
Casgliadau Tŷ Mawr Wybrnant
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ Mawr Wybrnant ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cafodd yr Esgob William Morgan effaith ar y Gymraeg a’r ffordd y gwnaeth y Cymry ddysgu am y ffydd Gristnogol. Dysgwch sut yr oedd ei holl sgiliau’n ddelfrydol ar gyfer yr her fawr oedd o’i flaen.
Ganed William Morgan yn Nhŷ Mawr Wybrnant tua 1545. Roedd yn ail fab i John ap Morgan a Lowri oedd yn ffermwyr ac yn denantiaid i Maurice Wynn o Gastell Gwydir, ger Llanrwst. Mae’n rhaid bod dipyn o feddwch o’r teulu gan i William gael ei anfon i Gastell Gwydir yn ifanc i gael ei addysgu ochr yn ochr â phlant ei feistr tir.
Yn ddiweddarach addysgwyd William ym Mhrifysgol Caergrawnt, gan dreulio 10 mlynedd yn astudio i ddod yn Faglor a Meistr yn y Celfyddydau, Baglor a Doethur mewn Diwinyddiaeth. Roedd yn gryn 'sgolor gan iddo hefyd astudio’r ieithoedd Groeg a Hebraeg.
Aeth neges o gwmpas y wlad gan Elizabeth I ei bod am i’r Beibl gael ei gyfieithu i’r Gymraeg. Aeth William Morgan ati i wynebu’r her anferth hon a gymerodd 10 mlynedd maith i’w chwblhau.
Erbyn 1588 roedd wedi cwblhau’r gwaith, ac amcangyfrifir bod 1000 o gopïau o’r Beibl hwnnw wedi eu hargraffu. Heddiw, dim ond tua 24 o gopïau y gwyddys eu bod wedi goroesi, ac mae un ohonynt i’w weld yn Nhŷ Mawr.
Nid oedd y Cymry erioed wedi gallu, nac wedi cael, addoli yn eu hiaith eu hunain. Gorchmynnodd y Brenin Harri’r VIII mai dim ond Beiblau Saesneg oedd i gael eu defnyddio yng Nghymru. Cyn hynny, roedd yr holl wasanaethau crefyddol yn cael eu cynnal yn Lladin.
Roedd y cyfieithiad yn gam pwysig iawn yn hanes yr iaith Gymraeg ac yn hanes Cristnogaeth. Ar ôl Deddfau Uno 1536, gwrthodwyd statws swyddogol i’r iaith Gymraeg ac roedd wedi ei gwahardd o feysydd y gyfraith a gweinyddiaeth.
Honnir mai llyfr William Morgan yw’r cyhoeddiad pwysicaf yn y Gymraeg gan ei fod wedi atgyfnerthu statws yr iaith. Ym Mhrydain yn oes y Tuduriaid roedd y Beibl yn rhan bwysig o fywyd bob dydd.
Yn aml, dyma’r unig destun oedd o fewn cyrraedd i fwyafrif y bobl gyffredin. O ganlyniad i waith William roedd dysgeidiaeth y Beibl o fewn cyrraedd rhwydd i’r Cymry, a chreodd fersiwn safonol o’r Gymraeg ysgrifenedig am y tro cyntaf erioed.
Erbyn y ganrif ganlynol yng Nghymru yr oedd un o’r lefelau uchaf o lythrennedd ymysg y werin yn Ewrop. Cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg oedd yn gyfrifol am hyn i raddau helaeth.
Yn 2019, er mwyn ei anrhydeddu, rhoddwyd enw’r Esgob William Morgan ar un o adeiladau’r llywodraeth. Dan yr enw ‘Tŷ William Morgan’ gallwch ddod o hyd i’r adeilad pwysig hwn ym mhrifddinas Cymru yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ Mawr Wybrnant ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda dros 140 o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.