Skip to content
Datganiad i'r wasg

Partneriaeth i adfer mawndiroedd ar raddfa fawr yn helpu adar dan fygythiad i ddychwelyd i’r Migneint

Cyhoeddwyd:
02 Mehefin 2026
Prosiect partneriaeth rhwng RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri yn adfer 65 hectar o fawndir wedi dirywio ar Y Migneint
Prosiect partneriaeth rhwng RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri yn adfer 65 hectar o fawndir wedi dirywio ar Y Migneint | © National Trust

Mae prosiect mawr i adfer mawndiroedd ar Y Migneint yn Eryri eisoes yn sicrhau manteision sylweddol i fywyd gwyllt, yr hinsawdd a dŵr, diolch i bartneriaeth gydweithredol rhwng RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri.

I nodi Diwrnod Mawndiroedd y Byd, heddiw 2 Mehefin, mae’r prosiect yn tynnu sylw at rôl hanfodol mawndiroedd iach yn fyd-eang o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chefnogi bioamrywiaeth.

Gyda chefnogaeth cyllid gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP), mae’r tri sefydliad wedi buddsoddi oddeutu £200,000 i adfer cynefin mawndir sydd wedi dirywio ar draws tirwedd yr ucheldir.

Dywedodd Mannon Lewis, Arweinydd Strategol CNC ar y Rhaglen Mawndiroedd:

“Mae hyn yn ganlyniad gwych i bartneriaeth Adfer Mawndir Cymru, gyda'r cynllun chyflenwi wedi’i ariannu drwy NPAP. Yn gyntaf, mae’n wych gweld partneriaeth ar waith, sydd yn hanfodol er mwyn gyflawni adfer mawndiroedd ar raddfa eang, fel yn y Migneint. Yn ail, mae’n dda gweld y tri sefydliad hyn yn cydweithio, gan uno eu harbenigedd i gyflawni adfer mawndir effeithiol sydd o fudd dros natur, hinsawdd, a llif dŵr. Edrychwn ymlaen at adolygu cynnydd y prosiect ac yn y pen draw uwchlwytho'r data i’r cyhoedd ar Fap Mawndir Cymru.”

Hyd yma, mae 65 hectar o fawndir — sy’n cyfateb i oddeutu 91 cae pêl-droed — wedi cael eu hailwlychu a’u hadfer, gan helpu i ddychwelyd y cynefin hwn, sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, i gyflwr iachach.

Mae’r prosiect partneriaeth uchelgeisiol eisoes yn dangos canlyniadau calonogol ar gyfer rhai o adar ucheldir Cymru sydd dan y bygythiad mwyaf, gyda rhywogaethau fel y Gylfinir, y Cwtiad Aur, y Grugieir Duon a’r Gïach wedi’u cofnodi’n dychwelyd i ardaloedd sydd wedi’u hadfer.

Dywedodd David Smith, Uwch Swyddog Cadwraeth RSPB Cymru:

“Rydyn ni’n hynod falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri ar y prosiect uchelgeisiol hwn i adfer mawndiroedd yn Y Migneint. Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd ar y raddfa sydd ei hangen, ac mae’n galonogol iawn gweld y Gylfinir, y Cwtiad Aur, y Grugieir Duon a’r Gïach yn dychwelyd i ardaloedd sydd wedi’u hadfer. Mae mawndiroedd iach yn hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, storio carbon a rheoli dŵr, ac mae’r prosiect hwn yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau’n dod at ei gilydd gyda gweledigaeth ar y cyd ar gyfer adfer natur.”

Mawndiroedd yw un o gynefinoedd naturiol mwyaf gwerthfawr Cymru, gan storio llawer iawn o garbon, helpu i wella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd i lawr yr afon. Fodd bynnag, pan fyddan nhw’n cael eu difrodi ac wedi sychu, maen nhw’n dechrau rhyddhau carbon i’r atmosffer ac yn dod yn llawer llai addas ar gyfer bywyd gwyllt.

Dywedodd Dewi Davies, Rheolwr Prosiect gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

"Mae mawndiroedd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mewn cyflwr iach, maen nhw’n gweithredu fel sbwng mawr, yn amsugno dŵr a charbon ac yn darparu cynefinoedd hanfodol i lu o rywogaethau. Mae adfer tirweddau corsiog fel Y Migneint yn ateb seiliedig ar natur sy'n sicrhau manteision go iawn, ac mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i wneud i hyn ddigwydd."

Mae’r gwaith adfer ar Y Migneint wedi canolbwyntio ar ailwlychu mawndir sych ac sydd wedi dirywio drwy arafu symudiad dŵr ar draws y dirwedd ac adfer hydroleg naturiol. Drwy gadw dŵr yn y mawn, gall y cynefin ddechrau adfer yn naturiol, gan greu amodau gwell i rywogaethau’r ucheldir fwydo, magu a ffynnu.

Mae’r prosiect yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, gan ddod ag arbenigedd, cyllid a chamau cadwraeth ymarferol at ei gilydd i gyflawni adferiad ar raddfa’r dirwedd.

Dywedodd Rachel Harvey, Swyddog Mawndiroedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri:

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos ers tro byd gyda’r RSPB ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar brosiectau adfer mawndiroedd, gan eu bod yn aml yn gofyn am ddull cydweithredol a chyfannol. Mae’r gwaith ar Y Migneint yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, ac mae’n galonogol iawn gweld canlyniadau o’r fath mor fuan ar ôl adfer hydrolegol. Mae dychweliad rhywogaethau adar eiconig o’r fath yn arwydd gwych bod y cynefin ehangach sy’n eu cynnal ar y llwybr at adferiad. Rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn bod gennym ni gymuned mawndiroedd mor gydweithredol yma yng Nghymru.”

Mae’r gwaith hefyd yn rhan o ymdrechion ehangach ledled Cymru i adfer mawndiroedd a diogelu’r manteision cyhoeddus niferus maen nhw’n eu darparu i bobl, i fyd natur ac i’r hinsawdd.