch fywyd gwyllt y Cymin

Ystlum lleiaf cyffredin
Ystlum lleiaf cyffredin (Pipistrellus pipistrellus) | © National Trust Images/Bat Conservation Trust/Hugh Clark

Dim ond lle bach ydyw, ond mae'r Cymin, ger Trefynwy, yn fwrlwm o fywyd gwyllt, o foch daear ac ystlumod i forgrugyn prinnaf a mwyaf Prydain, y morgrugyn coch. Dysgwch fwy am y bywyd gwyllt y gallwch ei weld.

Coetir campus

Mae tua hanner y Cymin yn ardal o goetir brodorol llydanddail lled-naturiol, sy'n cynnwys coed ffawydd a derw yn bennaf, gydag ambell sycamorwydden a cherddinen.

Plannwyd rhai o'r coed hyn fwy na 200 mlynedd yn ôl, tua'r adeg yr adeiladwyd y Tŷ Crwn, i wneud y safle'n brydferthach. Plannwyd sawl pinwydden yr Alban yma, sydd heddiw'n gynefin gwerthfawr i un o forgrug prinnaf y DU, y morgrugyn coch.

I'r gogledd mae Coed Beaulieu neu’r Gelli, sy'n berchen i Coed Cadw. Ar un adeg, roedd porth bwaog yn arwain o'r llwybr y tu allan i'r Tŷ Crwn tua'r coetir hwn.

Gydag ardaloedd o goetir lled-naturiol hynafol, dyma'r lle perffaith i geisio dod o hyd i adar a mamaliaid y coed.

Baedd gwyllt

Mae'r Cymin yn ffinio ag un o'r ardaloedd prin yn y DU sy'n gartref i un o'n hanifeiliaid mawr mwyaf dirgel - y baedd gwyllt yn Fforest y Ddena.

Roedd y baedd gwyllt brodorol yn rhywogaeth gyffredin yng ngwledydd Prydain un tro, ond cafodd ei hela i ddifodiant erbyn y 13eg ganrif.

Cawsant eu hailgyflwyno ond roedden nhw wedi diflannu eto erbyn yr 17eg ganrif. Y moch bach a'r hychod a welwn heddiw yw'r cyntaf ers tua 300 mlynedd i grwydro Prydain mor rhydd ag y gwnaethant ‘slawer dydd.

Nid yw baeddod gwyllt yn dymuno cwmni dynol, a gall fod yn anodd eu gweld. Ond maent wedi'u gweld yn y Cymin, felly gydag ychydig o amynedd fe allech gael cip ar y creaduriaid dirgel hyn.

Ond byddwch yn ofalus oherwydd gallant fod yn beryglus os ydynt yn teimlo dan fygythiad.

Natur y nos

Mae ystlumod lleiaf cyffredin ac ystlumod lleiaf soprano wedi ymgartrefu yn y Cymin. Fel mae eu henw’n awgrymu, ystlumod lleiaf cyffredin yw ystlumod lleiaf a mwyaf cyffredin y DU, a gallant fwyta hyd at 3,000 o bryfed mewn un noson.

Mae’r goedwig yn gynefin perffaith i sawl gwdihŵ, yn enwedig tylluanod brech. Ewch am dro wrth iddi nosi i wrando ar eu 'twit-tŵ' nodweddiadol a'u sgrechfeydd uchel.

Mae moch daear i’w gweld yn y Cymin hefyd. Mae'r mamaliaid dirgel a swil hyn yn wych i'w gwylio os byddwch yn ddigon lwcus i'w gweld yn chwarae ar noson dawel o hirddydd haf.

Morgrugyn coch yn y Cymin
Morgrugyn coch yn y Cymin, Sir Fynwy, Cymru | © National Trust Images/Mike Hallett

Morgrug coch

Nid yw'r rhan fwyaf ohonom yn sylwi pan fydd morgrugyn bach cyffredin yn ymlwybro dros ein traed, ond mae'n anodd methu’r morgrug coch - mae'r frenhines yn 12mm o hyd. Mae eu nythod wedi'u dotio ar draws y Cymin, ac mae'n wych eu gwylio.

