Skip to content

Ymweld â Thŷ’r Masnachwr Tuduraidd

Golygfa o stryd Dinbych-y-pysgod a’r harbwr
Stryd Dinbych-y-pysgod ger Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod | © National Trust / James Dobson

‘Slawer dydd, roedd masnachwr lleol yn byw yn y tŷ tref cul hwn yn Ninbych-y-pysgod. Mae Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd yn nodweddiadol o dai’r masnachwyr cyfoethog yn Ninbych-y-pysgod pan ddaeth y dref yn borthladd ffyniannus ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Camwch drwy’r drws a chael blas ar fywyd masnachwr cyfoethog.

Pethau i’w gweld yn Dŷ'r Masnachwr Tuduraidd

Mae’n cynnwys tri lefel ac wedi ei adeiladu o rwbel calchfaen a thywodfaen. Mae ganddo gorn simnai cylch ac mae’r trawstiau to agored gwreiddiol i’w gweld o hyd. Heddiw, mae’r tŷ yn gartref i gasgliad rhyfeddol o atgynyrchiadau a wnaed yn lleol. Mae’r dodrefn, y piwter, y llenni a’r crochenwaith i gyd wedi’u copïo’n ofalus o ddarnau Tuduraidd lleol go iawn. 

Gŵyl Archaeoleg Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf – Dydd Iau 31 Gorffennaf 

Dysgwch sut brofiad oedd bywyd yng nghyfnod y Tuduriaid drwy’r canfyddiadau archaeolegol  y byddwn yn eu harddangos yn ystod yr Ŵyl Archaeoleg. Bydd ein staff a’n gwirfoddolwyr gwybodus yn dweud wrthych am hanes rhyfeddol yr adeilad ac yn cyfleu sut brofiad oedd bywyd i’r masnachwr a’i deulu.

Drysau Agored Cymru Dydd Sadwrn 27 Medi

Y mis Medi hwn, manteisiwch ar fynediad am ddim i’r tŷ hanesyddol hwn yng nghanol Dinbych-y-pysgod.
 

Ardal fasnach  

Byddai’r masnachwr a oedd yn byw yma wedi gosod ei siop ym mlaen y tŷ. Byddai’r siop yn agor i’r stryd er mwyn cael mynediad rhwydd at y trigolion. Byddai masnachwyr yr oes yn gwerthu nwyddau a fasnachwyd drwy’r porthladd. Ymysg y nwyddau poblogaidd roedd brethyn, glo môr, finegr a photiau ceramig. 

Yr ardal fasnachu yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro, sydd â tho isel â thrawstiau pren, llawr fflags, casgenni a bwrdd ochr gwyrdd gyda phowlenni terracotta arno.
Yr ardal fasnachu yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd | © National Trust Images/James Dobson

Y Gegin

Roedd y gegin yng nghefn y tŷ. Roedd wedi’i lleoli o gwmpas lle tân agored mawr. Mae’r gwaith haearn yn dangos sut y coginiwyd bwyd gyda thân agored, o’r offer hongian a ddefnyddiwyd i godi neu ostwng y potiau coginio i’r cigweiniau hirion a ddefnyddiwyd i droi’r bwyd.  

Gwledd i’r synhwyrau

Mae gardd y gegin dan ei sang â pherlysiau aromatig a fyddai wedi cael eu defnyddio i ychwanegu blas a lliw at y bwyd. Roedd planhigion lafant yn helpu i gadw pryfed allan o’r gegin ac yn sylfaen i berbelenni persawrus poblogaidd. 

Y Neuadd

Yr ystafell hon oedd prif ystafell fyw’r tŷ. Mae dodrefn Tuduraidd replica sydd wedi’u peintio’n llachar i’w gweld ym mhob twll a chornel.  

Y tu mewn i’r ystafell wely yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro, sydd â nenfwd bwaog â thrawstiau pren a gwely pedwar postyn.
Yr ystafell wely yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd | © National Trust Images/Chris Lacey

Am olygfa  

Mae gan yr ystafell wely un o’r golygfeydd gorau o’r arfordir a’r harbwr. Yn yr ystafell hon mae rhai eitemau replica o ddillad Tuduraidd y gallwch eu gwisgo.

Cadwch olwg am y crud arbennig sydd wedi’i beintio – mae’n siglo gan felly helpu’r babi i gysgu.    

Am fodern

Cadwch olwg am y tŷ bach, sy’n cynnwys tŵr tŷ bach a charthbwll. Byddai’r siafft garreg neu frics fertigol hon yn arwain i lawr i’r carthbwll ar y gwaelod. Byddai’n cael ei alw’n ‘ddisgynfa hir’ yn aml oherwydd yr uchder a’r pellter. Roedd hyn yn fodern iawn oherwydd ni fyddai’r fath beth wedi’i weld mewn llawer o dai. Y peth agosaf at hyn heddiw fyddai ystafell ensuite wedi’i chysylltu â’ch ystafell wely. 

Visitor with costumed interpreter at Tudor Merchant's House, Pembrokeshire

Trefnwch eich ymweliad

Mae angen cadw tocynnau ar gyfer Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Gallwch archebu ar gyfer heddiw hyd at 8am. Bob dydd Iau bydd slotiau amser yn dod ar gael ar gyfer y 14 diwrnod nesaf.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Yr ardal fasnachu yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro, sydd â tho isel â thrawstiau pren, llawr fflags, casgenni a bwrdd ochr gwyrdd gyda phowlenni terracotta arno.
Erthygl
Erthygl

Hanes Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd 

Yn oes y Tuduriaid roedd Dinbych-y-pysgod yn ganolbwynt i fasnach dramor ac yn mewnforio amrywiaeth eang o nwyddau o Ffrainc.