Skip to content

Digwyddiadau yn Nhŷ Mawr Wybrnant 2025

Digwyddiadau Diwrnodau Agored Tŷ Mawr Wybrnant
Mae yna nifer o ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal yn Nhŷ Mawr Wybrnant eleni | © National Trust

Mae gennym raglen gyffrous eto eleni a fydd yn cyffwrdd ar amrywiaeth o themâu gwahanol – o len gwerin i gerddoriaeth ac o hanes i daith gerdded interactif.

Mae’r diwrnodau agored yn cael eu cynnal ar y Sul cyntaf o bob mis o fis Mai tan fis Medi. Bydd y ffermdy ar agor rhwng 10am a 4pm ar y diwrnodau agored.

Digwyddiadau nesaf...

Darlith gan Yr Athro Jerry Hunter - ‘Yr Athro mawr wrth rym wyd’: Geiriau, Grym a Beibl William Morgan

Dydd Sul, 7 Medi | Dechrau am 1pm | Eglwys Sant Tudclud, Penmachno.

Bydd y ddarlith flynyddol eleni yn cael ei chynnal gyda’r Athro. Jerry Hunter o Brifysgol Bangor, a fydd yn ffocysu ar Geiriau, Grym a Beibl William Morgan. Bydd y ddarlith yn cael ei gynnal yn Eglwys Sant Tudclud, Penmachno. Pris y tocynnau yw £5 fesul oedolyn. Rhaid archebu lle o flaen llaw. Bydd y ddarlith yn Gymraeg.

Cliciwch ar y ddolen i archebu tocyn: Buy Darlith gan Yr Athro Jerry Hunter | Lecture by Professor Jerry Hunter Tickets online - National Trust

Digwyddiadau Diwrnodau Agored Tŷ Mawr Wybrnant
Dewch i ymuno gyda cherddorion gwerin yn Nhŷ Mawr | © National Trust

Digwyddiadau sydd wedi bod

Dewch i Grwydro

Ym mis Mai, cynhaliwyd taith gerdded interactif o amgylch Tŷ Mawr. Daeth actorion proffesiynol â chymeriadau llên gwerin yr ardal yn ôl yn fyw, a gwahodd gwrandawyr i glywed eu straeon. Roedd y cast yn cynnwys Llion Williams, Mair Tomos Ifans, Mirain Fflur a Tudur Phillips.

GWERIN: Chwedlau a chân

Daeth Mair Tomos Ifans yn ôl i Dŷ Mawr Wybrnant i adrodd chwedlau a straeon lleol i gyfeiliant y delyn. Roeddynt yn berfformiadau anffurfiol drwy gydol y dydd.

Tŷ Llawen

Ym mis Awst, daeth dau gerddor gwerin i Tŷ Mawrth i jamio yn ddi-blwg gydag offerynnau Celtaidd ar hyd y safle. Roedd yna gyfle i ymwelwyr dod ag offerynnau eu hunain os oeddynt eisiau ymuno.

Mae’r Ymddiredolaeth Genedlaethol yn awyddus i argaeledd y digwyddiadau fod yn agored i bawb. Cysylltwch drwy ebostio tymawrwybrnant@nationaltrust.org.uk neu ffoniwch 01766 510 120 os ydych eisiau trafod unrhyw beth gyda ni.