Skip to content

Hanes Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd

Yr ardal fasnachu yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro, sydd â tho isel â thrawstiau pren, llawr fflags, casgenni a bwrdd ochr gwyrdd gyda phowlenni terracotta arno.
Yr ardal fasnachu yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd | © National Trust Images/James Dobson

Mae’r tŷ cul hwn yn nodweddiadol o dai’r masnachwyr cyfoethog yn Ninbych-y-pysgod pan ddaeth y dref yn borthladd ffyniannus ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Dysgwch sut roedd llawer o gynnyrch y masnachwr yn cael ei fewnforio o dramor neu’n dod drwy lwybrau masnach arfordirol o amgylch Prydain.

Dysgwch am fasnach Duduraidd yn Dŷ’r Masnachwr

Yn oes y Tuduriaid, roedd Dinbych-y-pysgod yn ganolbwynt i fasnach dramor ac yn mewnforio amrywiaeth eang o nwyddau i’w gwerthu. Dysgwch fwy am yr eitemau y gallech fod wedi’u prynu ar ymweliad â’r tŷ masnach prysur hwn yn Ninbych-y-pysgod.

Halen

Roedd halen yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd y Tuduriaid. Roedd yn cael ei ddefnyddio i roi blas ar fwyd ond hefyd i halltu a chadw cig a physgod.

Roedd yr halen a gludwyd i Ddinbych-y-pysgod yn cael ei alw’n ‘halen y bae’. Roedd yr halen yma’n dod o lannau Bae Gwasgwyn a Phortiwgal. Mae halen yn dal i gael ei gynhyrchu yn yr un ffordd heddiw drwy anweddu dŵr hallt mewn pyllau bas neu badelli halen yng ngolau’r haul.

Lliain

Roedd lliain yn ffabrig cyffredin a fyddai’n cael ei ddefnyddio bob dydd. Mae lliain yn cael ei wneud allan o ffibrau’r planhigyn llin. Er ei fod yn cael ei gynhyrchu yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, roedd y lliain gorau’n dod o Ffrainc. Mae’r brethyn yn wydn iawn, a gellir ei liwio’n hawdd.

Y tu mewn i’r Neuadd yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro. Mae yna ddau fwrdd pren gyda dysglau a jygiau pren arnynt. Mae un wal wedi’i pheintio gyda murlun o longau.
Y tu mewn i’r Neuadd yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd | © National Trust Images/James Dobson

Brethyn lliw

Yn oes y Tuduriaid, roedd brethyn wedi’i beintio neu ‘liwio’ yn ddewis poblogaidd yn lle tapestrïau. Roedden nhw’n rhatach ac yn cael eu cynhyrchu drwy beintio neu liwio lliain. Roedden nhw’n ysgafnach o lawer, ac felly’n haws i’w hongian o waliau plastr. Mae’r brethyn sydd ar ddangos ar waliau’r tŷ yn dangos y math o ddelweddau y gallai’r masnachwr fod wedi’u harddangos ar ei waliau tua’r flwyddyn 1500.

Gwin

Roedd y rhan fwyaf o’r gwin a fewnforiwyd i wledydd Prydain yn oes y Tuduriaid yn dod o Wasgwyn (neu Gascony) yn ne Ffrainc. Roedd yn cael ei fewnforio mewn casgenni mawr gyda cylchoedd haearn o’u cwmpas i’w cryfhau. Mae replica i’w weld yn siop y masnachwr Tuduraidd.

Roedd casgen o win Gwasgwyn yn costio tua £3, sef incwm blynyddol morwyn fwy neu lai. Byddai gan farchog incwm blynyddol o tua £40. Roedd finegr hefyd yn cael ei fewnforio i Ddinbych-y-pysgod o Lydaw.

Siwgr

Roedd siwgr yn eitem foethus ddrud ac yn dod o’r Ynysoedd Dedwydd (neu Ynysoedd Canarïa) mewn llongau o Bortiwgal. Roedd cist o siwgr werth tua £8.

Roedd y cynnyrch a ddaeth o Iwerddon yn cynnwys penwaig, llin, a gwlân a brethyn llai graenus. Roedd gwêr a wnaed o fraster anifeiliaid yn ddefnyddiol iawn, ac yn aml yn cael ei droi’n ganhwyllau a sebon.

Allforion o Ddinbych-y-pysgod

Roedd pethau’n cael eu hallforio o Ddinbych-y-pysgod hefyd. Roedd brethyn gwlân garw, a oedd yn addas ar gyfer dillad y gaeaf a gwisgoedd morwyr, yn cael ei fasnachu’n gyffredin.

Yng nghyfnod y Tuduriaid, megis dechrau roedd y fasnach lo, ond roedd Dinbych-y-pysgod eisoes yn allforio glo carreg i Iwerddon. Roedd ‘peli cwlm’ yn cael eu gwneud allan o lwch glo carreg wedi’i gymysgu â chlai. Roedd y rhain yn llosgi’n arafach ac yn boblogaidd iawn yn Iwerddon.

Y gegin gyda llysiau a bara ar fwrdd yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro

Casgliadau Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Dŷ’r Masnachwr Tuduraidd ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o stryd Dinbych-y-pysgod a’r harbwr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thŷ’r Masnachwr Tuduraidd 

Darganfyddwch gartref masnachwr Tuduraidd cyfoethog yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Cewch flas ar fywyd masnachwr canoloesol poblogaidd yn oes y Tuduriaid yn y lle arbennig hwn.