Aberdulais: Chwyldro Diwydiannol ers 1584

Cerflunwaith o linell amser Aberdulais

Mae angen arian parod ar y Frenhines Elisabeth I er mwyn prynu llongau rhyfel i frwydro yn erbyn Armada Philip o Sbaen. Yn ffodus, mae’r datrysiad perffaith gan Ulrich Frosse, peiriannydd o’r Almaen.

Mae wedi perffeithio dull newydd o fwyndoddi copr i’w droi yn arian y deyrnas. Ond mae’r holl beth yn gyfrinachol ac mae angen rhywle tawel a diarffordd arno i ganlyn ei grefft.

Y lle mae’n ei ddewis yw... Aberdulais.

" ...far from the pryinge eyes of his competitors"
- Ulrich Frosse

Beth ddigwyddodd nesaf

Digwyddodd hynny 200 o flynyddoedd cyn y chwyldro diwydiannol. A byth ers hynny, mae’r ceunant cul hwn ger aber Afon Dulais y tu allan i Gastell-nedd wedi bod wrth wraidd stori ddiwydiannol Cymru, diolch i’w gyflenwadau toreithiog o lo, pren....a dŵr.

Yn dilyn y diwydiant mwyndoddi copr daeth Aberdulais yn safle pwysig ar gyfer y diwydiant haearn, pannu tecstilau a malu grawn ac – yn bwysicaf oll – gweithgynhyrchu tunplat yn y 19eg ganrif.

Dehongli mwyndoddi copr
Dehongli mwyndoddi copr

O’r hwrli-bwrli i hafan heddychlon

Mae’n anodd dychmygu heddiw y gwres, y llwch, y sŵn a’r holl laid a fyddai wedi bod mor amlwg ar y safle bryd hynny. Heddiw, mae’r amgylchedd prydferth yn hafan i anifeiliaid  gwyllt, planhigion brodorol ac ymwelwyr chwilfrydig.

" It was so hot, the sweat ran out of their shoes"
- Tinplate worker, aged 8

Yn ystod y cyfnod prysuraf, cafodd tunplat ei allforio ar draws y byd, nes i’r Americaniaid wneud penderfyniad economaidd i ddiogelu eu diwydiant ifanc nhw a rhoi tollau anferth ar fewnforion tunplat. Roedd cyfnod llewyrchus Aberdulais yn dod i ben.

Dal i fynd, dal i gofio

Ond doedd pethau ddim mor ddu ag y gallen nhw fod wedi bod. Ganrif wedyn – yn 1980 – roedd Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a heddiw mae pŵer dŵr yn cynhyrchu trydan ‘gwyrdd’ i’r genedl. Mae hanes yn ailadrodd ei hun (ond erbyn hyn ry’n ni’n croesawu ymwelwyr o Sbaen yn hytrach na’u hystyried yn elynion marwol).

Dydyn ni ddim yn gwybod rhyw lawer am hanes cynnar Aberdulais. Ond mae dros 30 o flynyddoedd o waith adfer a chadwraeth gan yr Ymddiriedolaeth wedi dod â’r cyfnod tunplat yn ôl yn fyw. Mae’r olwyn ddŵr yn troi ym mhwll yr olwyn wreiddiol; mae dehongli a ffilmiau yn paentio lluniau byw o fywyd y gorffennol.

Mae plant ysgol lleol yn  adrodd ar ffilm straeon am eu cyndeidiau, a orfodwyd i weithio yn wyth oed. Ac mae disgynyddion y gweithwyr tunplat yn adrodd y straeon a drosglwyddwyd  gan eu hen famguod a thadcuod.

Grym Natur

Ac wrth gwrs mae Aberdulais yn gartref i raeadr ddramatig. Pan fydd hi’n bwrw glaw, mae hi’n taranu. Gall neb amau pŵer aruthrol natur wrth wylio’r holl litrau o ddŵr yn plymio dros y creigiau bob dydd.
Ar ddiwrnodau tawelach, mae’r rhaeadr yn fwy mwyn ac yn cynnig cynefin bwydo da i ystlumod y dŵr ac i adar niferus fel bronwen y dŵr, y siglen a’r crëyr glas.

Heddiw

Yn union fel y mae dŵr Afon Dulais yn parhau i lifo, felly hefyd mae’r traddodiad o ddefnyddio’r rhaeadr fel ffynhonnell o bŵer yn dal i fynd yn ei flaen. Heddiw mae’n gyrru’r olwyn ddŵr bŵer fwyaf yn Ewrop ac yn creu ynni gwyrdd, glân.

Aberdulais – Chwyldro Diwydiannol ers 1584!