Rhywogaeth mewn perygl

Mae’r morgrug ar y Rhestr Data Coch o rywogaethau mewn perygl yng Nghymru ac maent mewn perygl yn sgil newidiadau mewn rheolaeth amaethyddol a choetiroedd.

Mae bron yr holl nythod yn y Cymin ar ymyl y lawnt fowls, yn yr ardd gerrig ac o dan y Tŷ Crwn yn y ddôl.

Er bod y nythod yn symud o flwyddyn i flwyddyn, maent yn dueddol o aros yn yr un ardaloedd yn gyffredinol.

Rydyn ni'n cynnal arolwg o forgrug coch bob pum mlynedd i fonitro cyflwr a maint y boblogaeth.

Teyrnas y frenhines

Gall y breninesau fyw am fwy na 15 mlynedd, tra bod y gweithwyr yn byw am ryw flwyddyn. Nid yw’r gwrywod yn byw yn hir iawn – maen nhw’n marw ar ôl paru â’r breninesau.

Y frenhines yw'r unig forgrugyn sy'n dodwy wyau sy'n cael eu meithrin i oedolaeth.

Mae'r gweithwyr i gyd yn fenywaidd ac nid ydynt yn atgenhedlu gan nad ydynt wedi datblygu'n llawn, ond maen nhw’n dodwy wyau o dro i dro fel bwyd.

Fel mae'r enw'n ei awgrymu, nhw sy'n gwneud yr holl waith yn y nyth, gan gynnal y nyth a thendio ar y frenhines a'i hepil.

Nid yw'r gwrywod yn gweithio - eu hunig ddiben yw paru â'r frenhines, yn y gwanwyn.

Rhywbeth i gnoi cil drosto

Mae’r morgrug coch yn cael llawer o'u bwyd o bryfed gleision, drwy eu 'godro' drwy eu mwytho i ryddhau diferion o fêl - bwyd sy'n llawn siwgrau, asidau, halen a fitaminau.

Dyma gynnyrch gwastraff y pryfed gleision, sy'n cael ei gynhyrchu gan eu bod yn bwyta llawer o sudd coed i gael y protein sydd ei angen arnynt. Fel diolch am y mêl, mae'r morgrug yn diogelu ffynhonnell siwgr werthfawr y pryfed gleision rhag ysglyfaethwyr a phryfed eraill sy'n bwyta'r sudd.

Ar eich ymweliad, treuliwch ychydig funudau’n gwylio’r pryfed penigamp hyn ac yn rhyfeddu at eu nythod trawiadol.

Grŵp bach o ymwelwyr yn sefyll o flaen y tŷ gwledda gwyn, deulawr, cylchol, castellaidd Sioraidd yn y Cymin, Sir Fynwy, wrth iddi fachlud.

Darganfyddwch fwy yn y Cymin

Dysgwch pryd mae'r Cymin ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Grŵp bach o ymwelwyr yn sefyll o flaen y tŷ gwledda gwyn, deulawr, cylchol, castellaidd Sioraidd yn y Cymin, Sir Fynwy, wrth iddi fachlud.
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â’r Cymin 

Darganfyddwch fyd o olygfeydd godidog a choetiroedd heddychlon, wedi'u cyfuno â thiroedd hamdden prydferth i'w mwynhau gyda phicnic neu daith gerdded ling-di-long.

Grŵp bach o ymwelwyr yn sefyll o flaen y tŷ gwledda gwyn, deulawr, cylchol, castellaidd Sioraidd yn y Cymin, Sir Fynwy, wrth iddi fachlud.
Erthygl
Erthygl

Hanes y Cymin 

Y Cymin yw’r lle perffaith i ddianc rhag prysurdeb bywyd. Mae yma olygfeydd godidog o Ddyffryn Gwy a Bannau Brycheiniog, ac mae’n gartref i Deml anarferol y Llynges.

Brown long-eared bat (Plecotus auritus) emerging from log roost.
Erthygl
Erthygl

Our guide to UK bats 

The places we look after are home to every kind of bat that lives in the UK. Use our handy guide to identify different species and find out where to spot them.