Lle braf i ymwelwyr
Yn ogystal â chlywed straeon am hanes bywiog Aberdulais, mae nifer o resymau eraill i ymweld â’r lle.
Gall ymwelwyr weld y ffilm 'Reflections on Tin' – ffilm sy’n mynd â chi ar daith drwy Aberdulais o’i genedigaeth hyd at heddiw. Ac mae mwy o ddehongliadau cyffrous wedi cael eu cynllunio ar gyfer y dyfodol agos.
Beth am gael picnic ar bwys y rhaeadr, neu gael rhywbeth blasus i’w fwyta o ystafell de’r Hen Ysgoldy a chwarae ar y fedwen haf?
Mae gennym wisgoedd Fictoraidd a phecynnau ditectif tun hefyd, sy’n mynd â chi ar lwybr synhwyrau drwy’r hen waith tun.
Heb sôn am y bywyd gwyllt diddorol sydd yn Aberdulais hefyd.
Ac mae hyn i gyd yma oherwydd y rhaeadr.